Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Argyfwng Ffoaduriaid yn Ewrop

Dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd, y Cynghorydd Phil Bale: “Mae’r argyfwng ffoaduriaid yn Ewrop wedi cyffwrdd â chalonnau pawb. Mae Caerdydd bob amser wedi bod yn ddinas sy’n croesawu pobl o bedwar ban byd, ac mae’n hanfodol i’n drysau ni fod ar agor a'n bod ni'n barod i chwarae ein rhan i gynnig diogelwch a lloches i'r rheini sy'n ffoi rhag rhyfel ac erledigaeth, fel rydyn ni bob amser wedi'i wneud.

“Rydw i wedi gofyn i adroddiad gael ei gyflwyno gerbron y Cabinet a fydd yn nodi sut yn union y byddwn yn helpu’r ffoaduriaid rydyn ni’n eu croesawu i’n dinas. Mae sicrhau dyfodol diogel i’r bobl hyn yn hanfodol ac rydyn ni’n benderfynol o’u helpu.”

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Iechyd, Tai a Lles, y Cynghorydd Susan Elsmore:   “Ers 2014 rydyn ni wedi bod yn derbyn ffoaduriaid o Syria a rhannau eraill o'r byd sy'n dioddef o ryfel. Gallaf hefyd gadarnhau heddiw ein bod ni wedi bod yn gweithio’n galed gyda phartneriaid i sicrhau y gallwn ac y byddwn yn barod i chwarae ein rhan. Rydyn ni wedi sefydlu trefniant partneriaeth â Chyngor Mwslimiaid Cymru, Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro a Chyngor Bro Morgannwg i ailgartrefu ffoaduriaid yn brydlon yng Nghaerdydd.

“Bydd y dull cydlynol hwn yn sicrhau ymateb cydlynol i’r argyfwng, gan gynnig y cymorth gorau posibl i’r ffoaduriaid hynny a sicrhau bod ganddynt gefnogaeth traws-gymunedol a’r cyfle gorau i integreiddio ac ailadeiladu eu bywydau pan fyddant yn cyrraedd.  

“Gallaf hefyd gadarnhau y gofynnwyd i'r Cyngor helpu gyda’r broses gymorth drwy agor rhai o'n hadeiladau i storio rhoddion yn barod i'w dosbarthu i ganolfannau ffoaduriaid ledled Ewrop. Rydyn ni'n gweithio gyda sefydliadau ledled y ddinas i hwyluso hyn.

“Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i bobl Caerdydd am y rhoddion sydd eisoes wedi’u cyflwyno i Amgueddfa Stori Caerdydd ac am eu caredigrwydd, eu consyrn, eu haelioni a’u hysbryd. Galwaf arnynt i barhau i gefnogi’r ymgyrch, ac mae dolenni ar y dudalen hon sy’n dangos i bobl beth yn union y gallan nhw ei wneud i helpu.”

Cyngor ymarferol i helpu a chefnogi’r rheini sydd mewn angen


Yn sgîl yr ymateb enfawr i’r argyfwng ffoaduriaid, mae grwpiau cymorth lleol yng Nghaerdydd wedi derbyn llwyth o eitemau fel dillad, sachau cysgu a nwyddau ymolchi.


Gwerthfawrogwn hyn o waelod calon, ond mae’n mynd yn fwyfwy anodd storio a chludo'r holl roddion felly mae'r Groes Goch Brydeinig yn annog pobl i barhau i gefnogi'r broses gymorth drwy roi arian. Bydd hyn yn galluogi elusennau i sicrhau bod arian yn cael ei wario’n effeithiol mewn ymateb i anghenion newidiol y bobl yr effeithir arnynt. 


Os hoffech helpu, ceisiwch roi i'r elusennau canlynol:


Groes Goch Brydeinig​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd











​​ ​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd