Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Galwadau diwahoddiad

​​Dyma bobl sy’n dod at garreg y drws, yn ddirybudd, yn cynnig nwyddau a/neu wasanaethau. Gallwch, er enghraifft, dderbyn ymweliad gan gwmnïau ffenestri dwbl, benthycwyr carreg drws neu arwerthwyr eraill.


 

Mewn ymgais i reoli hyn rydym wedi sefydlu Ardaloedd a Reolir o ran Galwadau Diwahoddiad (ARGD) lle caiff galw diwahoddiad ei reoli’n llym.


 

Ardaloedd a reolir o ran galwadau diwahoddiad yng Nghaerdydd (PDF 20.4 KB)​​​​​​​​​​Link opens in a new window

 

Nid yw galw ddiwahoddiad yn anghyfreithlon a does dim o’i le ar gwmnïau sy’n gwneud hynny. Fodd bynnag, mewn ardal a reolir gofynnir i fusnesau barchu dymuniad y trigolion a pheidio â chnocio ar eich drws.


 

Nid yw ARGD yn rhwystro pob sefydliad rhag cnocio ar eich drws. Er enghraifft caiff grwpiau crefyddol megis Tystion Jehofa gnocio ar eich drws, gan nad ydynt yn cynnig nwyddau neu wasanaethau am dâl. Yn yr un modd, gall elusennau hefyd gnocio ar eich drws gan nad ydynt yn cynnig nwyddau neu wasanaethau. ​

 

Os hoffech ragor o wybodaeth neu os hoffech adrodd bod rhywun yn galw'n ddiwahoddiad mewn ABGD yna cysylltwch â ni​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd.


 

Os ydych yn teimlo bod galwr diwahoddiad wedi rhoi pwysau arnoch yn anghyfreithlon i brynu rhywbeth neu i gofrestru ar gyfer rhywbeth gellir ystyried hyn i fod yn drosedd ar garreg y drws​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd.

© 2022 Cyngor Caerdydd