Nid yw rhai pobl sy’n byw mewn ysbytai a chartrefi gofal yn gallu gwneud penderfyniadau drostynt eu hunain, gan gynnwys dewisiadau am eu gofal neu driniaeth.
Gall demensia, niwed i’r ymennydd, salwch corfforol neu feddyliol difrifol, neu gamddefnyddio sylweddau achosi'r diffyg galluedd meddyliol hwn.
Mae angen mwy o ofal nag eraill ar y bobl hyn i’w hamddiffyn rhag niwed.
Mae ysbytai a chartrefi gofal bob amser yn ceisio osgoi amddifadu person o'i ryddid. Ond, weithiau mae cyfyngu ar eu rhyddid o fudd iddynt.
Mae gennym gyfrifoldeb i amddiffyn a chynorthwyo'r unigolion hynny, a'u teuluoedd a'u gofalwyr. Mae Deddf Galluedd Meddyliol 2005Dolen yn agor mewn ffenestr newydd yn rhoi’r pwyslais ar gynorthwyo unigolion a’u galluogi i wneud eu penderfyniadau eu hunain.
Gallwch ddysgu am y Ddeddf yn y dogfennau Deddf Gallu Meddyliol Cod YmarferDolen yn agor mewn ffenestr newydd a Diogelu rhag colli rhyddid (PDF 470 KB)Dolen yn agor mewn ffenestr newydd