Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Taliad cymorth costau byw

Bydd prif gynllun taliad cymorth costau byw yn cau ar 30 Medi 2022.

Mae'r cynllun dewisol yn dod i ben ar 31 Mawrth 2023.​​
​​​​​Nod y cynllun hwn gan Lywodraeth Cymru yw helpu trigolion gyda chost gynyddol biliau cyfleustodau.  Taliad untro o £150 yw hwn fesul cartref, nid ad-daliad treth gyngor.

Cymhwysedd 

Byddwch yn ei dderbyn os oeddech, ar 15 Chwefror 2022, yn atebol am y dreth gyngor ac:

  • yn derbyn gostyngiad yn y dreth gyngor, neu
  • yn byw mewn eiddo ym mand A, B, C neu D, neu
  • yn byw eiddo ym mand E gyda gostyngiad band addasu anabledd.





Byddwn yn defnyddio gwybodaeth sydd gennym i gadarnhau cymhwysedd ac i wneud taliadau, gan gynnwys gwybodaeth o’ch cyfrif treth gyngor a thaliadau tannwydd gaeaf a gawsoch. Mae erthygl 6(1)(e) GDPR y DU​ ​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd yn rhoi’r hawl i ni ddefnyddio data er budd y cyhoedd.


Cynllun Dewisol 

Byddwch yn cael taliad dewisol o £150 os oeddech, ar 15 Chwefror 2022, yn:

  • derbyn eithriad treth cyngor, neu’n
  • byw mewn eiddo ym mand F, G, H neu I gyda gostyngiad band addasiadau anabledd, neu  




Rhaid mai’r rheswm am eich eithriad treth gyngor yw oherwydd rydych:

  • â nam meddyliol difrifol, 
  • dan 18 oed, 
  • wedi gadael gofal, 
  • yn byw yn rhywle arall i dderbyn neu ddarparu gofal, neu 
  • dros 65 neu’n anabl ac yn byw mewn rhandy i eiddo arall lle mae eich teulu'n byw.



Sut i wneud cais 

Byddwch yn wyliadwrus o dwyllwyr. Ni fyddwn byth yn eich ffonio i ofyn am fanylion banc.

Os ydych yn talu'ch treth gyngor drwy ddebyd uniongyrchol, nid oes angen i chi wneud cais.

Dylech dderbyn y taliad yn uniongyrchol yn eich cyfrif banc yn ystod.
 
Os na fyddwch yn talu drwy ddebyd uniongyrchol, byddwch yn derbyn llythyr gyda manylion am y broses ymgeisio.

Cymorth arall

Gall Cyngor Ariannol Caerdydd​ ​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd eich helpu os ydych chi'n cael trafferth gyda chostau byw, p’un a ydych chi'n gweithio ai peidio.

Gallwn eich helpu gyda chyllidebu a dyledion, a gwirio a oes budd-daliadau, grantiau a gostyngiadau ar gael i chi.

Gwiriwch Cyngor Arian Caerdydd ​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd ffoniwch ein llinell gyngor ar 029 2087 1071 neu ewch i’ch Hyb lleol​ ​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd​ am gymorth a chyngor.​
© 2022 Cyngor Caerdydd