Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Geirfa

A  B  C  Ch  D  Dd  E  F  Ff  G  Ng  H  I  J  L  Ll M  N  O  P  Ph R  Rh  S  T Th  U  W  X  Y

 

 

A

Addasu  Ystyr cyffredinol hwn yw’r gwaith ffisegol sy’n angenrheidiol i newid defnydd adeilad o ddefnydd penodol, a ddosbarthwyd yn y gorchymyn dosbarthiadau defnydd, i ddefnydd arall. Gall hefyd olygu isrannu eiddo preswyl i fod yn fflatiau neu randai hunangynwysedig.

 

Adeilad a Restrwyd yn Lleol (neu Adeilad o Bwysigrwydd Lleol). Adeilad o bwysigrwydd lleol sy’n werthfawr o ran ei gyfraniad i’r gymuned leol neu o ran hanes lleol ond nad yw’n deilwng o statws adeilad rhestredig.

 

Adeilad Rhestredig Sef adeilad o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig.  Caiff adeiladau rhestredig eu graddio’n radd I, II* neu II, a gradd I yw’r uchaf.  Gellir rhestru adeilad ar sail y tu mewn iddo yn ogystal â’r tu allan, ac unrhyw adeiladau neu strwythurau parhaol.

 

Adnau Cam ffurfiol o ymgynghoriad lle gwahoddir sylwadau ar y fersiwn drafft llawn o’r CDLl. 

 

Adroddiad Cychwynnol ar yr Arfarniad o Gynaliadwyedd Term a ddefnyddir i gyfeirio at yr Adroddiad ar yr Arfarniad o Gynaliadwyedd, a luniwyd ar gam y Strategaeth a Ffefrir.  Mae’r adroddiad hwn yn asesu dewisiadau’r CDLl yn erbyn y fframwaith Arfarnu Cynaliadwyedd. Yna ymhelaethir ar yr adroddiad ar y Cam CDLl ar adnau, a chaiff fersiwn terfynol ei lunio ynghyd â’r Datganiad Mabwysiadu.

 

Adroddiad Monitro Blynyddol Adroddiad a gyflwynir i Lywodraeth Cymru gan awdurdodau cynllunio lleol sy’n asesu effeithiolrwydd y CDLl yn erbyn cyfres o ddangosyddion a thargedau.

 

Adroddiad Terfynol ar Gynaliadwyedd Term a ddefnyddir i gyfeirio at yr Adroddiad ar yr Arfarniad o Gynaliadwyedd, a luniwyd ar y cam ar adnau.  Mae’n dangos sut mae’r Arfarniad o Gynaliadwyedd/AASau wedi llywio’r broses o baratoi’r CDLl ac yn nodi manylion methodoleg, proses a chanlyniadau’r CDLl yn erbyn yr Amcanion Cynaliadwyedd a nodwyd yn Adroddiad Cwmpasu’r Arfarniad o Gynaliadwyedd/AASau.

 

Adroddiad yr Arolygydd Canfyddiadau’r Arolygydd, yn dilyn archwiliad annibynnol o’r CDLl, a nodir mewn adroddiad y mae Awdurdod Cynllunio Lleol yn gyfrwymol iddo.

 

Amcanestyniad Poblogaeth Rhagfynegi poblogaethau’r dyfodol ar sail y strwythur oedran-rhywedd presennol, a’r cyfraddau ffrwythlondeb, marwolaethau ac ymfudo presennol.

 

Amcanion a Dangosyddion Amcanion yw’r hyn y mae’r CDLl yn ceisio’i gyflawni, a dangosyddion yw’r pethau a gaiff eu mesur i ddangos p’un a yw’r amcanion yn cael eu cyflawni neu beidio.  Gellir eu defnyddio i ddangos p’un a yw polisi cynllunio yn effeithiol, neu gellir eu defnyddio i helpu i gynnal Arfarniad o Gynaliadwyedd.

 

Archwiliad Cynhelir archwiliad gan yr Arolygiaeth Gynllunio ar ran Llywodraeth Cymru ac mae’n golygu archwilio’r adroddiad, y Cynllun Datblygu Lleol ar Adnau yn cynnwys y dystiolaeth gefndirol a’r holl sylwadau ar y cynllun, a’r Adroddiad ar yr Arfarniad o Gynaliadwyedd.  Mae’r archwiliad yn sicrhau bod y CDLl yn seiliedig ar wybodaeth a barn gadarn, a bod barn pawb sydd â phryderon am y cynllun wedi’i hystyried.

 

Ardal Cadwraeth Arbennig Safle a ddynodwyd dan Gyfarwyddeb Cynefinoedd y Gymuned Ewropeaidd i warchod cynefinoedd a rhywogaethau o bwysigrwydd rhyngwladol.

 

Ardal Cyfleoedd Strategol Mae Ardaloedd Cyfleoedd Strategol yn cynnig manteision rhanbarthol posibl yn sgîl datblygu cynaliadwy.  Bwriedir i’r ardaloedd hyn sicrhau gwell cydlyniad o ran eu datblygu, a galluogi atgyfnerthu cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus.

 

Ardal Rheoli Ansawdd yr Aer Mae Deddf Amgylchedd 1995 yn ei gwneud hi’n ofynnol i awdurdodau lleol adolygu ac asesu ansawdd yr aer yn eu hardaloedd yn erbyn safonau ac amcanion aer  cenedlaethol. Mewn achosion lle nad yw amcanion ansawdd aer y DU yn cael eu cyflawni a bod hynny’n effeithio ar y cyhoedd, mae’n ofynnol i’r awdurdod lleol ddatgan Ardal Rheoli Ansawdd yr Aer. 

 

Ardaloedd Cadwraeth Ardaloedd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig, y mae’n ddymunol cadw neu wella eu cymeriad neu olwg.

 

Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA) Safle a ddosbarthwyd dan Gyfarwyddeb y Gymuned Ewropeaidd ar Adar Gwyllt i ddiogelu rhywogaethau adar o bwysigrwydd rhyngwladol.  

 

Ardaloedd Menter Ardal a ddynodwyd yn arbennig lle rhoddir nifer o fanteision a chymelldaliadau i fusnesau megis credydau’r dreth incwm, ad-daliadau ar y dreth gyfarpar a chredydau’r dreth eiddo. Yn y bôn, mae’r ardal fenter yn ddull o dargedu ardal ddaearyddol benodol ar gyfer adfywio economaidd. Mae creu ardal fenter yn annog buddsoddi ac yn hybu twf economaidd yn yr ardal honno.

 

Ardoll Seilwaith Cymunedol – Mae hwn yn ddull o sicrhau cyfraniadau cyffredinol gan ddatblygwyr. Deddfwyd ar yr Ardoll Seilwaith Cymunedol fel rhan o Ddeddf Cynllunio 2008. Dilynwyd hyn gan Reoliadau Gweithredu, a daeth yr Ardoll Seilwaith Cymunedol i rym yng Nghymru a Lloegr ar 6 Ebrill 2010.

 

Arfarniad o Gymeriad Ardal Gadwraeth  Dogfen gyhoeddedig sy’n diffinio’r diddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig sy’n golygu bod yr ardal yn deilwng o gael ei dyrannu.

 

Arfarniad o Gynaliadwyedd Offeryn i arfarnu polisïau a chynigion i sicrhau eu bod yn adlewyrchu amcanion datblygu cynaliadwy (h.y. ffactorau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd).  Mae Adran S62(6) y Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i bob Awdurdod Cynllunio Lleol gynnal Arfarniad o Gynaliadwyedd y CDLl. Mae’r math hwn o Arfarniad o Gynaliadwyedd yn ymgorffori gofynion Cyfarwyddeb yr Asesiad Amgylcheddol Strategol. Mae’r defnydd o’r term hwn yn y CDLl yn cynnwys Asesiad Amgylcheddol Strategol, oni nodir fel arall. 

 

Asesiad Amgylcheddol Strategol (AAS) Term cyffredinol a ddefnyddir i ddisgrifio asesiadau amgylcheddol o bolisïau, cynlluniau a rhaglenni.  Mae Rheoliadau’r AAS yn ei gwneud yn ofynnol i gynnal asesiad amgylcheddol ffurfiol o gynlluniau a rhaglenni penodol, yn cynnwys y rheini ym maes cynllunio a defnydd tir. 

 

Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd Mae Asesiad o’r fath yn un o ofynion Cyfarwyddeb Ewropeaidd 92/43/EEC sy’n asesu effeithiau posibl Cynllun Datblygu Lleol ar un neu fwy o safleoedd Ewropeaidd (safleoedd Natura 2000). Dylai’r asesiad ddod i gasgliad o ran p’un a fyddai cynnig neu bolisi yn y Cynllun Datblygu yn cael effaith andwyol ar gyfanrwydd y safle dan sylw. 

 

Awdurdod Cynllunio Lleol Sef awdurdod cynllunio sy’n gyfrifol am baratoi’r CDLl.

 

Yn ôl i'r brig

 

B


 

Bioamrywiaeth Term a ddefnyddir i ddisgrifio amrywiaeth bywyd ar y Ddaear, yn cynnwys yr amrywiaeth eang o ecosystemau ac organebau byw, anifeiliaid, planhigion, eu cynefinoedd a’u genynnau.

 

Yn ôl i'r brig


C

 

Cadernid Er mwyn cael ei ystyried yn gadarn, rhaid i Gynllun Datblygu Lleol fod yn gyfiawn (yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn a chredadwy a’r strategaeth fwyaf effeithiol) ac yn effeithiol (cyflawnadwy, hyblyg ac yn bosibl ei fonitro). Mae deg prawf cadernid a nodwyd mewn canllawiau a gyhoeddwyd gan Llywodraeth Cymru a’r Arolygiaeth Gynllunio, a chaiff y CDLl ei fonitro yn eu herbyn.

 

Cam Cyfranogi Cyfnod cyn-adneuo’r Cynllun Datblygu Lleol lle caiff rhanddeiliaid a’r cyhoedd y cyfle i ddylanwadu ar y materion, y dewisiadau a’r polisïau a gaiff eu cynnwys ar gyfer twf a datblygu yn y dyfodol.

 

Canllawiau Cynllunio Ategol Gall Canllawiau Cynllunio Ategol gwmpasu ystod o faterion, sef materion thematig a materion ar gyfer safleoedd penodol, a chynnig rhagor o fanylion polisïau a chynigion cynllun datblygu.

 

Canolfan Drafnidiaeth Man lle caiff teithwyr a llwythi eu cyfnewid rhwng cerbydau neu ddulliau teithio.  Mae Canolfannau Trafnidiaeth Gyhoeddus yn cynnwys gorsafoedd rheilffordd, gorsafoedd cludiant cyflym, safleoedd bws, safleoedd tram, meysydd awyr a glanfeydd llongau fferi.

 

CDLl ar Adnau Fersiwn drafft llawn o’r Cynllun Datblygu Lleol sy’n destun cyfnod ymgynghori ffurfiol.

 

Coridor Trafnidiaeth Ardal o dir lle yr adeiladwyd o leiaf un prif lwybr trafnidiaeth, (ffordd, rheilffordd, camlas ac ati). Yn aml caiff llwybrau trafnidiaeth newydd eu hadeiladu ochr yn ochr â rhai sy’n bodoli eisoes er mwyn lleihau’r ardal a gaiff ei heffeithio gan lygredd.

 

Cyflwyno Cam ffurfiol pan gaiff y CDLl ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru ar gyfer archwiliad annibynnol gan arolygydd cynllunio a benodwyd gan y llywodraeth.

 

Cyfnod Cyn-Adneuo Cam yr Opsiynau strategol a’r Strategaeth a Ffefrir o’r broses o baratoi’r CDLl.

 

Cymuned Pobl sy’n byw mewn ardal ddaearyddol ddiffiniedig, neu sy’n rhannu’r un diddordebau.

 

Cymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQ) Mae NVQau yn gymwysterau sy’n seiliedig ar waith a gyflawnir drwy asesiadau a hyfforddiant.

