Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Gwnewch gais am Fudd-dal Tai neu Ostyngiad y Dreth Cyngor

​​​​​​​​Gallwch wneud cais ab Fudd-dal Tai a Gostyngiad Treth Cyngor ar-lein trwy ddefnyddio'r cyswllt isod.

Os ydych eisiau help gyda’ch rhent, gallwch dim ond gwneud cais am Gymorth Budd-dal Tai os mae un rain yn berthnasol: 

  • Rydych chi a'ch partner dros oedran cymhwyso ar gyfer Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 
  • Rydych yn aros mewn lloches, hostel neu rhai o dai â chymorth neu dai dros dro 

​​Os na, mae'n rhaid i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol.

  • Os ydych eisiau gwneud cais a Budd-dal Tai a Gostyngiad y Dreth Cyngor, dim ond un cais sydd angen ei chwblhau. 
  • Mae'r dyfarndal fel arfer yn dechrau'r Dydd llun ar ôl i'r cais cael ei dderbyn gan y cyngor, felly gwblhewch y ffurflen mor gynt ag sy'n bosib. 
  • Os nad ydych yn gallu cwblhau y cais i gyd yn syth, gallwch fynd yn nol iddo. Fyddwch yn cael cod mynediad dinasyddion allweddol fyd yn rhaid i chi gofio. I fynd dol i'ch cais eich i'r cyswllt uchod. 
  • Os oes eisiau tystiolaeth chwanegol, fyddwch yn cael eich cynghori unwaith mae'r cais wedi ei argymell. 
  • Os ydych yn derbyn Budd-dal Tai neu Ostyngiad Y Dreth Cyngor yn barod ac wedi newid cyfeiriad, dewiswch 'Adrodd am newid cyfeiriad', bydd angen eich rhif cais cyfredol arnoch chi. 











Gallwch gofyn am copi papur ar 029 2087 1071 neu yn eich hyb lleol​. Gallwch hefyd gofyn am help i gwblhau’r ffurflen cais am Fudd-dal Tai a Ostyngiad y Dreth Cyngor.

Sut y caiff Budd-dal Tai ei dalu

​Os yw eich cais yn llwyddiannus, bydd eich Budd-dal Tai fel arfer yn dechrau o’r dydd Llun ar ôl i’ch cais ddod i law. 

Os ydych chi’n:


  • Denant Cyngor caiff eich budd-dal ei dalu i’ch cyfrif rhent bob wythnos.
  • Tenant Cymdeithas Tai gallwch ddewis i’ch budd-dal gael ei dalu i chi neu’ch landlord.  Caiff hwn ei dalu bob pedair wythnos.
  • Tenant Preifat mae’ch budd-dal fel arfer yn cael ei dalu’n uniongyrchol i chi.  Caiff hwn ei dalu bob pedair wythnos. Rydym yn argymell y dylech drefnu i’ch budd-dal gael ei dalu’n syth i’ch cyfrif banc. Fel arfer, ni ellir talu’ch landlord yn uniongyrchol.

​ 

Os ydych yn denant preifat, gallem dalu’ch Budd-dal Tai i’ch landlord dan yr amgylchiadau canlynol:


  • os oes gennych 8 wythnos o ôl-ddyledion rhent neu’ch bod yn annhebygol o dalu’ch rhent,
  • os na allwch reoli’ch arian,
  • byddai’n eich helpu i gael neu gadw tenantiaeth. 

 

Os nad yw’r budd-dal yn talu’ch rhent yn llawn, ac na allwch fforddio talu’r gwahaniaeth, mae’n bosibl y gallwch hawlio Taliad Tai Dewisol

 

Unwaith y cewch wybod am eich budd-dal gallwch ofyn i ni am sut y gwnaethom ein penderfyniad.  Gallwch hefyd ofyn i ni ailystyried os ydych o’r farn ein bod wedi gwneud camgymeriad.  Dysgwch sut i apelio yn erbyn penderfyniad.

​​​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd