Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Siaradwch â ni ar-lein

​​Gallwch siarad ag asiant yn ein canolfan gyswllt​ drwy sgwrsio ar-lein.  

Mae ‘Web Chat’ ar gael yn Gymraeg a Saesneg.
 
Oherwydd natur y gwasanaeth hwn, ni allwn sicrhau y bydd ymatebion yn ramadegol gywir. Caiff pob sgwrs ar-lein ei recordio.
 
Daw’r sgwrs ar-lein i ben yn ddirybudd os byddwch yn defnyddio iaith fygythiol neu sarhaus.
 
Mae’r gwasanaeth ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.30am a 6pm. Mae’r ganolfan gyswllt ar gau yn ystod gwyliau banc y DU.
 

Sut i ddefnyddio’r gwasanaeth sgwrsio ar-lein

 
  • Ar ôl derbyn yr amodau defnyddio a chlicio i siarad ag asiant, bydd ffenestr newydd yn agor yn eich porwr i ddechrau’r sesiwn.
  • Rhennir y ffenestr yn 2 ran. Mae’r rhan uchaf yn dangos y sgwrs rhyngoch chi a’r asiant. Mae’r rhan waelod ar gyfer pori gwefannau defnyddiol.
  • I ddechrau sgwrs, symudwch y llygoden i’r adran ‘Sgwrsio’ ar frig y dudalen.
  • Unwaith i chi deipio’ch sylwadau, cliciwch ‘Anfon’ neu pwyswch y botwm 'Enter'. Yna caiff eich sylwadau eu dangos yn yr adran 'Sgwrsio’.
  • Ar ôl ychydig eiliadau bydd ein hasiant yn anfon ymateb i chi.
  • Os hoffech weld y sgwrs gyfan, sgroliwch i fyny ac i lawr.
 
© 2022 Cyngor Caerdydd