Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Archebu

Ffi Cynadleddwyr


Gallwch gadw’ch lle yma. Codir £75.00 y pen i fynychu’r gynhadledd. 


Cwblhewch holl adrannau perthnsol y ffurflen isod a’i dychwelyd i StandardsAndEthicsConferenceWales@caerdydd.gov.uk erbyn dydd Iau 1 Hydref 2015.


Cynhadledd ffurflen archebu (40kb DOC)​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd


Gweithdai’r Gynhadledd


I fynd i un o weithdai’r digwyddiad eleni, bydd angen i bob cynadleddwr nodi ei ddewis ymlaen llaw. 


Cynhelir dwy sesiwn gweithdy – un am 12.00pm-1.00pm ac un am 2.00pm-3.00pm – a chan bob un chwe gweithdy.

 

Gweithdai – Sesiwn Un

12.00pm i 1.00pm

1

Cyfryngau Cymdeithasol – Cadw Draw o Drwbl
Gweithdy dan arweiniad Daniel Hurford, CLlLC, a’r Swyddfa Monitro, yn ystyried arfer gorau, achosion diweddaraf a chyfraith achos.

2

Chwythu’r Chwiban – Addasu i ddelio â modelau gweithredu newydd i’r gwasanaethau cyhoeddus
Gweithdy dan arweiniad y Swyddfa Monitro yn adolygu arfer gorau, rôl y pwyllgor safonau a moeseg wrth adolygu achosion a dulliau cyfathrebu.

3

Cynghorau Cymuned – Llywodraethu a Safonau
Gweithdy dan arweiniad Un Llais Cymru a’r Swyddfa Monitro yn edrych ar brofion arfaethedig newydd LlC ar gymhwysedd; democratiaeth; gallu; capasiti a Llywodraethu.

4

Datrys Cwynion yn Lleol – Yn ymarferol
Gweithdy i edrych ar y broses o wrandawiadau panel, sesiwn chwarae rôl a delio â’r cyfryngau, dan arweiniad y Swyddfa Monitro.

5.

A yw Egwyddorion Nolan yn addas at y diben yn yr hinsawdd bresennol a thros yr 20 mlynedd nesaf?
Gweithdy i barhau â’r Drafodaeth Panel dan arweiniad y Swyddfa Monitro.

6.

Cywirdeb ym maes Cynllunio - Diweddariad
Gweithdy i adolygu statws presennol y Protocol Cynllunio sy’n ofynnol dan y Ddeddf Gynllunio, dan arweiniad y Swyddfa Monitro.


Gweithdai – Sesiwn Dau

2.00pm i 3.00pm

1.

Cyfryngau Cymdeithasol – Cadw Draw o Drwbl
Gweithdy dan arweiniad Daniel Hurford, CLlLC, a’r Swyddfa Monitro, yn ystyried arfer gorau, achosion diweddaraf a chyfraith achos.

2.

Chwythu’r Chwiban – Addasu i ddelio â modelau gweithredu newydd i’r gwasanaethau cyhoeddus
Gweithdy dan arweiniad y Swyddfa Monitro yn adolygu arfer gorau, rôl y pwyllgor safonau a moeseg wrth adolygu achosion a dulliau cyfathrebu.

3.

Cynghorau Cymuned – Llywodraethu a Safonau
Gweithdy dan arweiniad Un Llais Cymru a’r Swyddfa Monitro yn edrych ar brofion arfaethedig newydd LlC ar gymhwysedd; democratiaeth; gallu; capasiti a Llywodraethu.

4.

Datrys Cwynion yn Lleol – Yn ymarferol
Gweithdy i edrych ar y broses o wrandawiadau panel, sesiwn chwarae rôl a delio â’r cyfryngau, dan arweiniad y Swyddfa Monitro.

5.

A yw Egwyddorion Nolan yn addas at y diben yn yr hinsawdd bresennol a thros yr 20 mlynedd nesaf?
Gweithdy i barhau â’r Drafodaeth Panel dan arweiniad y Swyddfa Monitro.

6.

Cywirdeb ym maes Cynllunio - Diweddariad
Gweithdy i adolygu statws presennol y Protocol Cynllunio sy’n ofynnol dan y Ddeddf Gynllunio, dan arweiniad y Swyddfa Monitro.

 

Derbyniad Gyda'r Nos Yn Y Plasty - Dydd Llun 19 Hydref 2015


Bydd Dirprwy Arglwydd Faer Caerdydd, Y Cynghorydd Dilwar Ali yn cynnal derbyniad cyn y gynhadledd yn y Plasty ar nos Lun 19 Hydref 2015 o 6.30pm.  I gadw llefydd yn y derbyniad gyda’r nos, nodwch faint o gynadleddwyr o’ch parti a hoffai fynychu ar y ffurflen archebu.  Digwyddiad am ddim yw hwn.


Dim ond hyn a hyn o lefydd sydd ar gael, a chânt eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin.


Archebu Lllety


Mae gan Gaerdydd ystod eang o westai yng nghanol y ddinas nid nepell o Neuadd y Ddinas, ac mae pob un yn cynnig prisiau sy’n addas i bob poced.  Dylai cynadleddwyr gadw llety drwy Swyddfa Gynadledda Caerdydd gan ddyfynnu ‘Standards Conference Wales’.


I gadw lle, ewch i’r wefan​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd neu ffoniwch (029) 2087 1846.


Os oes gennych unrhyw ymholiadau, neu fod angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â:


Alex Martin,
Cymorth Democrataidd,
Cyngor Caerdydd,
Ystafell 286,
Neuadd y Sir,
Caerdydd,
CF10 4UW

Ffôn: 029 2087 3905   


​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd