I drefnu angladd gyda Chyngor Caerdydd, cysylltwch â:
Gwasanaeth Angladdau Cyngor Caerdydd
Michael G Ryan Son and Daughters Cyf
302a Heol y Gogledd
Caerdydd
CF14 3BN
029 2062 6101
Cost
- Trefniadau angladd gan Michael G Ryan, Son and Daughters - £1030
- Ffi amlosgi yn cynnwys y defnydd o gapel y Wenallt neu gapel Briwnant (mae system gerddoriaeth ar gael) a gwasgaru’r gweddillion amlosgedig yn un o’r gerddi coffa heb unrhyw un yn bresennol - £490
- Ffioedd meddygon am dystysgrifau amlosgi (amcangyfrif) - £157
- Prynu bedd newydd (100 mlynedd) am ddwy gladdedigaeth - £660
- Ffi claddu i balu bedd, ei baratoi a’i ôl-lenwi - £590
- Gwasanaeth yng nghapel y Wenallt neu gapel Briwnant yn cynnwys cerddoriaeth - £150
Nid yw’r amcangyfrif hwn o gostau yn cynnwys teyrngedau blodau, ffioedd eglwys a chlerigwyr na hysbysiadau marwolaeth.
Cyflogi trefnwr angladdau
Os ydych yn dewis defnyddio trefnwr angladdau arall argymhellwn eich bod yn gofyn am amcangyfrif o’r gost gan nifer o wahanol drefnwyr angladdau cyn gwneud penderfyniad. Gallai hyn fod yn rhywbeth y gall perthynas neu gyfaill ei wneud ar eich rhan.
Dylech nodi y gallai unrhyw newidiadau a wneir i’r trefniadau gwreiddiol y cytunwyd arnynt gyda threfnwr angladdau effeithio ar eich bil terfynol.
Os oes gennych reswm i gwyno am drefnwr angladdau gallwch gysylltu â’r Adran Safonau Masnach.
Trefnu angladd heb gyflogi trefnwr angladdau
Nid oes rhaid defnyddio gwasanaethau trefnwr angladdau i drefnu angladd. Os ydych yn penderfynu trefnu’r angladd eich hun bydd rhaid i chi allu cludo’r arch i’r amlosgfa neu’r fynwent eich hun. Os ydych yn dewis yr opsiwn yma, cysylltwch â ni.