Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Cerdyn argyfwng gofalwyr

Mae cerdyn argyfwng Gofalwyr yn dangos bod rhywun yn dibynnu arnoch na all ymdop​i heb help.

Os cewch ddamwain neu salwch sydyn neu os na fyddwch yn gallu dychwelyd gartref a gwneud eich trefniadau eich hun am unrhyw reswm arall , bydd gwasanaethau argyfwng ac iechyd yn hysbysu eich cysylltiadau argyfwng.

 
Os na all neb gymryd eich lle, bydd gwasanaethau gofal cymdeithasol ac argyfwng yn trefnu i rywun ofalu am y person sydd mewn perygl.
 

Sut mae gwneud cais am gerdyn argyfwng gofalwyr?


 
I fod yn gymwys am gerdyn argyfwng gofalwyr, rhaid i chi fod yn 18 oed neu'n hŷn neu fod yn ofalwr i oedolyn arall sy'n byw yng Nghaerdydd.

 
I gael eich cerdyn argyfwng gofalwyr, llenwch y ffurflen gofrestru (PDF 90.6 KB)​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd gan roi manylion cyswllt, gwybodaeth am y person rydych yn gofalu amdano a hyd at dri pherson a all gymryd eich lle mewn argyfwng.

 
I ofyn am gopi o'r ffurflen gofrestru gael ei hanfon atoch, cysylltwch â ni.


© 2022 Cyngor Caerdydd