Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Cadw’r Amgylchedd Hanesyddol

​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​Mae nifer o adeiladau pwysig, gweddillion archeolegol a mannau agored Caerdydd wedi’u gwarchod er mwyn diogelu cymeriad arbennig y ddinas.​ 

Yr hen Ropmney Castel (Wentloog Road, Tredelerch) Cyfeiriad Erthygl 4 – Gweler y cyfeiriad wedi’i gadarnhau (PDF 2546 kb).

​ ​

Ardaloedd Cadwraeth





Mae gan Gaerdydd 27 ardal gadwraeth (PDF 483 KB)  a ddynodwyd yn rhai o ddiddordeb archeolegol neu hanesyddol arbennig. Defnyddiwch y map​​​​​​ i weld a yw eiddo mewn ardal gadwraeth. 

Mae rheolaethau cynllunio cenedlaethol yn gysylltiedig ag eiddo mewn ardal gadwraeth, ac mae canllawiau ar y rheolau hyn ar gael ar y Porth Cynllunio. Mae gan nifer o ardaloedd Gyfarwyddyd Erthygl 4, sy’n gosod rheolaethau ychwanegol dros amrywiaeth o fân addasiadau eraill fel addasiadau i ffenestri (PDF 866 KB) . Dyma restr o seiri sy’n arbenigo mewn atgyweirio ac ailgynhyrchu ffenestri a drysau traddodiadol.

Os ydych yn ystyried newid eich eiddo ac yr hoffech gael cyngor, gofynnir i chi gyflwyno ymholiad cyn gwneud cais.

Hefyd, mae angen caniatâd i wneud gwaith ar goed mewn ardaloedd cadwraeth.

Mae’r dogfennau isod yn disgrifio cymeriad pob ardal gadwraeth ac yn cynnig gwybodaeth am y rheolaethau sydd ar waith. 

Ardaloedd â rheoliadau ar waith
Ardal Gadwraeth Ward Taflen Crynodeb Asesiad
Ffordd CaerdyddLlandaf Taflen (PDF 166 KB) Asesiad (PDF 1.86 MB)
Parc CathaysCathaysDd/B Asesiad (PDF 7.05 MB)
Heol y GadeirlanGlan-yr-afon Taflen (PDF 184 KB)
Arwyddion a
Hysbysebion (PDF 342 KB)

Asesiad (PDF 1.54 MB)
Heol CharlesCathaysDd/B Asesiad (PDF 7.05 MB)
Church RoadYr Eglwys Newydd Taflen (PDF 147 KB) Asesiad (PDF 1.20 MB)
Ffordd ChurchillCathaysDd/B Asesiad (PDF 7.05 MB)
Conway RoadGlan-yr-afon Dd/B Asesiad (PDF 2.27 MB)
Craig y ParcPentrych Taflen (PDF 136 KB) Asesiad (PDF 1.62 MB)
Gwaelod y GarthPentrych Taflen (PDF 222 KB) Asesaid (PDF 2.73 MB)
Insole CourtLlandaf Insole Court Trust
LlandafLlandafDd/B​
Asesiad (PDF  3.02 MB)
Melin GruffyddYr Eglwys NewyddDd/B Asesiad (PDF  1.21 MB)
Sgwâr Mount StuartButetownDd/B Asesiad (PDF 3.59 MB)
Oakfield StreetPlasnewydd Taflen (PDF 154 KB) Asesiad (PDF 1.70 MB)
Pentref LlaneirwgPontprennau a Phentref Llaneirwg Taflen (PDF 245 KB) Asesiad (PDF 2.34 MB)
Adeilad y fheadButetown Taflen (PDF 157 KB) Asesiad (PDF 1.66 MB)
Heol-y-FrenhinesCathaysDd/B Asesiad (PDF 7.05 MB)
Pentref Gardd RhiwbeinaRhiwbeina Taflen (PDF 336 KB) Asesiad (PDF 1.55 MB)
Roath Mill GerddiPenylan Taflen (PDF 149 KB) Asesiad (PDF 2.01 MB)
Parc y RhathPlasnewydd / Pen-y-lan Taflen (PDF 183 KB) Asesiad (PDF 2.54 MB)
Llyn a Gerddi Parc y RhathCyncoed / Pen-y-lan Taflen (PDF 140 KB)
Asesiad (PDF 1.41 MB)
Catwg SantPentrych Taflen (PDF 178 KB) Asesiad (PDF 2.91 MB)
St FagansSain Ffagan Taflen (PDF 184 KB) Asesiad (PDF 4.72 MB)
Heol Eglwys FairCathaysDd/B Asesiad (PDF 3.18 MB)
TredegarvillePlasnewydd Taflen (PDF 196 KB) Asesiad (PDF 1.34 MB)
Plas WindsorCathaysDd/B Asesiad (PDF 7.05 MB)
Wordsworth AvenuePlasnewydd Taflen (PDF 211 KB) Asesiad (PDF 776 KB) ​

 

Parciau a Gerddi Hanesyddol

 

Mae 18 parc a gardd yng Nghaerdydd sydd ar Gofrestr Cadw o Dirluniau, Parciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru. Mae’r gofrestr statudol yn cynnig gwybodaeth i helpu i ddiogelu a chadw’r lleoedd arbennig hyn, y mae 12 ohonynt yn barciau cyhoeddus.


Gallwch weld parciau a gerddi hanesyddol Caerdydd ar y map​​​​​​​​​.

Adeiladau Rhestredig

 

Mae tua 1,000 o adeiladau rhestredig yng Nghaerdydd. Gallwch ddysgu a yw adeilad yn un rhestredig ar fap​​​​​​​.

Mae adeiladau’n cael eu rhestru gan Cadw​​​​​​​​ i ​sicrhau bod eu diddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig yn cael ei gydnabod yn llawn yn y system gynllunio. Mae angen Caniatâd Adeilad Rhestredig​​​​​ ​pan fydd addasiad neu estyniad arfaethedig yn effeithio ar gymeriad adeilad rhestredig neu adeiladau cyfagos. Mae angen Datganiad Effaith ar Dreftadaeth ​ar gyfer yr holl geisiadau Caniatâd Adeilad Rhestredig. 

Cofiwch: Mae’n drosedd cyflawni gwaith ar adeilad a restrwyd yn statudol heb gael y Caniatâd Adeilad Rhestredig angenrheidiol yn gyntaf. 

Arolwg rheoleiddiol Cadw ar gyflwr adeiladau rhestredig. Mae adroddiadau Adeiladau Mewn Perygl ar gael i’w hasesu a gyflawnwyd yn 2011 (4.1mb PDF)  a 2015 (1.4mb PDF).

Adeiladau Rhestredig Lleol

Mae tua 300 o adeiladau yng Nghaerdydd wedi’u rhestru’n lleol. Bwriad y rhestr hon yw sicrhau bod adeiladau lleol sydd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol yn cael eu cydnabod yn y system gynllunio.

Gweld adeiladau rhestredig lleol ar y map​​​​​​​​​​​​.

Henebion

Mae gan Cadw 31 o Henebion Cofrestredig (PDF 832 KB)  yng Nghaerdydd, o archeoleg cynhanesyddol i amddiffynfeydd o’r Ail Ryfel Byd. Gallwch weld y lleoliadau ar y map.

Mae’n drosedd cyflawni gwaith ar safle heneb gofrestredig heb gael caniatâd Heneb Gofrestr​edig gan Cadw yn gyntaf. 

Cysylltu â ni

 

Cysylltu â ni

Cadwraeth
Ystafell 250
Neuadd y Sir
Caerdydd
CF10 4UW

​​
 

    

​​​​​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd