Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Y Fenter Twyll Genedlaethol

​​​​Pam ein bod yn rhoi’r hysbysiad hwn i chi​​

Mae’n rhaid i’r Cyngor yn unol â’r gyfraith ddiogelu cronfeydd cyhoeddus a weinyddir gennym ac o ganlyniad, i sicrhau nad yw arian trethdalwyr yn cael ei dynnu allan o'r system trwy dwyll.

Mae’r hysbysiad hwn wedi ei gynllunio i roi gwybodaeth i chi am y data sydd gennym amdanoch, sut y byddwn yn ei ddefnyddio, eich hawliau ynghlwm ag ef a’r mesurau diogelwch sydd ar waith i’w ddiogelu.


Pa ddata personol sydd gennym​

Er mwyn perfformio’r dasg, gallwn goladu amrywiaeth o ddata sydd gennym amdanoch chi. Am fwy o wybodaeth cyfeiriwch at Hysbysiad Preifatrwydd Llawn y Cyngor.​


Sefydliadau y byddwn yn rhannu eich data personol â nhw​​

I atal a datgelu twyll, mae’n bosib y byddwn yn rhannu gwybodaeth a roddir i ni gyda chyrff eraill sy’n gyfrifol am archwilio a gweinyddu cronfeydd cyhoeddus, megis Swyddfa’r Cabinet, yr Adran Gwaith a Phensiynau neu Gynghorau eraill.


Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru (Yr Archwilydd Cyffredinol) yn adolygu cyfrifon y Cyngor ac yn gofyn i ni gymryd rhan mewn ymarferion paru data i helpu i atal a datgelu twyll.


Mae paru data yn golygu cymharu cofnodion cyfrifiadurol un corff gyda chofnodion cyfrifiadurol eraill gan yr un neu gyrff eraill, i weld i ba raddau maen nhw'n cyfateb. Gwybodaeth bersonol yw hyn fel arfer.


Mae’r math hwn o baru data yn fodd o nodi hawliadau/taliadau a all fod yn dwyllodrus. Gall pariad nodi amrywiad sy’n galw am ymchwil pellach. Ni ellir cymryd yn ganiataol a fu twyll, camgymeriad neu eglurhad arall hyd nes i ymchwiliad gael ei gwblhau.


Mae gofyn i ni roi setiau penodol o ddata i’r Archwilydd Cyffredinol i’w paru ar gyfer pob ymarferiad ac mae rhain wedi eu nodi yng nghanllaw Swyddfa Archwilio Cymru.​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd


Mae’r Archwilydd Cyffredinol yn defnyddio data yn rhinwedd ei rymoedd yn Rhan 3 Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004. Nid yw’n gofyn am gydsyniad yr unigolion dan sylw o danReoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU.​


Mae Paru data gan yr Archwilydd Cyffredinol yn amodol ar God Ymarfer. (466kb)​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd 


Am fwy o wybodaeth ar rymoedd cyfreithiol Yr Archwilydd Cyffredinol a’r rhesymau paham ei fod yn paru gwybodaeth benodol, gweler;


Cysylltu â ni / Swyddog Diogelu Data​​

Os oes unrhyw bryderon gennych yn ymwneud â’r Fenter Twyll Genedlaethol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data am fwy o wybodaeth.


Swyddog Diogelu Data

Tîm Llywodraethiant Gwybodaeth
Neuadd y Sir
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW                                                          

DiogeluData@caerdydd.gov.uk​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd

© 2022 Cyngor Caerdydd