Rydym yn ymrwymedig i nifer o gynlluniau ledled y ddinas ar hyn o bryd i fynd i’r afael â’r achosion mynych o droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn lonydd cefn.
Rydym wedi ystyried dulliau amrywiol i atal problemau sy’n gysylltiedig â lonydd cefn, ac mewn ardaloedd lle ceir llawer o bryderon, gellid ystyried gosod gatiau lonydd cefn pan fetho popeth arall.
Gatio Lonydd cefn
Gatio yw cyfyngu ar fynediad i lonydd cefn drwy osod gatiau sy’n cloi. Y nod yw lleihau ar gyfleoedd i droseddu a chyflawni ymddygiad gwrthgymdeithasol. Caiff y preswylwyr allwedd yr un i gael mynediad i’r lôn gefn.
Ceisiadau gatio cyfredol Sylwer: Mae pob Gorchymyn Gatio yn destun y darpariaethau a geir yn y Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus
Mae’r holl orchmynion ar y safle hwn y cyfeirir atynt fel Gorchmynion Gatio bellach yn Orchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus. Nid yw’r Gorchmynion hyn yn destun y darpariaethau a geir yn Neddf Priffyrdd 1980 mwyach, ond yn hytrach yn destun y darpariaethau a geir yn Neddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (y Ddeddf) yn unol â’r darpariaethau trosiannol dan adran 75 y Ddeddf.
Beth mae hyn yn ei olygu?
Mae’r Cyfyngiadau a’r Atodlenni yn aros yr un fath â’r rheiny a nodwyd yn y Gorchymyn Gatio gwreiddiol. Fodd bynnag, dim ond am gyfnod o hyd at 3 blynedd y gellir gwneud Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus. Bydd yr holl orchmynion trosiannol yn dod i ben ar 19/10/2020, er mae’n bosib y cânt eu hymestyn am 3 blynedd arall yn dibynnu ar adolygiad. Nid oes unrhyw gyfyngiad o ran nifer yr estyniadau y gellir eu hystyried.
Gatiau a osodwyd
A oes angen i chi wneud cais am allwedd gât lôn gefn?
Os ydych yn berchen ar eiddo (fel landlord, perchen-feddiannydd neu berchennog busnes) ar bwys lôn â gât, mae gennych hawl i gael allwedd er mwyn cloi a datgloi gât y lôn gefn.
Gall landlordiaid, perchen-feddianwyr a pherchenogion busnes yr eiddo hwn gael allwedd newydd drwy fynd i’r Hyb Cynghori Canol y Ddinas, Llyfrgell Ganolog Caerdydd, Yr Aes, Caerdydd, CF10 1FL.
Cofiwch ddod â 2 fath o brawf hunaniaeth (gan gynnwys un â llun) er mwyn cadarnhau eich cyfeiriad. Codir tâl o £10.00 am bob allwedd newydd neu ychwanegol.
Bydd angen i denantiaid hefyd ddod â chaniatâd ysgrifenedig gan eu landlord er mwyn gallu nôl allwedd.
Gofyn am allwedd neu adrodd problem