Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Gwneud cais am ganiatâd cynllunio

​​​

Os ydych yn bwriadu gwneud unrhyw waith adeiladu neu ddymchwel yng Nghaerdydd rhaid i chi:

 

 

 

Gallwch hefyd lawrlwytho ffurflenni cynllunio a’u dychwelyd i'r cyfeiriad ar y dudalen hon.   

 

Ffurflenni cais

 

Mae’r holl ffurflenni a chanllawiau a restrir yma hefyd ar gael ar wefan y Porth Cynllunio​​​​​​​​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd.


Gall caniatâd cynllunio amlinellol (847kb PDF)​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd weithiau fod yn briodol pan fydd angen cytundeb ‘mewn egwyddor’ arnoch am y datblygiad rydych yn bwriadu’i wneud, heb orfod ymrwymo i gynllun penodol. Nid oes angen cyflwyno cymaint o fanylion penodol ar gyfer y math hwn o gais cynllunio. Gall materion wedi’u cadw’n ôl gynnwys:  ymddangosiad, mynediad, tirlunio, cynllun a maint. Canllaw ar gael help gyda’r cais (96.4kb PDF)​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd.

Mae caniatâd cynllunio amlinellol gyda phob mater wedi’i gadw’n ôl (759kb PDF) ​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd yn golygu nad oes angen manylu ar unrhyw un o’r manylion ychwanegol ar y cam hwn, fel ymddangosiad, mynediad, tirlunio neu gynllun. Mae gwybodaeth am wneud cais yn y canllaw cymorth (63.6kb PDF)​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd.

Materion wedi’u cadw’n ôl yn dilyn caniatâd amlinellol (343kb PDF)​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd. Os ydych wedi llenwi un o’r ffurflenni caniatâd cynllunio amlinellol (rhai materion wedi’u cadw'n ôl/pob mater wedi’i gadw’n ôl), bydd angen i chi lenwi’r ffurflen hon yn nes ymlaen i gael caniatâd ar gyfer y materion a gadwyd yn ôl – neu na fanylwyd arnynt – cyn i chi ddechrau ar y gwaith. Canllaw cymorth (35.4kb PDF)​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd.

 

Os ydych am osod hysbyseb, e.e.

 

  • ar flaen siop neu fusnes (gyda/heb oleuadau)
  • taflunio golau
  • hysbysfyrddau
  • arwyddion sy’n hongian
  • baneri​


rhaid cyflwyno Ffurflen Gais Gosod Hysbyseb (356kb PDF)​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd Ceir rhagor o wybodaeth am lenwi’ch cais yn y canllaw cymorth (24.7kb PDF)​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd.

Mae angen Cais i Gyflawni Amod (325kb PDF)​​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd​ pan fydd angen rhagor o wybodaeth ar gyfer y caniatâd cynllunio neu’r caniatâd adeilad rhestredig. Mae angen cyflwyno neu gymeradwyo’r manylion neu’r dogfennau y gofynnwyd amdanynt cyn i’r gwaith adeiladu allu dechrau. Mae’r canllaw (19.6kb PDF)​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd hwn yn cynnwys rhagor o wybodaeth am lenwi ffurflen gais.​

 

Defnyddir Diwygiad Ansylweddol i Ganiatâd Cynllunio Presennol (330kb PDF)​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd pan fo angen i chi ddiwygio manylion a gymeradwywyd yn flaenorol fel newid bach i ddyluniad neu ddeunyddiau a ddefnyddir ar broject.  Canllaw cymorth (26.5kb PDF)​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd


Mae dileu neu amrywio amod ar ôl i ganiatâd cynllunio gael ei roi (346kb PDF)​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd yn gysylltiedig â sefyllfa lle eich bod eisoes wedi cael caniatâd cynllunio ond yr hoffech ddileu neu newid amod o’r caniatâd e.e. newid amseroedd agor eiddo busnes neu fasnachol. Canllaw cymorth (35.4kb PDF)​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd.