 

Cynghrair Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru (SEWTA) Mae SEWTA​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd yn gonsortiwm a sefydlwyd ar 1 Ebrill 2003 gan y deg awdurdod lleol yn ne-ddwyrain Cymru i gyflawni eu swyddogaethau mewn perthynas â thrafnidiaeth gyhoeddus a rhai materion trafnidiaeth eraill. Mae SEWTA yn cydweithio’n agos â phartneriaid sy’n cynrychioli gweithredwyr a defnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus (http://sewta.net/).

 

Cynllun Cynnwys Cymunedau Mae’r Cynllun hwn yn nodi sut mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn bwriadu cynnwys cyrff ymgynghori a’r cyhoedd yn y broses o baratoi’r CDLl.  Caiff y Cynllun Cynnwys Cymunedau ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i’w gymeradwyo fel rhan o’r Cytundeb Cyflenwi.

 

Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Sef y cynllun datblygu statudol gofynnol ar gyfer pob ardal awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru dan Ran 6 Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004. Cynllun defnydd tir ydyw sy’n destun archwiliad annibynnol, a fydd yn gynllun datblygu statudol ar gyfer ardal awdurdod lleol.  Dylai’r CDLl gynnwys gweledigaeth, strategaeth, polisïau i’w defnyddio ar draws yr ardal ar gyfer mathau o ddatblygiadau, dyraniadau tir, a pholisïau a chynigion ar gyfer ardaloedd allweddol o newid a diogelu lle y bo’n ofynnol.

 

Cynllun Datblygu Unedol Cynllun a baratowyd dan y system flaenorol o baratoi cynlluniau a gyrhaeddodd y Cam ar Adnau yng Nghaerdydd.

 

Cynllun Gofodol Cymru Cynllun a baratowyd ac a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru dan adran 60 y Ddeddf, sy’n nodi fframwaith strategol i lywio datblygiadau ac ymyriadau polisi yn y dyfodol, p’un ai bod y rhain yn ymwneud â rheoli cynllunio defnydd tir ffurfiol neu beidio. Mae Adran 62 (5) (b) y Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cynllunio lleol ystyried Cynllun Gofodol Cymru wrth baratoi CDLl.

 

Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth y Deyrnas Unedig Y cynllun hwn yw ymateb llywodraeth y DU i’r Confensiwn ar Fioamrywiaeth a lofnodwyd yn 1992. Hyd at 2009, nodwyd bod angen cymryd camau cadwraeth a diogelu ar gyfer 1,150 o rywogaethau a 65 o gynefinoedd ac maent wedi’u cwmpasu gan Gynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth y DU.

 

Y Cynllun Mabwysiedig Y fersiwn derfynol, gyfreithlon o’r Cynllun Datblygu Lleol a gymeradwywyd yn statudol.

 

Cynllun Teithio Mae cynllun teithio yn becyn o gamau gweithredu a baratowyd gan weithle, ysgol neu sefydliad arall i annog dewisiadau teithio diogel, iachus a chynaliadwy. Drwy leihau teithio mewn ceir, gall Cynlluniau Teithio wella iechyd a lles, rhyddhau mannau parcio, a gwneud cyfraniad cadarnhaol i’r gymuned a’r amgylchedd.

 

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol a baratowyd gan Sewta

 

Cynlluniau Datblygu Lleol Cymru (CDLlC) Canllaw ar bolisi cynllunio gan Lywodraeth Cymru ar baratoi Cynlluniau Datblygu Lleol.

 

Cytundeb Adran 106 Cytundeb cyfreithiol dan adran 106 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. Mae cytundebau adran 106 yn gytundebau cyfreithiol rhwng awdurdod cynllunio a datblygwr, neu rwymedigaethau unochrog a gynigir gan ddatblygwr, sy’n sicrhau y cyflawnir gwaith ychwanegol penodol sy’n ymwneud â datblygiad.

 

Cytundeb Cyflenwi Dogfen sy’n cynnwys amserlen yr awdurdodau cynllunio lleol ar gyfer paratoi’r CDLl ynghyd a’r Cynllun Cynnwys Gymunedau, a gyflwynir i Lywodraeth Cymru i’w chymeradwyo.

 

Yn ôl i'r brig

 

D

 

Datblygiad Datblygiad, yn ôl diffiniad cyfraith cynllunio, yw ‘carrying out of building, engineering, mining or other operations in, on, over or under land. (Adran 55 Deddf Cynllunio 1990 fel y’i diwygiwyd).

 

Datblygu Cynaliadwy Datblygu sy’n diwallu anghenion y presennol heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.

 

Datganiad Technegol Rhanbarthol Cynhyrchir y datganiad hwn gan Weithgor Agregau Rhanbarthol De Cymru, gan nodi’r cynlluniau rhanbarthol ar gyfer darparu agregau yn ne Cymru, ac mae’n un o ofynion Nodyn Cyngor Technegol Mwynau 1: Agregiadau (MTAN1).

 

Datganiadau o Ddiddordeb Sylwadau ar y cynllun datblygu, gan gynnwys ceisiadau i’w newid, neu i gynnwys neu ddileu polisïau neu safleoedd datblygu.

 

Defnydd Cymysg Datblygiadau neu gynigion sy’n cynnwys mwy nag un math o ddefnydd tir ar yr un safle.

 

Diagram Allweddol Dehongliad o strategaeth ofodol y CDLl ar ffurf diagram.

 

Dogfennau cynigion Cyn Adneuo Mae’r dogfennau hyn yn cynnwys y weledigaeth, y dewisiadau strategol, y strategaeth a ffefrir, polisïau allweddol a’r adroddiad ar yr Arfarniad o Gynaliadwyedd.

 

Yn ôl i'r brig

 

F


 

Fesul Cam Datblygu safle’n raddol fesul cam dros gyfnod o amser yn hytrach nag oll ar yr un pryd.

 

Fforwm Economaidd De Ddwyrain Cymru Mae’r Fforwm hwn yn bartneriaeth ranbarthol sy’n dwyn ynghyd y 10 awdurdod lleol yn yr ardal, Llywodraeth Cymru, y sector preifat, prifysgolion a’r trydydd sector i drafod a mynd i’r afael â materion economaidd rhanbarthol de ddwyrain Cymru.

 

Yn ôl i'r brig


G

 

Grŵp Cynllunio Strategol De-ddwyrain Cymru Mae aelodau’r grŵp yn cynnwys swyddogion a chynrychiolwyr gwleidyddol o’r deg awdurdod lleol yn ardal De-ddwyrain Cymru. Prif nod y grŵp yw cyfarfod i drafod materion rhanbarthol a gweithredu fel rhyngwyneb rhwng strategaeth Cynllun Gofodol Cymru a chynlluniau datblygu awdurdodau unigol.

 

Gwaelodlin Disgrifiad o gyflwr presennol yr ardal er mwyn mesur newid yn ei erbyn.

 

Gweithgor Agregau Rhanbarthol De Cymru (SWRAWP) Mae SWRAWP​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd yn weithgor technegol gydag aelodau o blith swyddogion yr 18 Awdurdod Cynllunio Mwynau yn Ne Cymru, cynrychiolwyr y Gymdeithas Cynhyrchion Chwareli, Adnoddau Naturiol Cymru (CCGC gynt), Llywodraeth Cymru, Swyddfa’r Dirprwy Brif Weinidog, Cuddy Demolition, Ymddiriedolaeth yr Amgylchedd Cymru ac Arolwg Daearegol Prydain

 

Gwerth Ychwanegol Crynswth (GYC) Dull economaidd o fesur gwerth nwyddau a gwasanaethau a gaiff eu cynhyrchu mewn ardal, diwydiant neu sector economaidd.

 

Yn ôl i'r brig


H

 

Heneb Gofrestredig Henebion o bwysigrwydd cenedlaethol, olion archeolegol fel arfer, sy’n cael eu diogelu yn erbyn datblygiadau amhriodol drwy Ddeddf Henebion a Mannau Archeolegol 1979.

 

Yn ôl i'r brig


L

 

LANDMAP LANDMAP​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd yw’r system wybodaeth genedlaethol, a ddyfeisiwyd gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru gynt, ar gyfer ystyried y dirwedd wrth wneud penderfyniadau. 


