Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Monitro Gweithgareddau Datblygiadau Mawr

​​​​​​​​Mae gan Gaerdydd wyth Safle Strategol (sy'n cynnwys 500 neu fwy o anheddau a / neu ddefnyddiau cyflogaeth sylweddol), sydd wedi'u dyrannu drwy'r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) ​er mwyn helpu i ddiwallu'r angen am gartrefi a swyddi newydd ledled y ddinas.


Er mwyn helpu i sicrhau bod y cartrefi a'r swyddi newydd hyn yn ffurfio rhan o gymunedau sydd wedi'u cynllunio'n dda, mae'r cynllun datblygu lleol yn nodi dull 'uwchgynllunio' ar gyfer cyflawni'r safleoedd strategol, lle mae seilwaith ategol fel coridorau trafnidiaeth gynaliadwy, ysgolion, cyfleusterau cymunedol a mannau gwyrdd yn cael eu darparu fel rhan o'r datblygiadau.


Cynhyrchwyd cyfres o ddogfennau monitro i roi crynodeb wedi'i ddiweddaru'n rheolaidd o weithgarwch datblygu ym mhob lleoliad, gan gynnwys manylion am:


  • Hanesion Cynllunio: Pan fydd ceisiadau newydd wedi'u derbyn a pha geisiadau sydd wedi'u penderfynu (wedi cymeradwyo),
  • Gweithgaredd Datblygu: Pa safleoedd sy'n cael eu hadeiladu ar hyn o bryd ac yn ddangosydd o sawl cartref/safle sydd wedi'u cwblhau,
  • Seilwaith: Y seilwaith ategol y cytunwyd arno drwy gytundebau S106 (cyfreithiol) a manylion am y gwaith hwnnw a phrosiectau cysylltiedig eraill sydd ar y gweill, neu sy'n cael eu rhoi ar waith ar hyn o bryd.
     

Gweld Safleoedd Strategol CDLl Caerdydd ar fap​​​​​​​​​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd​​​​​​​​.

 

Mae’r wybodaeth yn y ddogfennau hon wedi’i dylunio i’w hargraffu ac efallai na fydd modd gweld popeth ar-lein.
​​​

Safle Strategol CDLl

Dogfen Fonitro

A - Parth Fenter Canol Caerdydd / Hwb Trafnidiaeth Rhanbarthol

(Tua 2000 o gartrefi)

A: Parth Menter Canolog (3.8mb PDF)​​​​​​​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd

B - Hen Waith Nwy, Ferry Road:

(Tua 500 o gartrefi gyda defnyddiau cymunedol cysylltiedig)

B: Hen Waith Nwy (2.1mb PDF)​​​​​​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd

C - Gogledd Orllewin Caerdydd:

(Lleiafswm o 5,000 o gartrefi, cyflogaeth a​ defnyddiau cymunedol eraill)

C1: Gogled​​​​d Orllewin Caerdydd (2.9mb PDF)​​​​​​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd

C2: Fferm Goitre Fach (2.7mb PDF)​​​​​​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd


C3: I’r Gogledd a De o Ffordd Llantrisant (3.8mb PDF)​​​​​​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd


C4: I’r De o Pentrebane Road (3.6mb PDF)​​​​​​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd

D - I’r Gogledd o Gyffordd 33 yr M4

(Tua 2,000 o dai, gyda defnyddiau cymunedol, cyflogaeth a Pharcio a Theithio)

D: I’r Gogledd o Gyffordd 33 yr M4 (2.6mb PDF)​​​​​​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd

E - I’r De o Creigiau:

(Tua 650 o gartrefi gyda defnyddiau cymunedol cysylltiedig)

E: I’r De o Creigiau (2mb PDF)​​​​​​​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd

F - Gogledd Orllewin Caerdydd (I’r Gorllewin o Bontprennau)

(Tua 4,500 o dai, gyda chyflogaeth a defnyddiau cymunedol)

F1: Gogledd-ddwyrain Caerdydd (5.1mb PDF)​​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd

F2: Gogledd-ddwyrain Caerdydd (4mb PDF)​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd​​

G - I’r Dwyrain o Ffordd Gyswllt Pontprennau:

(Tua 1,300 o dai gyda defnyddiau cymunedol)

G1: I’r Dwyrain o Ffordd Gyswllt Pontprennau (3.7mb PDF) ​​​​​​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd

G2: Tir yn Church Road (2.3mb PDF)​​​​​​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd

H - I’r De o Barc Busnes Llaneirwg

(Safle cyflogaeth strategol)

H: I’r De o Barc Bu​snes Llaneirwg (1.9mb PDF)​​​​​​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd

Trafnidiaeth

Er mwyn helpu i sicrhau bod gan ymwelwyr, trigolion a gweithwyr Caerdydd presennol ac yn y dyfodol ddewisiadau eraill i geir preifat a'u bod yn gallu dewis cerdded, seiclo a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i wneud eu teithiau dyddiol, mae cyfres o welliannau priffyrdd a thrafnidiaeth yn cael eu darparu ynghyd â datblygiadau newydd.

Seilwaith Trafnidiaeth

Dogfen Fonitro

Coridor Trafnidiaeth y Gogledd Orllewin (Cysylltu ​​Safleoedd Strategol C, D ac E)

Coridor Trafnidiaeth y Gogledd Orllewin (6.8mb PDF)​​​​​​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd

Polisiau, Cynlluniau a Phrojectau Trafnidiaeth


Cysylltu â ni

​​

Creu lleoedd
Ystafell 223
Neuadd y Sir
Caerdydd
CF10 4UW

Cysylltu â ni

​​

© 2022 Cyngor Caerdydd