Mae Mân Newid i Ganiatâd Cynllunio Presennol (330kb PDF)​​​​​​​​​​Link opens in a new windowar gyfer pan fo angen i chi ddiwygio manylion a gymeradwywyd o flaen llaw megis mân newid i ddyluniad neu ddeunyddiau a ddefnyddir ar broject. Canllaw cymorth (26.5kb PDF)​​​​​​​​​​Link opens in a new window

Os ydych am ddymchwel eich cartref, neu safle busnes, efallai y bydd angen i ni gytuno ar fanylion o ran sut rydych yn bwriadu gwneud hynny a sut rydych yn cynnig adfer y safle wedi hynny.

 

Sut i wneud cais:

 
Mae rhagor o wybodaeth ar wefan y Porth Cynllunio​​​​​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd lle gallwch hefyd wneud cais ar-lein i ddymchwel adeilad.​​​​​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd

 

Fodd bynnag, os byddai’n well gennych lenwi ffurflen gais ar bapur a’i hanfon atom drwy’r post, bydd angen i chi lenwi tri math o ddogfen:

 

 

  • Rhaid i chi osod Hysbysiad Dymchwel (10.2kb PDF)​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd ar yr un adeg â phan anfonwch eich Cais i Ddymchwel. Rhaid ei lenwi, ei argraffu a’i osod ar safle’r gwaith dymchwel arfaethedig, neu wrth y safle hwnnw. Rhaid iddo fod yn weladwy i'r cyhoedd ac yn hawdd i’w ddarllen. Bydd yn cymryd 28 diwrnod, o’r dyddiad y byddwch yn anfon eich Cais i Ddymchwel, i ddod i benderfyniad, a rhaid i’ch Hysbysiad Dymchwel gael ei arddangos am o leiaf 21 o’r 28 diwrnod hwnnw.

 


Os ydych yn cynllunio i ddymchwel adeilad neu adeiledd mewn ardal gadwraeth bydd angen i chi wneud cais am Ganiatâd dymchwel mewn ardal gadwraeth (344kb PDF)​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd. Gallwch ddefnyddio’r canllaw cymorth (37.6kb PDF)​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd wrth lenwi’r ffurflen. 

Bydd hyn yn mynd law yn llaw â chais cynllunio llawn, felly bydd angen cyflwyno dau gais dan rai amgylchiadau.​

​I gael rhagor o wybodaeth am adeiladau rhestredig yng Nghaerdydd gallwch gysylltu â’r tîm cadwraeth.

 

​Rhaid i chi wneud cais am Ganiatâd Adeilad Rhestredig (422kb PDF)​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd os ydych yn cynllunio gwaith dymchwel, addasu neu estyn sy’n effeithio ar gymeriad adeilad rhestredig statudol. Gellir gwneud ceisiadau ar-lein yn Ceisiadau Cynllunio Cymru​​​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd. Mae’n rhaid cynnwys Datganiad o’r Effaith ar Dreftadaeth (583kb PDF)​​​​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd ar gyfer pob cais Caniatâd Cynllunio sy’n ymwneud ag Adeilad Rhestredig.


Gweld adeiladau rhestredig ar fap​​​​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd


Mae angen caniatâd arnoch i weithio ar unrhyw rannau o’r adeilad, waeth beth yw gradd yr adeilad a ph’un a yw’r nodwedd rydych yn gweithio arni’n cael ei chrybwyll yn benodol yn y rhestr graddau ai peidio. Mae Cadw wedi paratoi canllawiau ar reoli newidiadau i adeiladau rhestredig. Gall gwaith gynnwys adeiladau neu adeileddau eraill sy’n gysylltiedig â’r prif adeilad rhestredig a gall hefyd fod yn berthnasol i waliau ffiniol. Mae rhagor o wybodaeth am lenwi’r ffurflen gais yn y canllaw cymorth (47kb PDF).​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd Bydd hyn yn mynd law yn llaw â chais cynllunio llawn, felly bydd angen cyflwyno dau gais dan rai amgylchiadau.​


Rydym yn cynghori’n gryf eich bod yn cyflwyno ymholiad Cyn Gwneud Cais​ cyn cyflwyno’r cais.

