Mae Cyngor Caerdydd angen eich data personol i gyflawni tasgau penodol sy’n ymwneud â holl weithwyr Cyngor Caerdydd, yn unol â'n Rhwymedigaethau Cyfreithiol a'n Buddiannau Cyfreithlon.
Mae’r hysbysiad hwn wedi’i gynllunio i roi gwybodaeth i chi am y data sydd gennym amdanoch, sut y byddwn yn ei ddefnyddio, eich hawliau mewn perthynas â’ch data a’r mesurau diogelwch sydd ar waith i’w ddiogelu.
Pa ddata personol sydd gennym a sut rydym yn cael gafael arno
Yn ystod eich cyflogaeth gyda Chyngor Caerdydd, rydym yn casglu amrywiaeth o wybodaeth gennych:
- Eich enw, eich cyfeiriad a’ch dyddiad geni
- Gwybodaeth am eich perthynas agosaf fel enw a manylion cyswllt
- Hanes cyflogaeth ac addysg a gwybodaeth sy'n gysylltiedig â pherfformiad
- Rhif yswiriant gwladol a manylion cyfrif banc
- Eich cenedligrwydd a tharddiad ethnig
- Dewis iaith
- Credoau crefyddol, statws priodasol a chyfeiriadedd rhywiol
- Anabledd corfforol neu feddyliol ac iechyd unigol
- Manylion euogfarnau, cyhuddiadau, maddeuant, y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
- Eich anghenion a’ch amgylchiadau personol
- Manylion Trwydded Yrru ac euogfarnau neu cosbau gyrru
Sut y byddwn yn defnyddio eich data personol
Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon i:
- Reoli ein proses recriwtio a dethol
- Gweinyddu cyllid (e.e. cyflog, pensiwn a buddion staff eraill)
- Cadw cofnodion rheoli, hyfforddi a datblygu perfformiad.
- Darparu cyfleusterau fel gwasanaethau TG a darpariaethau parcio ceir
- Sicrhau diogelwch gweithwyr
- Cadw cofnodion staff a chyswllt gyda gweithwyr blaenorol
- I gadw a gweinyddu unrhyw deithio corfforaethol
Bydd Cyngor Caerdydd yn prosesu categorïau data personol arbennig (a restrir uchod) er mwyn:
- Monitro deddfwriaeth cyfle cyfartal a chydymffurfio â'n rhwymedigaethau
- Darparu gwasanaethau lles a chymorth drwy’r gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol
- Rheoli amgylchedd diogel, gan sicrhau ffitrwydd i weithio
- Rheoli prosesau Adnoddau Dynol fel gweinyddu cynlluniau tâl salwch ac absenoldeb salwch
- Rheoli absenoldeb
- Gweinyddu absenoldeb mamolaeth a chynlluniau cyflog cysylltiedig eraill
Ein rhwymedigaethau dan Ddyletswydd Cydraddoldeb Sector Cyhoeddus
Dan Ddyletswydd Cydraddoldeb Sector Cyhoeddus, mae gan y Cyngor gyfrifoldeb i ddileu gwahaniaethu, aflonyddu, erledigaeth, a hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phobl nad ydynt yn ei rhannu.
Er mwyn cyflawni'r ddyletswydd hon, efallai y byddwn yn prosesu data categori arbennig gennych gan gynnwys eich cenedligrwydd a'ch tarddiad ethnig, data sy'n ymwneud â'ch iechyd a'ch cyfeiriadedd rhywiol.
Cynllun Budd-daliadau Cyflogeion
Fel rhan o ymrwymiad y Cyngor i Strategaeth Un Blaned, rydym yn darparu Cynllun Budd-daliadau Cyflogeion a fydd yn eich galluogi i fanteisio ar nifer o fudd-daliadau ildio cyflog.
Ceir manylion y darparwyr isod:
Mae opsiwn i ychwanegu mwy o gynlluniau a byddwn yn cyfathrebu'r rhain pan fyddwn yn barod i fynd yn fyw.
Am faint rydym yn cadw eich data personol
Dan ddeddfau diogelu data, dim ond am y cyfnod y bydd ei angen i gwblhau'r dibenion y casglwyd ef yn y lle cyntaf y byddwn yn cadw'ch data personol.
Mae rhagor o wybodaeth ar
gofrestr gadw’r Cyngor.
Rhannu gwybodaeth rhwng gwasanaethau
Mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i gadw eich gwybodaeth yn gyfrinachol ac yn ddiogel, felly cedwir eich cofnodion yn hollol gyfrinachol.
Byddwn ond yn rhannu eich gwybodaeth at y dibenion a nodir isod:
- at ddibenion cyfreithiol pan wneir Gorchymyn Llys
- os oes perygl o niwed neu gamdriniaeth i chi neu bobl eraill
- i gydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoliadol fel Awdurdod Lleol
- pan na fyddwch yn gallu rhoi caniatâd ar unrhyw adeg, er enghraifft oherwydd cyflwr iechyd corfforol neu feddyliol
- i helpu’r awdurdodau gydag atal/canfod troseddau neu erlyn troseddwyr, neu asesu/talu trethi
Weithiau efallai y byddwn yn rhannu gwybodaeth nad yw’n eich enwi yn unigol. Gellir defnyddio’r math hwn o wybodaeth er mwyn cynllunio gwasanaethau a dangos os ydym yn bwrw targedau.
Eich Hawliau
Fel testun data, mae gennych lawer o hawliau yn gysylltiedig â’ch data personol. Mae hyn yn cynnwys:
- Hawl i gael mynediad
- Hawl i gywiro
- Hawl i ddileu
- Hawl i dynnu eich cydsyniad yn ôl
- Hawl i symud data
- Hawl i gyfyngu ar brosesu
- Hawl i wrthwynebu
- Hawliau yn ymwneud â gwneud penderfyniadau awtomataidd a phroffilio
Tynnu Cydsyniad yn ôl
Os ydym yn dibynnu ar gydsyniad i brosesu’ch data, gallwch wneud cais i dynnu cydsyniad yn ôl neu i gyfyngu ar rai elfennau o’r gwaith prosesu. Gallwch wneud hyn drwy hysbysu’r Swyddog Diogeli Data’n ysgrifenedig.
Nid yw’r Cyngor yn dibynnu ar gydsyniad yn y rhan fwyaf o achosion am fod rhwymedigaeth gyfreithiol arno i berfformio rhai tasgau penodol. Er enghraifft, mae prosesu a gwneud penderfyniadau ynghylch talu cyflog a phensiynau yn seiliedig ar ofynion cyfreithiol, nid ar gydsyniad.
Cysylltu â ni
Cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data am ragor o wybodaeth:
Swyddog Diogelu Data
Tîm Llywodraethu Gwybodaeth
Neuadd y Sir
Glanfa’r Iwerydd