Ll


 

Lles Cynllunio Y manteision neu’r mesurau diogelu, yn aml er budd y gymuned, a ddaw yn sgîl rhwymedigaeth gynllunio fel rhan o gymeradwyo cais cynllunio, a ddarperir ar draul y datblygwr fel arfer. Er enghraifft, tai fforddiadwy, cyfleusterau cymunedol neu fesurau lliniaru.

 

Lliniaru Sef mesurau i osgoi, leihau neu wrthbwyso effeithiau andwyol sylweddol.

 

Yn ôl i'r brig

 

 

M

 

Mabwysiadu Cadarnhad terfynol o statws cynllun datblygu gan awdurdod cynllunio lleol.

 

Mannau Agored Pob man o werth cyhoeddus gan gynnwys ardaloedd cyhoeddus a dirluniwyd, meysydd chwarae, parciau ac ardaloedd chwarae, a hefyd yn cynnwys dyfroedd megis afonydd, camlesi, llynnoedd a chronfeydd dŵr sy’n gallu cynnig cyfleoedd ar gyfer chwaraeon a hamdden ac sydd hefyd yn gallu gweithredu fel amwynder gweledol a hafan ar gyfer bywyd gwyllt.

 

Map Cynigion Rhan o’r Cynllun Datblygu Lleol sy’n dangos lleoliad y cynigion ar sail map yr Arolwg Ordnans. 

 

Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2008 Y dull swyddogol a ddefnyddir i fesur amddifadedd mewn ardaloedd bach yng Nghymru. Mae’n ddull cymharol o fesur crynoadau o amddifadedd ar lefel ardal fach. Mae’n ystyried materion megis incwm, tai, cyflogaeth, mynediad i wasanaethau, iechyd, yr amgylchedd, addysg a diogelwch cymunedol.

 

Yn ôl i'r brig


N

 

Newid yn yr Hinsawdd Newidiadau hirdymor i dymheredd, dyddodiad, y gwynt ac agweddau eraill ar hinsawdd y Ddaear. Yn aml tybir bod y newidiadau hyn wedi’u hachosi gan weithgareddau dynol a defnyddio tanwydd ffosil.

 

Nodiadau Cyngor Technegol (TAN) Dogfennau a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru i ategu Polisi Cynllunio Cymru, sy’n rhoi canllawiau technegol manwl i Awdurdodau Cynllunio Lleol ar faterion cynllunio penodol. Dylai Awdurdodau Cynllunio Lleol eu hystyried yn ystod y broses o baratoi’r cynllun datblygu.

 

Nodyn Cyngor Technegol Mwynau 1: Agregiadau (MTAN1) Cyhoeddwyd y ddogfen hon yn Saesneg yn unig gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2004. Mae MTAN1 yn pennu amcan trosfwaol sy’n ceisio sicrhau cyflenwad o agregiadau (sy’n hanfodol ar gyfer gwaith adeiladu) a reolir yn gynaliadwy, gan daro’r cydbwysedd gorau rhwng yr effeithiau amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol.

 

Yn ôl i'r brig


P

 

Y Panel Dinasyddion Mae’r Panel Dinasyddion yn cynnwys sampl cynrychioliadol o dros 1,000 o ddinasyddion lleol o ardaloedd ledled Caerdydd sydd wedi cytuno i fynegi eu barn ar nifer o bynciau ymgynghori drwy gydol y flwyddyn.  Mae aelodau’r panel yn mynegi eu barn drwy lenwi arolygon a chymryd rhan mewn gweithgareddau eraill ambell waith megis grwpiau ffocws, gweithdai neu fforymau.

 

Pennu Cwmpas yr Arfarniad o Gynaliadwyedd Y broses o bennu cwmpas a lefel manylder yr Arfarniad o Gynaliadwyedd, gan gynnwys yr effeithiau ar gynaliadwyedd a’r dewisiadau sydd angen eu hystyried, y dulliau asesu i’w defnyddio, a strwythur a chynnwys yr Adroddiad ar yr Arfarniad o Gynaliadwyedd.

