Mae Cyngor Dinas Caerdydd yn cynnal Cynhadledd ar 20 Hydref 2015 yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd. I’r rhai sydd wrthi’n hyrwyddo a chynnal safonau uchel o ran ymddygiad yn awdurdodau Cymru, mae’r digwyddiad yn gyfle i rwydweithio a thrafod syniadau sydd o ddiddordeb cyffredin ac arfer da.
Thema cynhadledd eleni yw “Safonau a Moeseg mewn Byd Newidiol”.
Bydd y Gynhadledd yn myfyrio ar ba un a yw egwyddorion Nolan, a ddaeth i’r amlwg 20 mlynedd yn ôl, yn dal yn berthnasol yng nghyd-destun y newidiadau a’r pwysau enfawr sy’n wynebu awdurdodau cyhoeddus ar hyn o bryd, ac os felly, sut, gan hefyd drafod materion a phryderon cyfredol.
Pleser yw cadarnhau mai siaradwyr a hwyluswyr gweithdai eleni yw:
- Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
Aelodau Panel:-
- Peter Davies, Llywydd Panel Dyfarnu Cymru
- Lyn Cadwallader, Prif Weithredwr, Un Llais Cymru
- Jan Williams, Comisiynydd Cwynion Heddlu Annibynnol Cymru
- Daniel Hurford, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Gwybodaeth Gefndirol – Pwyllgorau Safonau
Mae Pwyllgorau Safonau’n rhan o’r ‘fframwaith moesegol’ a sefydlwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 i reoleiddio ymddygiad y rhai sy’n gweithio ym maes llywodraeth leol. Dan y gyfraith, rhaid i bob awdurdod lleol sefydlu ei Bwyllgorau Safonau ei hun. Rhoddir cyfrifoldeb statudol i Bwyllgorau Safonol am sicrhau bod aelodau etholedig cynghorau a chynghorau cymuned yn eu hardal yn glynu wrth safonau ymddygiad uchel, sydd o fudd i’w rôl gyhoeddus ac yn unol â’r egwyddorion a nodir yng Nghod Ymddygiad statudol Aelodau. Mae’r egwyddorion hyn yn cynnwys: hyrwyddo cydraddoldeb a pharchu eraill, atebolrwydd a bod yn agored, dyletswydd i sicrhau cydymffurfiaeth â’r gyfraith, anhunanoldeb a stiwardiaeth, didueddrwydd a phriodoldeb, a hygrededd.
Mae mwyafrif aelodau pwyllgorau’n aelodau annibynnol (a benodir drwy broses benodi gyhoeddus statudol) ynghyd ag aelodau etholedig o’r awdurdod a chynrychiolwyr cynghorau cymuned lle y bo’n briodol.
Gall gwaith y Pwyllgorau Safonau gynnwys rhoi cyngor a hyfforddiant ar gynnwys a gweithrediad Cod Ymddygiad yr Aelodau; codi ymwybyddiaeth o safonau a materion moesegol yn yr awdurdod ac ymhlith y cyhoedd; clywed atgyfeiriadau am gamymddwyn honedig gan gynghorwyr; goruchwylio gweithdrefnau chwythu’r chwiban; penderfynu ar geisiadau ar gyfer goddefebau pan fo cynghorwyr yn datgan buddiant personol ym mhenderfyniadau’r cyngor neu gyngor cymuned; rhoi cyngor ar ddatblygu polisïau’r Cyngor; ac ystyried adroddiadau gan y Swyddog Monitro ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.