Diben yr hysbysiad hwn
Mae'r hysbysiad hwn yn esbonio sut mae eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu yn ystod yr amgylchiadau penodol sy'n ymwneud â Covid-19 a Strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu'r Llywodraeth i leihau nifer yr achosion o haint. Mae brechu’n ddull sylfaenol o ymdrin ag ymarfer iechyd y cyhoedd ac mae'n rhan o Gam Diogelu Strategaeth y Llywodraeth. Mae'r hysbysiad hwn yn egluro'n benodol sut rydym yn delio â'ch gwybodaeth ar gyfer y cyfnod brechu. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar
wefan Llywodraeth Cymru.
Beth sy'n digwydd nesaf – a oes angen i chi roi caniatâd i'ch gwybodaeth gael ei rhannu?
Nac oes, ni ofynnir i chi am eich caniatâd – mae'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol, gan gynnwys rhannu, yn cael ei thrafod yn y hysbysiad hyn.
Byddwn yn cysylltu â chi i drefnu apwyntiad ar safle Bwrdd Iechyd neu efallai y bydd sesiwn leol y gallech ei mynychu. Bydd angen i'r Bwrdd Iechyd gasglu rhywfaint o wybodaeth glinigol amdanoch chi, os nad ydynt eisoes yn meddu arni, megis a ydych wedi cael brechiad rhag y ffliw neu a oes gennych unrhyw alergeddau. Bydd y wybodaeth hon, a'ch penderfyniad i ddewis cael y brechiad, yn cael ei chofnodi yn eich cofnod meddygol ac ar System Imiwneiddio Cymru (SIC) a gedwir gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (GGGC).
Ar ôl eich brechiad, efallai y bydd eich meddyg teulu, yr Awdurdod Lleol a/neu adran Iechyd Galwedigaethol eich cyflogwr yn cael gwybod. Bydd hyn yn helpu gyda'u rhwymedigaethau cyfreithiol i reoli eich iechyd, eich lles a'ch diogelwch eich hun a phobl eraill. At yr un diben, efallai y bydd eich meddyg teulu, yr Awdurdod Lleol a/neu adran Iechyd Galwedigaethol eich cyflogwr hefyd yn cael gwybod os ydych wedi gwrthod cael y brechiad.
Pa ddata personol sy'n cael ei gasglu a'i ddefnyddio?
Er mwyn cynorthwyo gyda'r rhaglen frechu bydd angen i'ch Bwrdd Iechyd Lleol gasglu data personol. Gall y data y bydd yn ei gasglu amdanoch gynnwys:
- Enw llawn
- Dyddiad geni
- Rhywedd
- Dewis iaith
- Rhif GIG (os yn hysbys)
- Cyfeiriad llawn gan gynnwys cod post
- Rhif ffôn
- Cyfeiriad e-bost
- Eich dewis o ddull cyfathrebu
- Anabledd ac ethnigrwydd
- Alergeddau
- Statws brechu
- Hanes imiwneiddio
Bydd eich rhif ffôn symudol yn cael ei ddefnyddio i anfon negeseuon atgoffa atoch a bydd eich e-bost yn cael ei ddefnyddio fel ffordd arall o gysylltu â chi, pe bai angen. Bydd rhywfaint o’r wybodaeth hon yn cael ei rhoi i dîm brechu'r Bwrdd Iechyd gan eich cyflogwr er mwyn i'r tîm brechu gynnig brechiad i chi, a bydd rhywfaint yn cael ei chasglu gan y tîm brechu pan fyddan nhw’n cysylltu â chi.
Am ba hyd y cedwir data personol?
Bydd brechu, canlyniadau profion a gwybodaeth sy'n gysylltiedig ag unrhyw gyflyrau parhaus sy'n gysylltiedig â Covid-19 yn aros ar eich cofnod iechyd yn unol ag amserlenni cadw'r GIG.
A yw'r wybodaeth yn cael ei defnyddio at ddibenion heblaw brechiadau?
Gellir defnyddio'r wybodaeth a gesglir gan y Bwrdd Iechyd hefyd i:
- Ddeall achosion a thueddiadau COVID-19 er mwyn rheoli'r risgiau i iechyd y cyhoedd a rheoli ac atal lledaeniad COVID-19
- Nodi a deall gwybodaeth am gleifion neu ddarpar gleifion sydd â COVID-19 neu sydd mewn perygl o'i ddal
- Darparu gwasanaethau iechyd a lles i ddinasyddion ledled Cymru
- Sicrhau bod yr holl staff ym mhob gweithle yn ddiogel
- Ymchwil a chynllunio mewn perthynas â COVID-19 (gan gynnwys o bosibl gael gwahoddiad i fod yn rhan o dreialon clinigol)
- Monitro cynnydd a datblygiad COVID-19
Beth yw’r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol?
Yn y lle cyntaf, bydd eich cyflogwr yn dibynnu ar y seiliau cyfreithiol canlynol o dan Reoliad Cyffredinol Diogelu Data y DU (RhCDD DU) i roi eich manylion i'r Bwrdd Iechyd Lleol er mwyn iddo gynnig brechiad i chi:
- Erthygl 6(1)(c) – Mae prosesu'n angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol (Iechyd a Diogelwch) y mae'r Rheolydd yn ddarostyngedig iddi (eich cyflogwr)
- Erthygl 6(1)(f) - Mae prosesu’n angenrheidiol at ddibenion buddiannau dilys sy’n cael eu dilyn gan y rheolydd neu drydydd parti, ac eithrio lle mae buddiannau o’r fath yn cael eu trechu gan fuddiannau, hawliau neu ryddfreiniau gwrthrych y data sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r data personol gael ei ddiogelu, yn benodol lle mai plentyn yw gwrthrych y data. Mae Prawf Buddiannau Dilys wedi'i gymhwyso fel rhan o Asesiad o'r Effaith ar Ddiogelu Data (AEDdD) i gadarnhau bod y sail gyfreithiol hon yn cael ei chymhwyso.
Unwaith y bydd gan y Bwrdd Iechyd y wybodaeth hon, y sail gyfreithiol y bydd yn ei defnyddio i brosesu eich data personol at ddibenion brechu o dan RhDDC DU yw:
- Erthygl 6(1)(e) - Er mwyn cyflawni tasg a wneir er budd y cyhoedd neu wrth ymgymryd ag awdurdod swyddogol a roddir i’r rheolydd (y Bwrdd Iechyd)
Ar gyfer data categori arbennig (data iechyd) mae angen sail gyfreithiol ychwanegol ac, yn yr achos hwn, mae dau yn berthnasol:
- Erthygl 9(2)(h) - Rhoi meddyginiaeth, iechyd neu ofal cymdeithasol neu driniaeth ataliol neu alwedigaethol, neu reoli systemau iechyd neu ofal cymdeithasol
-
Erthygl 9(2)(i) - Rhaid i brosesu fod yn angenrheidiol er budd y cyhoedd ym maes iechyd y cyhoedd (megis diogelu rhag bygythiadau trawsffiniol difrifol i iechyd neu sicrhau safonau uchel o ansawdd a diogelwch gofal iechyd a chynhyrchion meddyginiaethol neu ddyfeisiau meddygol)
Deddfwriaeth berthnasol arall
Mae sawl darn arall o ddeddfwriaeth sy'n caniatáu ac yn galluogi'r sefydliadau i gasglu a defnyddio eich data. Rhai o'r prif rai yw:
- Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Heintiau) 1984
- Deddf y Coronafeirws 2020
- Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau’r Coronafeirws) (Cymru) 2020
Cysylltiadau Defnyddiol
Fe welwch fanylion am sut mae'r Bwrdd Iechyd Lleol yn ymdrin â'ch holl wybodaeth drwy ymweld â
wefan CIG Cymru.
Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwynion ynghylch sut y cafodd eich data personol ei drin, dylech, yn y lle cyntaf, gysylltu â'r Swyddog Diogelu Data yn eich Bwrdd Iechyd Lleol. Ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro cysylltwch â’r:
Adran Llywodraethu Gwybodaeth
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
Llawr Gwaelod, Tŷ Woodland
Maes-y-Coed Road
Caerdydd
CF14 4TT
Fodd bynnag, os nad ydych yn fodlon o hyd gallwch gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn:
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth - Cymru,
Ail Lawr, Tŷ Churchill,
Ffordd Churchill,
Caerdydd
CF10 2HH