Ffioedd Ceisiadau Cynllunio
Mae cost gwneud cais am ganiatâd cynllunio yn dibynnu ar ba fath o waith rydych am ei wneud.
Lawrlwythwch y Raddfa Ffioedd (240kb PDF)Dolen yn agor mewn ffenestr newydd
Lawrlwythwch y Raddfa Ffioedd ar gyfer Hysbysebion (206kb PDF)Dolen yn agor mewn ffenestr newydd
Mae rhai mathau o geisiadau cynllunio, fel ychwanegu neu wella mynediad i bobl anabl mewn cartrefi ac adeiladau cyhoeddus, am ddim.
Gallwch
Apelio yn erbyn penderfyniad cynllunio am ddim
Sut i dalu
Os ydych yn cyflwyno’ch cais cynllunio drwy’r post bydd angen i chi anfon un copi o’ch ffurflen gais ynghyd ag un copi o’ch dogfennau ategol a’ch taliad yn llawn. Rhaid i bob ffi drwy’r post fod ar ffurf siec sy’n daladwy i Gyngor Caerdydd.
Rheoli Datblygiadau
Ystafell 201
Neuadd y Sir
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW
Os gwnewch gais ar-lein drwy’r Porth Cynllunio gallwch dalu’ch ffi naill ai’n electronig drwy gerdyn debyd neu drwy anfon siec i Neuadd y Sir. Ceir manylion ar wefan y Porth Cynllunio.
Pa mor hir fydd y broses?
Penderfyniadau ar gynllunio: Mae’r amser y bydd yn ei gymryd i wneud penderfyniad yn dibynnu ar fath y caniatâd cynllunio rydych wedi gwneud cais ar ei gyfer.
Fel arfer, byddwn yn penderfynu ar geisiadau o fewn 8 wythnos, ond mae dyddiad targed o 16 wythnos ar gyfer ceisiadau sy’n destun Asesiad o Effaith Amgylcheddol.
Mae penderfyniad cynllunio fel arfer yn ddilys am bum mlynedd, oni bai bod cyfyngiad amser penodol ar eich caniatâd cynllunio. Mae gennych bum mlynedd o’r dyddiad y caiff y caniatâd ei ddyfarnu i ddechrau ar y gwaith. Os nad ydych wedi dechrau ar waith o fewn pum mlynedd, gallai fod angen i chi wneud cais arall neu gais i ymestyn y caniatâd cyn iddo ddod i ben. Os oes angen i chi wneud hyn, efallai y bydd angen i chi ddefnyddio ffurflen gais Dileu neu Amrywio amod.
Cysylltwch â ni i gael rhagor o gyngor.
Apeliadau: Os yw’ch cais am ganiatâd cynllunio’n cael ei wrthod dylech geisio trafod cynllun wedi’i ddiwygio yn hytrach na chyflwyno apêl. Darllenwch fwy am
apelio yn erbyn penderfyniad cynllunio.
Mae gwefan y Porth Cynllunio wedi cwblhau
tabl amseroedd cyfartalogDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd ar ba mor hir mae mathau gwahanol o apeliadau’n para. Mae hyn fel arfer tua 15 i 30 wythnos.
Gwrthwynebu cais cynllunio
Amseroedd cyffredinol yw’r rhain. Penderfynir ar bob cam o’r broses gynllunio'n unigol, fesul achos, a gallai llawer o ffactorau gwahanol newid yr amser y mae’n ei gymryd i ddod i benderfyniad penodol. I gael rhagor o wybodaeth,
cysylltwch â ni:
Rheoli Datblygu
Cynllunio Strategol, Priffyrdd a Thraffig a Thrafnidiaeth
Ystafell 201
Neuadd y Sir
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW
029 2233 0800
Cysylltu â ni