Mae Eisteddfod yr Urdd yn dod i Fae Caerdydd
27 Mai – 1 Mehefin 2019
Mae Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, sy’n un o wyliau teithiol mwyaf Ewrop ar gyfer pobl ifanc, yn ymweld â Bae Caerdydd yn ystod hanner tymor mis Mai.
O stondinau i sesiynau chwaraeon a cherddoriaeth byw, mae Maes yr Eisteddfod yn llawn bwrlwm ac yn ddiwrnod gwych i bawb o bob oed... a’r cyfan oll drwy gyfrwng y Gymraeg!
Dyma ŵyl sy’n unigryw i Gymru, felly dewch i gystadlu, i gefnogi ac i fwynhau – mi fyddai’n wych eich gweld chi.
Mynediad
Ac am y tro cyntaf erioed, bydd mynediad am ddim i faes Eisteddfod yr Urdd eleni.
Bydd angen i bob oedolyn brynu band braich dyddiol er mwyn cael mynediad i’r rhagbrofion a Phafiliwn yr Eisteddfod, ond fe fydd mynediad i gystadleuwyr a phlant o dan 18 yn rhad ac am ddim.
Band braich oedolyn: £13 (bydd pris y bandiau braich yn codi ar ôl 30 Ebrill)
Cystadleuwyr a phlant o dan 18: Am ddim