Mae Cyngor Dinas Caerdydd wedi derbyn cymeradwyaeth Gweinidog Cynllunio Cymru i gyflwyno rheolaethau lleol dros godi arwyddion gosod tai yn wardiau Cathays a Phlasnewydd. Daeth y rheolaethau hyn i rym ar 1 Hydref 2015.
Y rheswm am y Cyfarwyddyd yw bod cynifer o arwyddion wedi’u gosod fel eu bod yn effeithio’n andwyol ar gymeriad ac ymddangosiad yr ardal a lles cymunedau preswyl.
Gelwir hyn yn ‘Cyfarwydd Rheoliad 7’ sy’n dileu hawliau arferol (a elwir yn ‘Caniatâd Tybiedig’) i arddangos arwyddion o’r fath heb ganiatâd oni bai eu bod yn bodloni
meini prawf llym (PDF 1.82mb).
Mae’n anghyfreithlon i godi arwyddion gosod tai nad ydynt yn bodloni’r meini prawf o fewn yr ardal reoli oni bai bod ganddynt ganiatâd i hysbysebu. Cymerir camau gorfodi yn erbyn y partïon hynny sy’n gyfrifol am arddangos yr hysyseb.
Cysylltu â ni