Os ydych yn berchen ar ddarn o dir neu adeilad a’i fod yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gweithgaredd – fel rhedeg busnes – gallwch wneud cais am ddogfen statudol a all brofi a yw’r defnydd hwnnw’n gyfreithlon.  

Tystysgrif Datblygu Cyfreithlon (TDC) yw hon, sy’n profi a yw gweithgaredd neu weithrediad sy’n digwydd mewn adeilad neu ar dir yn gyfreithlon. Gall hyn gynnwys:


  • os yw ardal yn cael ei defnyddio i barcio cerbydau cwmni
  • os yw ardal neu adeilad yn cael ei ddefnyddio i gadw offer neu stoc
  • cadarnhau a yw amseroedd agor adeilad, safle neu fusnes yn gyfreithlon.


Gall hyn fod yn ddefnyddiol os ydych yn ceisio gwerthu tir ond eich bod yn sylwi na roddwyd caniatâd cynllunio, a’ch bod am ddangos i unrhyw brynwyr posibl bod y gweithgaredd neu’r busnes sy’n digwydd yno’n gyfreithlon. Fodd bynnag, mae angen i chi roi tystiolaeth i ddangos bod y defnydd neu’r gwaith wedi bod yn mynd rhagddo ers o leiaf 10 mlynedd.

 

Gallwch wneud cais am Dystysgrif Datblygu Cyfr​eithlon (479kb PDF)​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd drwy lawrlwytho a llenwi’r ffurflen.

 

 

Ceir canllaw cymorth (40kb PDF)​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd hefyd, sy’n cynnwys gwybodaeth am sut i lenwi’r ffurflen.

 

Os ydych yn bwriadu defnyddio tir neu adeilad at weithgaredd, gallwch wneud cais am Dystysgrif Datblygu Cyfreithlon am ddefnydd neu ddatblygiad Arfaethedig (358kb PDF).​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd

 

Darllenwch y canllaw cymorth (24kb PDF).​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd

Os bwriedir gwneud gwaith adeiladu, rhaid i berchennog y tir, yr adeiladau neu’r safle gael gwybod. Perchennog y safle yw'r rhydd-ddeiliad, neu’r lesddeiliad os oes o leiaf saith mlynedd o’r brydles yn weddill.

 

Cwblhewch Ffurflen Hysbysiad i Berchennog (22.6kb PDF).​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd

 

Os nad yw’r perchennog yn hysbys, cwblhewch Hysbysiad i’w gyhoeddi ar gyfer Tystysgrifau C a D a Ffurflen Hysbysiad i Berchennog (117kb PDF)​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd y mae’n rhaid eu cyhoeddi mewn papur newydd lleol.

 

Gallwch gysylltu â ni i gael rhagor o fanylion, neu ewch i wefan y Porth Cynllunio​​​​​​​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd.



 

Cysylltu a ni 

 

I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o’r ffurflenni cais hyn, neu i gael cyngor a chymorth cyffredinol ar y project rydych wedi’i gynllunio, cysylltwch â ni.

 

Rheoli Datblygu
Cynllunio Strategol, Priffyrdd a Thraffig a Thrafnidiaeth
Ystafell 201
Neuadd y Sir
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW

 

Ffon: 029 2233 0800

 

Ar gyfer ffurflenni cais, cyngor a chymorth cyffredinol, cysylltwch â’r adran Rheoli Datblygu:

Cysylltu â ni

 
Ar gyfer ymholiadau’n ymwneud ag Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth, cysylltwch â’r adran Gadwraeth.​
​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd