Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn

​​​​​​Mae Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn ar gyfer pobl sydd un ai’n cael Budd-dal Tai neu Gredyd Cynhwysol sy’n cynnwys elfen tai tuag at eu rhent ond sydd angen help ychwanegol gyda'u rhent neu eu costau tai. Dim ond hyn a hyn o arian sydd gennym i wneud y taliadau hyn felly dim ond i’r rhai mewn gwir angen y gellir eu rhoi.


Gallwn roi Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn am amryw resymau, gan gynnwys:

 

  • help ychwanegol i bobl sy’n dechrau gwaith,
  • cymorth ychwanegol i bobl yr effeithir arnynt gan y Cyfyngiad Maint​ neu’r Cap Budd-daliadau,​
  • cymorth ychwanegol i rieni maeth a phobl sy’n cael llety â chymorth.

 

Help ychwanegol i dalu’ch rhent

Os nad yw’ch budd-dal tai yn talu’ch rhent yn llawn, ac na allwch fforddio talu’r gwahaniaeth, mae’n bosibl y gallech hawlio Taliad Tai Dewisol. Byddwn yn asesu’ch amgylchiadau i benderfynu ar ba un a ydych mewn angen ariannol ac yn wynebu amgylchiadau eithriadol.

Angen Ariannol

I gadarnhau na allwch fforddio talu’r diffyg yn y rhent, mae angen i ni asesu’r holl incwm a chyfalaf sydd gennych chi a’ch partner.  Mae hyn yn cynnwys incwm ar gyfer amgylchiadau arbennig megis Lwfans Byw i'r Anabl neu Daliad Annibyniaeth Personol.


Rydym yn cymharu’r cyfanswm hwn â threuliau wythnosol rhesymol ac yn cyfrifo p'un a oes gennych ddigon o arian ar ôl i dalu’r diffyg rhent.

 


 

Amgylchiadau Eithriadol

 

Os byddwn yn cadarnhau bod gennych angen ariannol yna byddwn yn ystyried p’un a ydych yn wynebu amgylchiadau eithriadol ai peidio.  

Byddwn yn edrych ar eich manylion personol a rhai eich teulu, gan ystyried yr holl wybodaeth a roddwch i ni. 

Am ba mor hir y gallaf hawlio Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn?

Fel arfer dim ond am gyfnod byr, er enghraifft 6 mis, y telir Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn i helpu i dalu rhent.  Os bydd angen help arnoch o hyd ar ôl i’ch taliadau ddod i ben, bydd angen i chi ailymgeisio.

Weithiau gallwn ôl-ddyddio Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn​.   

Os yw hyn yn gymwys i chi, bydd angen i chi ofyn i'ch taliadau gael eu hôl-ddyddio, gan roi rhesymau da am beidio â hawlio'n gynt.

Os hoffech ragor o wybodaeth am hawlio Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn, cysylltwch â ni.

Sut i wneud cais am Daliadau Tai yn ôl Disgresiwn ​ 

 

Gwneud cais am Daliad Tai Dewisol (488kb PDF)​​​​​​.​​

Os ydych chi’n defnyddio Ffôn Clyfar, bydd angen i chi gadw'r ffurflen ar eich dyfais a'i llenwi. 

Am help i gwblhau'r ffurflen, neu i gasglu copi papur i gwblhau, ymwelwch â’ch​ Hyb lleol. ​

Gallwch lanlwytho eich ffurflen gais wedi'i chwblhau a'ch tystiolaeth, neu eu e-bostio i budddaliadau@caerdydd.gov.uk ​

Beth sy’n digwydd nesaf?

​Bydd angen i chi ddarparu y ddwy gyfriflen banc fwyaf diweddar gan unrhyw gyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu gyfrif swyddfa’r post sydd gennych. Os ydych yn derbyn Credyd Cynhwysol bydd angen ichi ddarparu eich cyfriflen ddiweddaraf hefyd a fydd yn dangos dadansoddiad llwyr o sut y cyfrifwyd eich Credyd Cynhwysol, a tystiolaeth o’r rhent chi’n talu.

Ni chaiff eich cais ei ystyried heb yr uchod.

Mae’n rhaid i ni asesu eich sefyllfa yn llawn cyn gallwn ystyried Taliad Tai yn ôl Disgresiwn.

Ar ol derbyn eich cais, a’r tystiolaeth uchod, bydd aelod o’r Tîm Cyngor Ariannol yn cysylltu â chi i asesu eich anghenion ariannol a chwblhau’r broses ymgeisio.


 
Cysylltu â ni
​​​​​​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd