Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Apelio yn erbyn penderfyniad

​​Os gwnewch gais am ganiatâd cynllunio a’i fod yn cael ei wrthod, byddwn yn ysgrifennu atoch gyda’r rhesymau. Os nad ydych yn fodlon ar y rhesymau, neu os nad ydych yn eu deall,  cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth.  Bydd gan y llythyr a anfonwn atoch nodyn yn egluro’ch opsiynau ar y cam nesaf.

 

Rydym yn argymell i chi geisio trafod cynllun wedi’i ddiwygio yn hytrach nag apelio. Yn yr achos cyntaf, cysylltwch â’r swyddog cynllunio a oedd yn gweithio ar y cynllun gwreiddiol.

 

Mae cofnodion y Porth Cynllunio​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd yn dangos, ar gyfartaledd, mai dim ond tua thraean o apeliadau sy’n llwyddo.

 

Os gwrthodwyd eich cais, gallwch o bosibl gyflwyno un cais arall gyda’ch cynlluniau wedi’u haddasu am ddim o fewn 12 mis i’r penderfyniad ar eich cais cyntaf.

 

Fodd bynnag, os ydych wedi cysylltu â ni i drafod eich gwrthodiad, efallai y byddwch o hyd am ystyried gwneud apêl cynllunio. Dylech ond wneud apêl pan fetho popeth arall.

 

Os penderfynwch apelio, rhaid i chi:

 

1. Wneud yn siŵr bod gennych hawl i apelio

 

Gallwch apelio:

 

  • Os mai chi gyflwynodd y cais cynllunio yn y lle cyntaf, neu os ydych yn Ysgutor dros rywun arall a’i gyflwynodd
  • Os rhoddwyd Hysbysiad Dirwyn i Ben i chi. Dyma hysbysiad sy’n gwneud i chi stopio arddangos hysbyseb neu ddefnyddio tir i ddangos hysbyseb.
  • Os cyflwynwyd Hysbysiad Gorfodi i chi.
  • Os oes gennych fudd cyfreithiol yn y tir lle gwneir yr apêl.
  • Os oeddech yn feddiannwr perthnasol ar y tir pan gyflwynwyd yr hysbysiad a phryd cyflwynwyd yr apêl.

 

Nid oes hawl apelio fel arall.

 

Dan y rhan fwyaf o amgylchiadau, dylech allu gwneud yr apêl eich hun, ond gall rhywun arall ei wneud ar eich rhan.

 

Darllenwch fwy am wneud apêl​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd neu cysylltwch â’n tîm cynllunio.

 

2. Apelio o fewn y terfyn amser

 

Chwe mis yw’r terfyn ar gyfer y rhan fwyaf o geisiadau, er mai wyth wythnos ydyw o ran caniatâd i arddangos hysbysebion. Darllenwch y Terfynau Amser Apelio​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd ar y Porth Cynllunio.

 

3. Cyflwyno’ch apêl

 

Gallwch apelio yn erbyn penderfyniad cynllunio​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd drwy’r Porth Cynllunio.
Mae hwn yn cynnwys gwybodaeth gynhwysfawr am y broses apelio gan gynnwys gwneud apêl, rhoi sylwadau ar apêl a chanllawiau ar wneud apêl.

 

4. Anfonwch gopi o’ch apêl i Gyngor Caerdydd

 

Rhaid i chi anfon copi o’ch apêl a’r holl ddogfennau ategol i planning.appeals@cardiff.gov.uk neu drwy’r post i:

 

Rheoli Datblygiadau
Ystafell 201
Neuadd y Sir
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW

 

Cost

 

Gallwch apelio yn erbyn penderfyniad i wrthod caniatâd cynllunio am ddim.

 

Pa mor hir fydd y broses yn cymryd?

Dylech ganiatáu digon o amser i sicrhau bod popeth yn cael ei gyflwyno drwy’r Porth Cynllunio a bod copïau yn cael eu hanfon i Gyngor Caerdydd cyn y terfyn amser.

 

Fel arfer, mae’n cymryd 15-30 wythnos i ddod i benderfyniad.

 

Cysylltu â ni

 

© 2022 Cyngor Caerdydd