Navigate Up
Sign In
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area
new cardiff > CYM > Preswylydd > Budd-daliadau a Grantiau > Energy efficiency and fuel poverty

Effeithlonrwydd ynni a thlodi tanwydd

Ystyrir bod aelwydydd sy'n gwario mwy na 10% o'u hincwm ar filiau tanwydd i gynnal trefn wresogi mewn tlodi tanwydd. P'un a ydych yn rhentu neu'n berchen eich cartref, gallai'r wybodaeth hon eich helpu i arbed arian. ​

Os ydych yn defnyddio mesurydd rhagdalu neu'n cael trafferth â phroblemau arian mae'r Llywodraeth wedi cytuno ar fesurau brys gyda chyflenwyr. Gallai’r opsiynau’n gynnwys:

  • Adolygu cynlluniau talu biliau, gan gynnwys cynlluniau ad-dalu dyledion 
  • Seibiannau talu neu ostyngiadau o ran faint rydych yn ei dalu 
  • Rhoi mwy o amser i chi dalu 
  • Mynediad at gronfeydd caledi mewn rhai achosion 

Ni chaiff unrhyw fesuryddion credyd eu datgysylltu yn ystod yr argyfwng.
Ewch i wefan eich cyflenwr neu cysylltwch â nhw am gyngor penodol i chi.
Os ydych yn cael trafferth talu am eich biliau nwy a thrydan neu os ydych yn mynd i ddyled, cysylltwch â'ch cyflenwr ynni cyn gynted ag y gallwch. Bydd yn gweithio gyda chi i gytuno ar gynllun talu y gallwch ei fforddio.
 
Mae yna hefyd amrywiaeth eang o sefydliadau lleol a chenedlaethol sy'n cynnig cymorth a chefnogaeth:
 

Cyngor Ariannol Cyngor Caerdydd

Gall ein Tîm Cyngor Ariannol​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd gynnig cymorth a chyngor. Gallwch gysylltu ag ef ar 029 2087 1071, hybcynghori@caerdydd.gov.uk, neu drwy fynd i hyb​​. Sylwch y ceir mynd i mewn i hyb trwy apwyntiad yn unig.
 

Gwasanaeth Cynghori Caerdydd

Mae Gwasanaeth Cynghori Caerdydd​​​​​ (GCC) yn cynnwys Cyngor ar Bopeth​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd Chyngor Speakeasy.​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd Gall y gwasanaeth roi cyngor yn ymwneud â Thai, Dyled Tanwydd a Budd-daliadau Lles. Mae canolfannau galw heibio mewn 20 o leoliadau ledled Caerdydd, a gellir cynnal ymweliadau cartref lle bo'n briodol. Gallwch ddod o hyd i fanylion am y gwahanol leoliadau galw heibio ac amseroedd agor ar-lein, neu drwy ffonio 029 2087 1016.
 

Y Gwasanaeth Cynghori ar Arian Cenedlaethol

 

Riverside Advice Cardiff

Mae Riverside Advice​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd yn sefydliad lleol sy’n gallu helpu trigolion ledled Cymru. Gallwch gysylltu â nhw ar 029 2034 1577.
 

Gofal a Thrwsio Caerdydd a’r Fro

Os ydych yn 60 oed neu’n hŷn, gallai fod gan Gofal a Thrwsio​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd  gyngor a help mwy penodol i chi. Gallwch gysylltu â nhw ar 029 2047 3337.
 

Gweithredu yng Nghaerau a Threlái (ACE)

Mae ACE​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd yn elusen a ddatblygwyd gan y gymuned y mae trigolion Caerau a Threlái, a all gynnig cymorth tlodi tanwydd, yn ei pherchen a’i rhedeg. Gallwch gysylltu â nhw ar 029 2000 3132.
Mae newid cyflenwyr neu dariff ynni un o'r ffyrdd gorau o leihau eich biliau ynni. Nid oes angen i chi fod yn berchen ar eich cartref i newid, a gallai gwneud hynny arbed cannoedd o bunnoedd y flwyddyn i chi os ydych ar dariff amrywiol safonol drud.

Mae gan Ofgem, y rheoleiddiwr ynni, gyngor ar sut i newid tariff ynni neu gyflenwyr.​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd
Mae sawl ffordd o leihau eich biliau ynni, o newid eich arferion i gael boeler effeithlon newydd wedi'i osod yn eich eiddo. Gall y sefydliadau hyn roi cyngor ac efallai y gallant gynnig arian tuag at welliannau i'r cartref:


Awgrymiadau arbed ynni 
  • Pan fydd bylbiau yn torri, ceisiwch roi bylbiau LED modern yn eu lle. Mae'r rhain yn llawer mwy effeithlon na bylbiau traddodiadol, a gallant arbed arian i chi dros amser. 
  • Diffoddwch offer a pheidiwch â’u gadael mewn modd segur. Gallai hyn arbed hyd at £30 y flwyddyn i chi yn ôl yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni.​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd  
  • Gall atal drafftiau o ffenestri a drysau helpu i gynnal mwy o wres ac arbed arian i chi. 
  • Trowch eich thermostat i lawr 1 radd, a rhowch ychydig o gentimetrau mwy o le i reiddiaduron drwy symud eich dodrefn ychydig. Gall hyn leihau eich defnydd o ynni a sicrhau bod eich cartref yn cael ei wresogi'n fwy effeithlon, gan leihau biliau. 
  • Cael Mesurydd Deallus Gall hyn eich helpu i ddeall ble rydych chi'n defnyddio ynni fwyaf, fel y gallwch leihau eich defnydd ohono yn y lleoliadau cywir i wneud arbed arian. Maent hefyd yn cynnig biliau llawer mwy cywir.
Er mwyn osgoi lleithder yn eich cartref a allai arwain at lwydni mae angen i chi wresogi ac awyru'r eiddo. Rhowch gynnig ar yr opsiynau canlynol:

  • Cynhyrchwch lai o wlybaniaeth.
    Ceisiwch gadw'r caeadau ar sosbenni wrth goginio, sychu dillad yn yr awyr agored yn hytrach nag ar reiddiaduron, awyru eich sychwr dillad yn yr awyr agored, ac osgoi defnyddio gwresogyddion paraffîn neu wresogyddion nwy potel. 
  • Gadewch i’r aer llaith fynd allan a gadewch i’r awyr iach ddod i mewn.
    Mae ffaniau echdynnu yn ffordd effeithiol o gael gwared â'r aer llaith a'r stêm fel bod llai o gyddwysiad. Wrth goginio neu ymdrochi, cadwch ddrws y gegin neu'r ystafell ymolchi ar gau ac agorwch y ffenestr fel bod y stêm yn mynd allan trwyddi. 
  • Insiwleiddiwch eich cartref a sicrhewch ei fod yn ddiogel rhag drafftiau.
    Mae cartrefi cynnes yn dioddef llai o gyddwysiad, felly dylech sicrhau bod eich tŷ wedi'i inswleiddio'n dda. Mae hyn yn golygu inswleiddio eich llofft i'r dyfnder a argymhellir o 270mm, a'ch waliau ceudod (os oes gan eich tŷ y waliau hyn ac os yw’n addas). Dylai eich ffenestri a’ch drysau allanol fod yn ddiogel rhag drafftiau, a dylech ystyried gwydr dwbl os yw’ch ffenestri’n ddrafftiog. 
  • Gwresogwch eich cartref ychydig yn fwy.
    Er nad ydych am wastraffu arian yn gwresogi ystafelloedd nad ydych yn eu defnyddio, mae ystafelloedd oer iawn yn fwy tebygol o gael lleithder a llwydni.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cynhyrchu eich trydan neu'ch gwres eich hun gartref trwy dechnolegau gyda gwres yr aer, yr haul, y gwynt, dŵr, y ddaear, yna efallai y byddwch yn gymwys i gael y Gwarant Allforio Deallus​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd neu Cymhelliant Gwres Adnewyddadwy.​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd


English