Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014

​ Mae'r Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn rhoi mwy o gyfle i chi ddweud eich dweud ynghylch y gofal a'r cymorth rydych yn eu derbyn. 
 
Mae'r ddeddf yn hyrwyddo annibyniaeth ac yn grymmuso pobl drwy roi gwybodaeth, cyngor a chymorth iddynt. 
 
 

 

Pwy a gaiff ei effeithio?


 
Bydd y ddeddf yn effeithio ar:
 
  • ​Oedolion 

  • Plant

  • Gofalwyr

  • Gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol


 

Prif nodau’r Ddeddf


 
Gyda mwy o bobl angen gofal a chymorth yng Nghymru, mae angen model gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy ar y wlad. Bydd hyn yn cynnwys awdurdodau lleol, byrddau iechyd a sefydliadau’r trydydd sector yn gweithio mewn partneriaeth i roi gwybodaeth, cymorth a gwasanaethau i bobl mewn angen. 
 
Bydd rhagor o wasanaethau ar gael i atal problemau rhag gwaethygu, felly mae’r cymorth cywir yno i chi pan fydd ei angen arnoch. 
 
Bydd y ddeddf yn:
 
  • ​Gwneud bywyd yn well i bobl a’u gofalwyr

  • Gwneud cyfraith gofal cymdeithasol yn haws ei defnyddio

  • Rhoi llais cryfach a mwy o reolaeth i bobl

  • Sicrhau bod pobl yn cael yr help sydd ei angen arnynt i fyw bywyd da

  • Creu darlun cyson o’r gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru

  • Sicrhau bod gan gymunedau gyfle i gynnig eu gwybodaeth a’u profiad

 
Bydd y ddeddf hefyd yn cyflwyno pwerau cryfach i gadw plant a phobl ifanc agored i niwed yn ddiogel rhag cam-drin neu esgeuluso.
 
Bydd proses asesu newydd o ran gofal a chymorth yn seiliedig ar beth sy’n bwysig i unigolion. Bydd yn ystyried cryfderau personol, y cymorth sydd ar gael gan aelodau’r teulu, ffrindiau a phobl eraill yn y gymuned.  
 

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Llywodraeth Cymru​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd​​.

​​
© 2022 Cyngor Caerdydd