Mae’r cyfnod ar gyfer gwneud ceisiadau i Gynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf wedi dod i ben.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod Taliad Cynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf wedi'i ddyblu i £200 fesul cartref cymwys i'w roi tuag at eu biliau tanwydd ar y grid o 13 Rhagfyr 2021. Bydd hwn ar gael i ymgeiswyr newydd ac yn cael ei dalu'n ôl-weithredol i'r rhai sydd wedi gwneud cais eisoes.
Os ydych eisoes wedi derbyn taliad o £100, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth, byddwch yn derbyn £100 pellach yn awtomatig erbyn diwedd mis Mawrth.
Mae cynllun Llywodraeth Cymru yn agored i aelwydydd lle mae un person o oedran gweithio yn derbyn budd-daliadau lles sy’n ddibynnol ar brawf modd unrhyw bryd rhwng 1 Rhagfyr 2021 a 31 Ionawr 2022.
I gael eich ystyried yn aelwyd gymwys, rhaid mai chi sy’n gyfrifol am dalu'r biliau tanwydd yn eich eiddo.
Bydd y taliad ar gael i bob aelwyd gymwys p'un a ydych chi’n talu am eich tanwydd ar fesurydd rhagdalu, drwy ddebyd uniongyrchol neu fil bob chwarter. Ond ni fydd aelwydydd sy’n talu am eu trydan oddi ar y grid yn gymwys.
- Chi sy'n gyfrifol am dalu'r biliau tanwydd yn eich eiddo.
- Nid ydych wedi derbyn taliad o dan y cynllun o'r blaen.
- Rydych yn derbyn budd-dal lles prawf modd cymwys ar sail oedran gweithio ar unrhyw adeg rhwng 1 Rhagfyr 2021 a 31 Ionawr 2022.
Y budd-daliadau lles cymwys yw:
- Cymhorthdal Incwm,
- Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm, neu
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm, neu
- Gredyd Cynhwysol, neu
- Credydau Treth Gwaith.
- Rydych chi, eich partner, neu'r ddau ohonoch yn gyfrifol am dalu'r biliau tanwydd yn eich eiddo.
- Nid ydych chi na'ch partner wedi derbyn taliad o dan y cynllun o’r blaen.
- Rydych chi, eich partner, neu'r ddau ohonoch yn derbyn budd-dal lles prawf modd cymwys ar sail oedran gweithio ar unrhyw adeg rhwng 1 Rhagfyr 2021 a 31 Ionawr 2022.
Y budd-daliadau lles cymwys yw:
- Cymhorthdal Incwm,
- Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm, neu
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm, neu
- Gredyd Cynhwysol, neu
- Credydau Treth Gwaith.