Pam rydyn ni’n darparu’r hysbysiad hwn ar eich cyfer
Mae angen i Gyngor Caerdydd gael eich data personol er mwyn gallu cyflawni rhai tasgau penodol yn ymwneud ag Oedolion sy’n derbyn Gofal a Chymorth, yn unol â’r hyn sydd er budd i’r cyhoedd.
Nod yr hysbysiad hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am y data amdanoch sydd gennym, sut rydym yn ei ddefnyddio, eich hawliau chi o ran eich data a'r camau sydd ar waith i'w ddiogelu.
Pa ddata personol sydd gennym a sut rydyn ni’n ei gael
Yn ystod ein hymwneud â chi, rydym yn casglu amrywiol ddarnau o wybodaeth amdanoch;
-
enw, cyfeiriad a dyddiad geni
-
eich anghenion a’ch amgylchiadau
-
barn gweithwyr proffesiynol
-
staff sy’n rhoi cymorth i chi
-
pryd a ble cyfarfu’r staff â chi
-
am beth yr oedd y cyfarfodydd a’r hyn ddigwyddodd ynddyn nhw
-
gwybodaeth y mae eich gofalwr/pobl eraill sy’n eich adnabod wedi ei rhoi i ni
-
gwybodaeth wedi ei rhoi gan wasanaethau eraill fu’n gweithio gyda chi, e.e.
Gweithwyr iechyd a gofal ac asiantaethau gwirfoddol
Sut byddwn yn defnyddio’ch data personol
Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon i sicrhau:
-
bod gan y staff sy’n rhoi cymorth i chi wybodaeth gywir, gyfredol er mwyn eu helpu i benderfynu ar y cymorth gorau ar eich cyfer chi
-
bod cofnodion cywir ar gael pan fyddwn yn adolygu’r gofal a’r cymorth a dderbyniwch
-
bod unrhyw bryderon yn cael eu hystyried yn briodol os bydd gennych gŵyn
-
mai dim ond unwaith y bydd yn rhaid i chi roi’ch gwybodaeth i ni
Am ba hyd yr ydyn ni'n cadw'ch data personol
Dan ddeddfau diogelu data, dim ond am y cyfnod y bydd ei angen i gwblhau'r dibenion y casglwyd ef yn y lle cyntaf y byddwn yn cadw'ch data personol.
Mae rhagor o wybodaeth ar gofrestr gadw’r Cyngor;
https://foi.cardiff.gov.uk/cym/Pages/OpenData.aspx
Rhannu gwybodaeth rhwng gwasanaethau
Weithiau, mae’n rhaid i ni rannu gwybodaeth bersonol heb ofyn i'r unigolyn.
Gall hyn ddigwydd;
-
ar gyfer gweithdrefnau cyfreithiol pan wneir Gorchymyn Llys
-
os oes risg niwed neu gamdriniaeth i chi neu bobl eraill
-
pan na fyddwch, o bosibl, yn gallu cydsynio, oherwydd cyflwr iechyd meddwl neu gorfforol er enghraifft
-
i gynorthwyo’r awdurdodau i atal/datrys troseddau neu erlyn troseddwyr, neu asesu/talu treth
Cadw eich gwybodaeth yn ddiogel
Mae dyletswydd gyfreithiol ar y Cyngor i gadw’r wybodaeth amdanoch yn gyfrinachol ac yn ddiogel. Os bydd angen i ni rannu gwybodaeth amdanoch, byddwn
-
yn dweud wrthych pam bod ei hangen arnom
-
yn gofyn dim ond am yr hyn sydd ei angen arnom, heb gasglu gormod o wybodaeth na gwybodaeth amherthnasol
-
yn ei diogelu ac yn sicrhau na fydd unrhyw un heb hawl i wneud hynny yn cael mynediad iddi
-
yn eich hysbysu os byddwn yn ei rhannu gyda sefydliadau eraill er mwyn rhoi gwell gwasanaethau i chi, ac a oes gennych hawl gwrthod
-
yn sicrhau na fyddwn yn ei chadw'n hirach nag sydd rhaid
Eich Hawliau
Fel gwrthrych data, mae gennych lawer o hawliau o ran eich data personol. Mae’r rhain yn cynnwys:
-
Hawl mynediad
-
Hawl i gywiro
-
Hawl i dileu
-
Hawl i dynnu cydsyniad yn ei ôl
-
Hawl i gludo data
-
Hawl i gyfyngu ar brosesu
-
Hawl i wrthwynebu
-
Hawliau mewn perthynas â gwneud penderfyniadau a phroffiliau awtomataidd.
Tynnu Cydsyniad yn ei ôl
Os ydym yn dibynnu ar gydsyniad oddi wrthoch i brosesu’ch data, gallwch wneud cais i dynnu’ch cydsyniad yn ôl neu gyfyngu ar rai elfennau o’r gwaith prosesu neu wrthwynebu iddo gael ei brosesu. Nid yw’r cyngor yn dibynnu ar gydsyniad yn y rhan fwyaf o achosion am fod arno rwymedigaeth gyfreithiol i berfformio rhai tasgau penodol. Er enghraifft, mae prosesu ceisiadau cynllunio, casglu taliadau’r dreth gyngor a thasgau gwaith cymdeithasol wedi eu seilio ar anghenion cyfreithiol, nid ar gydsyniad.
Cysylltu â ni/ y Swyddog Diogelu Data
Mae croeso i chi gysylltu â’r Swyddog Diogelu Data i gael rhagor o wybodaeth.
Swyddog Diogelu Data
Tîm Rheoli Gwybodaeth
Neuadd y Sir
Glanfa’r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW
diogeludata@caerdydd.gov.uk
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth, gweler
Hysbysiad Preifatrwydd Llawn y Cyngor Dolen allanol yn agor mewn ffenest newydd.