Pwrpas cyfyngiadau oed ar gynnyrch megis tybaco, alcohol, toddyddion, DVDs, tocynnau loteri, tân gwyllt, ac ati yw i warchod pobl ifanc rhag niwed.
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â’r heddlu, hybu iechyd, diogelwch cymunedol ac ysgolion lleol i leihau'r achlysuron lle gwerthir dan oed.
Byddwn yn gwneud hyn drwy wneud y canlynol:
- ymateb i gwynion o werthu dan oed
- rhoi cyngor i fasnachwyr sy’n gwerthu’r cynnyrch hyn
- prynu nwyddau gyda gwirfoddolwyr ifanc i weld a ydy masnachwyr yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth
- rhoi rhybuddion ac erlid troseddwyr lle bo angen
Gweler ein tudalen
cyngor i fasnachwyr sy'n rhoi gwybodaeth a chyngor i unrhyw un sydd eisiau gwerthu cynnyrch sydd â chyfyngiadau oed.
Os ydych yn credu bod rhywun yn gwerthu cynnyrch sydd â chyfyngiadau oed i blant dan oed yna
adroddwch hynny.