Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Terfyn Uchaf Budd-daliadau

​​​Mae’r llywodraeth ganolog wedi cyflwyno Terfyn Uchaf Budd-daliadau ar gyfanswm y budd-daliadau y gall pobl o oedran gwaith eu cael.

I bwy y mae’n berthnasol?

Ni fydd yn effeithio arnoch os:​

  • Rydych chi, a eich partner o oedran cymhwyso ar gyfer Credyd Pensiwn 
  • Rydych chi, neu’ch partner, neu’ch plentyn dibynnol yn derbyn Lwfans Byw i'r Anabl neu Daliad Annibyniaeth Bersonol.
  • Rydych chi, neu'ch partner wedi gorffen gwaith yn ddiweddar. Fe fyddwch yn cael ei eithrio am 39 wythnos o'r dyddiad a fuoch yn gorffen gwaith.
  • Rydych chi, neu’ch partner, yn derbyn unrhyw o’r canlynol:
​​​Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (cydran cymorth),
Credyd Treth Gwaith
Lwfans Gofalwyr
Lwfans Gwarcheidwad
Budd-dal Anafiadau Diwylliannol 
Pensiwn Rhyfel
Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
Cynllun Iawndal y Lluoedd Arfog.​
Credyd Cynhwysol, ond dim ond os:
  1. Yw’r wobr yn cynnwys yr elfen 'allu cyfyngedig i weithio a gweithgaredd sy'n gysylltiedig â​ gwaith, neu
  2. Rydych chi neu’ch partner (os oes un gennych un) yn enill mwy na £542 y mis ar y cyd, ar ôl treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol.
  3. Mae'r dyfarniad yn cynnwys cost gofalwr


Os ydych o’r farn eich bod chi’n bodloni’r meini prawf ar gyfer unrhyw rai o’r budd-daliadau hyn yna gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud cais amdanynt gan y bydd hynny’n golygu na fydd y cap yn effeithio arnoch chi. 

Beth yw’r terfyn?

  • £257.69 yr wythnos i oedolion sengl,
  • £384.62 yr wythnos i gyplau a theuluoedd. 

Cafodd y Cap Budd-daliadau yn ei leihau ymhellach ar 7 Tachwedd 2016. 

Pa incwm a gaiff ei ystyried?

Cyfrifir cyfanswm yr incwm o’r budd-daliadau canlynol:

  • Budd-dal Tai
  • Budd-dal Analluogrwydd
  • Lwfans Ceisio Gwaith
  • Lwfans Anabledd Difrifol
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 
  • Credyd Cynhwysol
  • Budd-dal Plant
  • Credyd Treth Plant 
  • Lwfans Rhiant Gweddw 
  • Pensiwn Gweddw
  • Lwfans Mam Gweddw
  • Lwfans Profedigaeth
  • Lwfans Mamolaeth 
  • Taliadau Cymorth Profedigaeth

 

Os yw’r cyfanswm yn fwy na'r swm uchaf a ganiateir, caiff eich Budd-dal Tai neu’ch Credyd Cynhwysol ei leihau.

Dim ond y Budd-daliadau ar y rhestr uchod a gaiff eu cyfrif.

Ydw i’n gallu hawlio Credyd Treth Gwaith?

Gallwch gael Credyd Treth Gwaith os ydych chi neu eich partner yn gweithio digon o oriau bob wythnos a bod eich incwm yn ddigon isel. Nid oes rhaid i chi gael plant i fod yn gymwys. 


Faint o oriau sy’n rhaid i mi weithio i hawlio Credyd Treth Gwaith?

Amgylchiadau

Oriau'r wythnos

25 i 59 oed  

O leiaf 30 awr

60 oed neu’n hŷn

O leiaf 16 awr

Anabledd

O leiaf 16 awr

Sengl gydag un plentyn neu fwy

O leiaf 16 awr

Cwpl gydag un plentyn neu fwy

Fel arfer, o leiaf 24 awr* (gydag un ohonoch yn gweithio o leiaf 16 awr)

 

*Mae eithriadau i’r rheol 24 awr, defnyddiwch y cyfrifiannell credyd treth  i weld a ydych yn gweithio’r nifer cywir o oriau.

 

Dysgwch fwy am Gredydau Treth Gwaith ar wefan y llywodraeth ganolog.

 

Gallai dod o hyd i waith olygu na fydd y terfyn yn berthnasol i chi oherwydd os ydych yn gymwys i gael Credyd Treth Gwaith ni chewch eich effeithio gan y rheolau hyn. 

Beth allaf ei wneud nawr?

Ewch i un o’n Hybiau lle gallwn eich helpu i:


Os ydych chi’n poeni am dalu eich rhent dylech ofyn am gyngor nawr. Os na fyddwch yn talu eich rhent gallech golli eich cartref, felly siaradwch â’ch landlord.  

Gwybodaeth o Lywodreath y DU

Gallwch ddefnyddio’r cyfrifiannell terfyn budd-dal i gael syniad o sut y bydd yn effeithio arnoch. 

I gael rhagor o wybodaeth am y terfyn ar fudd-daliadau a help wrth ddod o hyd i waith ffoniwch:

 

Llinell wybodaeth y Llywodraeth
0800 169 0238


neu ffôn testun 0800 169 0314 

​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd