Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Llefydd pwyllgor gwag ar gyfer Aelodau Annibynnol

​​​​​Mae gan ddau o bwyllgorau'r Cyngor Aelodau Annibynnol neu Aelodau Lleyg. Diben hyn yw cefnogi llywodraethu da, stiwardiaeth ariannol a safonau ymddygiad uchel y Cyngor a'i Aelodau Etholedig. Mae gan Aelodau Annibynnol amrywiaeth o brofiad a sgiliau ac ​nid oes ganddynt gysylltiadau busnes â'r Cyngor.

Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

Mae Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio'r Cyngor yn ymchwilio a cheisio sicrwydd gan amrywiaeth o uwch swyddogion ac yn goruchwylio ac yn cyfrif am waith archwilwyr mewnol ac allanol y Cyngor. Mae'r Pwyllgor yn cynnwys deuddeg aelod, sy'n cynnwys wyth Cynghorydd, a phedwar Aelod Annibynnol.  Mae'r cydbwysedd hwn o aelodaeth etholedig ac annibynnol yn cynnig darpariaeth gynhyrchiol, gadarn a deinamig o gyfrifoldebau'r Pwyllgor, sy'n cael ei arwain gan Gadeirydd Annibynnol.

Penodi aelod annibynnol​


Mae cyfle cyffrous wedi codi i Aelod Annibynnol ymuno â Phwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Cyngor Caerdydd. 

Mae Cyngor Caerdydd wedi ymrwymo i'r safonau uchaf o ran llywodraethu corfforaethol a stiwardiaeth ariannol. Cylch gwaith Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio'r Cyngor yw goruchwylio ar lefel uchel fframwaith y Cyngor ar gyfer llywodraethu, cyllid, rheoli'r trysorlys, rheoli risg, rheolaeth fewnol, asesiadau perfformiad a gweithdrefnau cwyno. Er mwyn cyflawni'r cylch gwaith hwn, mae'n holi ac yn gofyn am sicrwydd gan amrywiaeth o uwch swyddogion ac yn goruchwylio ac yn rhoi cyfrif am waith archwilwyr mewnol ac allanol y Cyngor.

Mae'r Pwyllgor yn cynnwys deuddeg aelod, sy'n cynnwys wyth Cynghorydd, a phedwar Aelod Annibynnol a benodwyd o'r tu allan i'r Cyngor.  Mae'r cydbwysedd hwn o ran aelodaeth etholedig ac annibynnol yn sicrhau dull cynhyrchiol, cadarn a deinamig o gyflawni cyfrifoldebau'r Pwyllgor, sy'n cael ei arwain gan Gadeirydd Annibynnol a Dirprwy Gadeirydd. 

Dylai'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar sgiliau proffesiynol ac ymarferol cadarn, bod yn ymholgar ac yn annibynnol ei feddwl, a gallu cynorthwyo â gwaith y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio drwy ei wybodaeth a'i brofiad personol cronedig mewn meysydd sy'n berthnasol i'w rôl. 

Mae'r disgrifiad rôl a'r fanyleb person yn rhoi mwy o fanylion am y sgiliau a'r profiad y byddai eu hangen ar yr ymgeisydd llwyddiannus. 

Bydd dyletswyddau'r Aelod Annibynnol yn cynnwys mynychu pum cyfarfod cyhoeddus a drefnir pob blwyddyn ynghyd â mynychu digwyddiadau hyfforddi a datblygu gorfodol. Telir am y penodiad yn unol â Phanel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, sy'n rhagnodi taliadau o £210 y dydd ar gyfer gweithgareddau dros 4 awr o hyd a £105 y dydd ar gyfer gweithgareddau sy'n para hyd at 4 awr.  Gellir hawlio taliadau am fod yn bresennol mewn cyfarfodydd, teithio, amser paratoi a mynychu hyfforddiant. 

I ddechrau, bydd y penodiad am gyfnod o 5 mlynedd, gyda'r posibilrwydd o ailbenodi am 5 mlynedd arall. 

Ar hyn o bryd, mae aelodau o gymunedau amrywiol ac anabl yn cael eu tangynrychioli ar y Pwyllgor.  

Mae croeso arbennig i geisiadau gan aelodau o'r grwpiau hyn, er y bydd pob cais yn cael ei ystyried yn ôl teilyngdod.

Os ydych yn credu eich bod yn bodloni'r gofynion uchod ac os oes gennych ddiddordeb yn y rôl hon, anfonwch e-bost i gwasanaethaudemocrataidd@caerdydd.gov.uk i gael pecyn cais, neu ewch i wefan y Cyngor.

Os hoffech drafod y rôl yn anffurfiol, cysylltwch â: Christopher Lee, Cyfarwyddwr Corfforaethol Adnoddau drwy e-bostio Christopher.Lee@caerdydd.gov.uk

 

 

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Hanner dydd ar 24 Chwefror 2023           

Cyfweliadau: 13 Mawrth 2023


​Mae 1 swydd wag ar y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar hyn o bryd.​​




Pwyllgor Safonau a Moeseg

Rhaid i bob Cyngor gael Pwyllgor Safonau. 


Mae gan Bwyllgor Safonau a Moeseg Caerdydd gyfrifodeb i sicrhau bod aelodau etholedig y Cyngor a chwe Chynghorau Cymunedol yn cadw at safonau ymddygiad uchel ac yn gweithredu yn unol a'r egwyddorion a nodir yn y Cod Ymddygiad statudol i Aelodau (267kb PDF).​​​​​​​​​​​Link opens in a new window


Mae'r Pwyllgor yn cynnwys naw aelod I gyd:

  • Pum Aelod Annibynnol,
  • Tri Chynghorydd Sir, ac
  • Un Cynghorydd Cymunedol​

























Nid oes rolau gwag ar y Pwyllgor Safonau a Moeseg.​​



© 2022 Cyngor Caerdydd