Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Hysbysiad Preifatrwydd - taliadau gweithwyr gofal o £500

Sut caiff eich gwybodaeth bersonol ei defnyddio​


Os byddwch yn gwneud cais am y taliad gweithiwr gofal o £500 bydd eich cyflogwr yn rhannu gwybodaeth fel eich enw llawn, rhif yswiriant gwladol, y dyddiad y gwnaed y taliad gyda'r Awdurdod Lleol sy'n gweinyddu'r cynllun ar ran Llywodraeth Cymru. 

Caiff y wybodaeth hon hefyd ei rhannu ag awdurdod lleol a fydd yn cynnal gwiriadau i sicrhau bod y cynllun wedi'i weinyddu'n briodol, bod y rhai sydd wedi derbyn taliad yn gymwys i wneud hynny ac i sicrhau nad oes unrhyw daliadau dyblyg wedi'u gwneud (er enghraifft pan fo cyflogai yn gweithio i fwy nag un darparwr gofal). 

Os hoffech wybod mwy am sut y caiff eich gwybodaeth bersonol ei defnyddio at y diben o weinyddu'r cynllun a gwneud y taliad i chi, siaradwch â'ch cyflogwr.

Mae Cyngor Caerdydd yn gweinyddu'r cynllun ar ran Llywodraeth Cymru ar gyfer unigolion sy'n gweithio yng Nghaerdydd. Mae eich gwybodaeth bersonol a ddarperir ar y ffurflen hon yn cael ei chasglu gan eich cyflogwr ar sail eich cydsyniad a'ch cais am y taliad o £500. 

Fel awdurdod cyhoeddus, mae gan Gyngor Caerdydd gyfrifoldeb i sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio'n gywir ac felly gellir rhannu manylion y taliadau o fewn y Cyngor a chydag awdurdod arweiniol fel y'i dynodir gan Lywodraeth Cymru er mwyn atal a chanfod twyll a / neu wall.  Ni wneir unrhyw ddefnydd pellach o'ch data personol oni bai bod y gyfraith yn caniatáu neu'n ei gwneud yn ofynnol i Gyngor Caerdydd wneud hynny. 

Cedwir eich gwybodaeth am 7 mlynedd ar ôl i'r taliad gael ei wneud. 

I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Cyngor Caerdydd yn prosesu data personol, darllenwch yr Hysbysiad Preifatrwydd llawn.​​​​​​​​

© 2022 Cyngor Caerdydd