A yw fy ysgol ar agor?
Byddwn yn rhoi’r newyddion diweddaraf i chi am ysgolion sydd wedi cau a tharfu ar wasanaethau trafnidiaeth ysgol dros gyfnod y tywydd garw.
Gall iâ ac eira ar y llawr olygu na chaiff y strydoedd eu glanhau hyd yn oed os oes modd cyrraedd yr ardal ar y ffyrdd.
Os oedd eich ardal chi i fod i gael ei glanhau heddiw a bod y tywydd wedi amharu ar hynny, hoffem eich sicrhau y byddwn yn gwneud pob ymdrech i lanhau eich ardal cyn gynted ag y bo'n ymarferol i wneud hynny.
Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am unrhyw barciau, canolfannau neu gyfleusterau eraill a allai fod wedi’u cau a/neu wedi’u heffeithio arnynt.
O ganlyniad i dywydd eithafol a'r galw sylweddol mae hyn wedi'i roi ar y cyngor, byddwn ond yn gallu at gyweirio eich eiddo cyngor os ystyriwn fod bygythiad i fywyd neu berygl o anaf.
Gofynnwn i chi fod yn amyneddgar ynghylch y mater hwn ac rydym yn cynghori tenantiaid y cyngor i beidio a galw'r llinell atgyweirio oni bai mewn argyfwng.
Mae'n hanfodol bwysig bod modd i breswylwyr sydd angen cysylltu a'n gweithredwyr gael ateb yn gyflym.
I'r rhai hynny ohonoch sydd mewn sefyllfa nad yw'n un brys, gallwn argymell y cyngor canlynol ar gadw'n ddiogel ac yn gynnes:
- Os nad ydych chi'n gallu cynhesu pob ystafell, sicrhewch fod eich ystafell fyw yn gynnes drwy'r dydd a chynheswch eich ystafell wely cyn mynd i gysgu.
- Gwisgwch dillad addas a all eich helpu i gadw'n gynhesach o lawer. Haenau o ddillad sydd orau - crysau-t a dillad tebyg i gadw gwaelod eich cefn yn gynnes i'ch cynhesu o'ch canol.
- Os oes gennych berthnasau oedrannus neu gymdogion a all fod angen cymorth, galwch heibio.
Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am unrhyw cynwentydd ac angladdau neu gyfleusterau eraill a allai fod wedi’u cau a/neu wedi’u heffeithio arnynt.
Ffoniwch 0300 1234530 y tu allan i oriau
Sylwer: Rhif ffôn mewn argyfwng yw hwn, i alwadau am briffyrdd a gwaith cynnal a chadw dros y gaeaf yn unig