 

Polisi Cynllunio Cymru Cyhoeddir y polisi hwn gan Lywodraeth Cymru gan nodi ei pholisïau defnydd tir cenedlaethol o ran meysydd cynllunio gwahanol.

 

Prosiect Gwyrdd Mae Prosiect Gwyrdd​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd yn bartneriaeth rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Cyngor Dinas a Sir Caerdydd,  Cyngor Sir Fynwy, Cyngor Casnewydd a Chyngor Bro Morgannwg. Mae gwastraff dinesig y pum awdurdod yn 40% o gyfanswm gwastraff dinesig Cymru. Mae Prosiect Gwyrdd wedi ymrwymo i chwilio am y datrysiad amgylcheddol gorau, mwyaf cost effeithiol a mwyaf ymarferol ar gyfer gwastraff ar ôl ailgylchu a chompostio i’r eithaf ym mhob ardal.

 

Yn ôl i'r brig


R

 

Rhanddeiliaid Buddiannau a gaiff eu heffeithio’n uniongyrchol gan y CDLl (a/neu AASau) – yn ymwneud drwy gyrff cynrychioliadol ar y cyfan.

 

Rh


 

Rhwymedigaethau a Chytundebau Cynllunio Cytundebau cyfreithiol rhwng awdurdod cynllunio a datblygwr, neu rwymedigaethau unochrog a gynigir gan ddatblygwr, sy’n sicrhau y cyflawnir gwaith ychwanegol penodol sy’n ymwneud â datblygiad. Er enghraifft, adeiladu priffyrdd. Gelwir y rhain yn gytundebau “Adran 106” weithiau. 

 

Rhywogaethau a Warchodir Planhigion a rhywogaethau anifeiliaid sy’n cael eu gwarchod dan Ddeddfau a Rheoliadau penodol.

 

Yn ôl i'r brig


S

 

Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Safle a nodwyd dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000) fel ardal o ddiddordeb arbennig oherwydd ei fflora, ffawna, nodweddion daearegol neu nodweddion ffisiograffigol.

 

Safle/Tir Cyflogaeth Tir a ddefnyddir at ddibenion cyflogaeth gan un neu fwy o’r canlynol: swyddfeydd, gweithgynhyrchu, ymchwil a datblygu, storio a dosbarthu.

 

Safle/Tir Llwyd Tir lle saif strwythur parhaol (heb gynnwys adeiladau amaethyddiaeth neu goedwigaeth) a seilwaith cysylltiedig sefydlog ar yr arwyneb, neu dir lle bu strwythur o’r fath yn y gorffennol. Mae hyn yn cynnwys cwrtil datblygu, adeiladau amddiffyn neu dir a ddefnyddir ar gyfer mwyngloddio a gwaredu gwastraff lle ni wnaed darpariaeth ar gyfer adfer y tir. 

 

Safle/Tir Maes Glas Tir nas datblygwyd yn flaenorol, sef tir ffermio, glaswelltir neu weundir fel arfer.

 

Safleoedd a Gynigir Mae’r Llawlyfr ar Gynlluniau Datblygu Lleol (Llywodraeth Cymru 2006) yn argymell y dylai awdurdodau cynllunio lleol ymgysylltu â datblygwyr a thirfeddianwyr ar y cam casglu tystiolaeth o broses y CDLl er mwyn cael gwybodaeth am safleoedd datblygu posibl y gellid eu cynnwys yn y cynllun. Yn unol â hynny, ym mis Tachwedd 2010 estynnodd y Cyngor wahoddiad ffurfiol i ddatblygwyr, tirfeddianwyr, asiantau, adrannau’r Cyngor ac eraill sydd â buddiant mewn tir i gyflwyno safleoedd i’w hystyried ar gyfer datblygu neu ailddefnyddio drwy’r Cynllun Datblygu Lleol, a hynny at amrywiaeth o ddefnyddiau gan gynnwys tai, cyflogaeth, manwerthu, hamdden, gwastraff, trafnidiaeth (e.e. safleoedd parcio a theithio), mannau agored a defnyddiau cymunedol eraill.

