Gall unrhyw aelod o’r cyhoedd wrthwynebu unrhyw gais cynllunio drwy wneud sylwadau ar y cais.
Noder y bydd y cyhoedd yn gallu gweld eich gohebiaeth.
Dangosir sylwadau ar-lein dan y tab ‘Sylwadau’ ar y dudalen ‘Gweld a dilyn unrhyw geisiadau cynllunio’.
Dangosir sylwadau a sganiwyd neu a anfonwyd dros e-bostio dan y tab ‘Dogfennau’ ar dudalen ‘Gweld a dilyn unrhyw geisiadau cynllunio’.
Nid oes ots sut y clywsoch am y cais cynllunio, ac nid oes angen i chi fod wedi cael llythyr gennym i wneud sylwadau.
O ran ceisiadau nas ymdriniwyd â hwy dan y pwerau dirprwyedig, bydd y Pwyllgor Cynllunio yn trafod y cais – gweler y
Canllaw ar yr Hawl i Siarad Gerbron y Pwyllgor
Cost
Gallwch wrthwynebu cais cynllunio am ddim.
Sut i wrthwynebu
1.
Gwnewch nodyn o gyfeirnod y cais cynllunio. Gallwch wneud hyn ar-lein neu drwy’r post:
Ar-lein: Gallwch weld
ceisiadau cynllunio cyfredol ar-lein i gael cyfeirnod.
Mae’r blwch ‘chwiliad syml’ yn eich galluogi i nodi cod post llawn neu ran o god post, un llinell o gyfeiriad, e.e. enw stryd, allweddair neu’r cyfeirnod. Mae’r cyfeirnod yn ddeg digid a bydd bob amser yn dilyn y fformat 12/12345/ABC. Bydd wedi’i nodi’n glir ar bob hysbysiad cyhoeddus a phob darn o waith papur sy’n ymwneud â’r cais.
Pan ewch i’r cais ar-lein, bydd yn dangos yr holl ddogfennau, amlinelliadau, lluniau a chynlluniau perthnasol.
Drwy’r
post:Os ydych yn gymydog drws nesaf i’r datblygiad arfaethedig gallech gael llythyr yn rhoi gwybod i chi am y cais cynllunio. Mae hyn yn ôl disgresiwn yr adran ac yn ddibynnol ar y cynllun. Bydd cyfeirnod y cais ar y llythyr, ynghyd â rhagor o fanylion am sut i wrthwynebu. Os nad ydych wedi cael llythyr, neu os ydych wedi’i golli, gallwch gael cyfeirnod y cais cynllunio drwy
chwilio ar-lein neu drwy fynd i Neuadd y Sir.
2.
Sicrhewch eich bod yn gwybod y dyddiad cau ar gyfer gwrthwynebu
Gall yr amser sydd gennych i wrthwynebu ddibynnu ar nifer o bethau gwahanol, fel math y cais cynllunio, maint yr adeilad neu'r gwaith adeiladu a phryd y bydd y Pwyllgor Cynllunio yn cwrdd i benderfynu ar y cais.
Yn gyffredinol, dylai gwrthwynebiadau (sylwadau) gael eu cyflwyno yn ystod y cyfnod ymgynghori 21 diwrnod o ddyddiad cyflwyno’r cais cynllunio.
Gallwch weld y dyddiad ar gyfer cais penodol (sef Diwrnod Dod i Ben yr Ymgynghoriad Safonol) drwy glicio ar y botwm ‘Dyddiadau Pwysig’ o dan y tab ‘Manylion’ os ydych
wedi dod o hyd i’r cais ar-lein neu caiff ei nodi mewn unrhyw lythyrau neu ddogfennau rydych yn eu darllen neu sy’n cael eu hanfon atoch.
Cynghorwyr sy’n ffurfio’r Pwyllgor Cynllunio, a nhw fydd yn penderfynu ar rai ceisiadau cynllunio yng Nghaerdydd. Penderfynir ar y gweddill dan bwerau dirprwyedig. Gallwch ddysgu pryd, neu os, caiff cais cynllunio ei drafod mewn cyfarfod cynllunio ar-lein drwy glicio’r tab ‘Rhagor o wybodaeth’ o dan y tab ‘Manylion’. Caiff ei restru fel y ‘Lefel Penderfyniad Disgwyliedig’. Gallwch wrthwynebu unrhyw bryd cyn dechrau’r cyfarfod drwy’r system ar-lein neu drwy anfon llythyr, ond yn ddelfrydol dylech ei anfon yn ystod y cyfnod ymgynghori 21 diwrnod.
Os nad ydych yn siŵr am y dyddiad cau,
cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl, gan ddyfynnu cyfeirnod y cais cynllunio.
3. Cyflwynwch eich gwrthwynebiad (gwneud sylw). Gallwch wneud hyn ar-lein neu drwy’r post:
Ar-lein: Bydd angen i chi greu cyfrif ar y
system cynllunio ar-lein wrthwynebu.
Drwy’r post: Gallwch ysgrifennu i:
Rheoli Datblygu
Ystafell 201
Neuadd y Sir
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW
Cofiwch nodi’r cyfeirnod.
Pa mor hir y bydd yn ei gymryd i gael gwybod?
Byddwn yn rhoi gwybod i chi am benderfyniad y Cyngor o fewn 10 diwrnod gwaith.
Os ydych wedi cofrestru ar-lein gallwch ddilyn cais, a chewch wybod am unrhyw newidiadau yn ei statws mewn e-bost.
Gweld a dilyn cais cynllunio
Bydd dyddiad cau ar gyfer apelio yn cael ei neilltuo i bob cais – sef Dyddiad Dod i Ben Ymgynghoriad Safonol – i roi amser i chi roi gwybod eich bod yn ei wrthwynebu.
Os mai chi wnaeth y cais cynllunio gwreiddiol a’i fod wedi’i wrthod, gallwch ddarllen ein
canllawiau ar apelio.
Cysylltwch â ni Ar-Lein
Cysylltu â ni