Gallwch dim ond gwneud cais am Gymorth Budd-dal Tai os mae un rain yn berthnasol:
- Rydych chi a'ch partner dros oedran cymhwyso ar gyfer Credyd Pensiwn y Wladwriaeth
- Rydych yn aros mewn lloches, hostel neu rhai o dai â chymorth neu dai dros dro
Os na, mae'n rhaid i chi wneud cais am
Gredyd Cynhwysol
Os ydych yn cwrdd â'r meini prawf uchod mae Budd-dal Tai ar gael i chi os ydych chi'n:
- Denant y Cyngor
- Tenant cymdeithas tai
- Yn rhan o gynllun perchenogaeth a rennir (dim ond ar gyfer y rhan rhentu o’r cytundeb)
- Rhentu llety preifat
- Talu rhent am angori eich cwch preswyl
- Talu rhent am osod eich cartref symudol neu garafán.
Gallwch hawlio Budd-dal Tai i helpu i dalu’ch rhent p’un a yw’r canlynol yn berthnasol i chi ai peidio:
- Yn cael budd-daliadau eraill, credydau treth, neu bensiynau
- Gweithio
- Di-waith
- Ddim yn gallu gweithio oherwydd salwch neu anabledd
- Yn gofalu am blentyn neu oedolyn
- Wedi ymddeol.
Ond nid oes gan bawb sy’n gwneud cais am fudd-dal hawl i’w gael. Os oes gennych cyfalaf (e.e. gynillion, briodwedd, neu unrhyw ased arall) o £16,000 neu fwy, ni fydd gennych hawl i Fudd-dal Tai oni bai eich bod yn cael
Credyd Gwarant Credyd PensiwnDolen yn agor mewn ffenestr newydd.
Os ydych yn ad-dalu treth gyngor, efallai y byddwch hefyd yn gallu cael
Gostyngiad y Dreth Gyngor.
Y ffordd orau o weld a allwch gael budd-dal yw cysylltu â ni.
Cysylltu â ni
029 2087 1071