Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Trosedd Casineb

​​Gall trosedd casineb fod yn eiriol neu’n gorfforol, gall gynnwys bygythiad neu sarhad ar sail oed, Anabledd, Ethnigrwydd, Daliadau Crefyddol neu Ddiffyg Crefydd, Rhyw, Hunaniaeth o ran Rywedd neu Gyfeiriadedd Rhywiol.
 
Gall trosedd casineb fod yn weithred droseddol y mae’r dioddefwr neu unrhyw berson arall yn barnu eu bod wedi digwydd yn sgil rhagfarn a chasineb.
 
Yn aml, fydd pobl ddim yn adrodd am droseddau casineb. Mae hyn yn caniatáu i’r troseddwyr barhau’n rhydd i droseddu. Os ydych chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod wedi dioddef o drosedd casineb, sicrhewch fod yr awdurdodau perthnasol yn gwybod. Drwy adrodd am y troseddau hyn, gellir cofnodi faint ohono sydd yn digwydd yng Nghaerdydd, a pha fath o ddigwyddiadau ydyn nhw. Gall hyn sicrhau y targedir adnoddau yn effeithiol i fynd i’r afael â’r sefyllfa.  

Mae rhagor o wybodaeth am droseddau casineb ar wefan Heddlu De Cymru​​.

​Adrodd am Drosedd Casineb

Os ydych mewn perygl uniongyrchol ffoniwch yr Heddlu ar 999 (materion nad ydynt yn argyfyngus 101).

Gallwch riportio trosedd casineb ar-lein gan ddefnyddio ​​​Victim Support. Gallwch roi gwybod yn ddienw os oes angen. 

Gallwch hefyd gysylltu â Chymorth i Ddioddefwyr 24 awr y dydd ar 0300 30 31 982​.



© 2022 Cyngor Caerdydd