 

Safleoedd ar Hap Safle nas dyrannwyd yn benodol ar gyfer ei ddatblygu mewn cynllun datblygu, ond a ddaw ar gael yn annisgwyl i’w ddatblygu yn ystod cyfnod cynllun. Cyfeirir at “safleoedd ar hap” yng nghyd-destun tai gan amlaf.

 

Safleoedd o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur (SoBCN) Safleoedd o bwysigrwydd lleol o ran cadwraeth natur a fabwysiadwyd gan awdurdodau lleol at ddibenion cynllunio. (Gweler Gwarchodfa Natur Lleol  hefyd).

 

Safleoedd Ramsar Safleoedd a ddynodwyd dan Gonfensiwn Ramsar i ddiogelu gwlyptiroedd o bwysigrwydd rhyngwladol, yn enwedig fel cynefinoedd adar dŵr.

 

Sail Tystiolaeth Sef y wybodaeth a’r data a gasglwyd gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol i gadarnhau “cadernid” y dull polisi a nodwyd yn y CDLl, yn cynnwys

nodweddion ffisegol, economaidd a chymdeithasol ardal.

 

Seilwaith Mae seilwaith yn cynnwys gwasanaethau megis ffyrdd, cyfleusterau trafnidiaeth, cyflenwadau dŵr, carthffosiaeth a chyfleusterau trin dŵr gwastraff cysylltiedig, cyfleusterau rheoli gwastraff, cyflenwadau ynni (trydan a nwy), rhwydweithiau dosbarthu a seilwaith telathrebu.  Mae seilwaith meddal yn cynnwys TGCh a thelathrebu.

 

Strategaeth Gymunedol Mae Deddf Llywodraeth Leol 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol baratoi’r rhain, gyda’r nod o wella lles cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd eu hardaloedd.

 

Sylwadau Sylwadau a wnaed o blaid y Cynllun Datblygu Lleol neu i’w wrthwynebu.

 

Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) Y SYG yw swyddfa weithredol Awdurdod Ystadegau’r DU, sef adran anweinidogol sy’n uniongyrchol atebol i Senedd y Deyrnas Unedig. 

 

Yn ôl i'r brig


T


 

Tai Fforddiadwy Tai, p’un ai ar rent, perchenogaeth a rennir neu brynu’n gyfan gwbl, a ddarperir am gost yr ystyrir ei bod yn fforddiadwy mewn perthynas ag incwm cyfartalog neu incwm llai na chyfartalog, neu mewn perthynas â phrisiau tai ar y farchnad gyffredinol.

 

Tir sydd ar gael ar gyfer Tai Cyfanswm y tir a gedwir ar gyfer defnydd preswyl sydd ar gael i’w ddatblygu. 

 

Trafnidiaeth Gynaliadwy Mae hyn yn aml yn golygu cerdded, beicio a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus (a ‘rhannu ceir’ mewn rhai amgylchiadau), y tybir eu bod yn llai niweidiol i’r amgylchedd ac yn achosi llai o dagfeydd traffig nag un person yn teithio mewn car.  

 

Yn ôl i'r brig


U

 

Uwchgynllunio Ym maes cynllunio defnydd tir, dyma’r term ar gyfer cynllun cyffredinol endid y llywodraeth ar gyfer defnyddio ardal benodol, yn cynnwys ei dyrannu ar gyfer defnydd preswyl neu weithgynhyrchu a’r effeithiau cyfatebol ar yr amgylchedd.

 

Yn ôl i'r brig


Y

 

Ymgynghoriad Proses ffurfiol lle gwahoddir sylwadau ar bwnc penodol, cyfres o bynciau penodol neu ddogfen ddrafft.

 

Ymrwymiadau (neu ddatblygiad yr ymrwymwyd iddo) Yr holl dir sydd â chaniatâd cynllunio cyfredol neu a ddyrannwyd mewn cynlluniau datblygu mabwysiedig ar gyfer datblygiad (yn enwedig datblygiad preswyl).

 

 

Yn ôl i'r brig

 

  • Gweler hefyd
  • CDL