Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Atgyweirio ac Atgynhyrchu Ffenestri a Drysau Traddodiadol

​​​​​​​​​​​​​​​​​​Os ydych chi’n atgyweirio neu’n gosod ffenestri neu ddrysau newydd (866kb PDF) mewn adeilad rhestredig neu ardal gadwraeth, mae’n debygol y bydd polisïau a rheolaethau cynllunio arbennig yn berthnasol, sy’n golygu y bydd angen caniatâd cynllunio neu ganiatâd adeilad rhestredig arnoch. 

Mewn perthynas â hyn, mae’r Cyngor yn aml yn cael ceisiadau am enwau a chyfeiriadau atgyweirwyr, gweithgynhyrchwyr neu gyflenwyr ffenestri.

Er na allwn wneud unrhyw argymhellion uniongyrchol, isod ceir rhestr o gwmnïau a allai ymgymryd â gwaith adnewyddu ac ailwampio ffenestri a drysau traddodiadol yng Nghaerdydd.

Cofiwch, er mwyn cynnal ffabrig a chymeriad hanesyddol, mae gwaith atgyweirio (4.6mb PDF)​ bron bob tro’n ddewis gwell na gosod o’r newydd, ac nid oes angen caniatâd cynllunio i wneud hynny. 

Dylech gadarnhau bob tro p’un a oes angen caniatâd adeilad rhestredig.


Dylid pwysleisio nad yw'r rhestr hon yn rhestr o gyflenwyr a argymhellir: gallwch ddod o hyd i grefftwyr, cwmnïau neu gyflenwyr eraill ar-lein.

Yn y pendraw, chi sy’n gyfrifol am ddod o hyd i gyflenwr sy’n eich bodloni chi o ran pris, ansawdd y deunydd a’r gwaith crefft tebygol. Mae hefyd yn bwysig i’r cwmni a ddewisir allu paratoi’r darluniadau priodol. 

Os oes angen caniatâd ar gyfer eich gwaith, gallai trafodaethau cyn y cais arbed amser ac oedi ar y cam ymgeisio. I gael gwybod a fydd angen caniatâd cynllunio neu ganiatâd adeilad rhestredig, cysylltwch â Thîm Rheoli Datblygiadau’r Cyngor.


Cysylltu â ni

© 2022 Cyngor Caerdydd