Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Estyniad arbrofol oriau gweithredol

Fel rhan o Gynllun Adfer Covid-19 y Ddinas, cefnogwyd y busnesau lletygarwch gan y Cyngor drwy ailgyflwyno'r weithdrefn trwyddedu ffurfiol ar gyfer lletygarwch y tu allan (mannau eistedd awyr agored).     

Am 11pm, mae byrddau, cadeiriau ac offer cysylltiedig (rhwystrau, cynwysyddion planhigion, ymbarelau ac ati) y tu allan yn cael eu storio. Gall storio'r offer gael effaith andwyol ar allu busnes i barhau i fasnachu o dan do. 
  
Er mwyn helpu i gefnogi'r busnesau hynny sy'n cynnig lletygarwch y tu allan, ar y Stryd Fawr, bydd yr oriau gweithredu y tu allan yn cael eu hestyn ar sail prawf drwy'r haf.   

Wrth i'r tywydd wella, mae'r cynnig o arlwyo awyr agored yn dod yn fwy poblogaidd.   Mae'r cyngor wedi cynnig estyniad arbrofol i fusnesau i'w horiau gweithredol allanol ar gyfer arlwyo wrth eistedd. 

Bydd oriau arbrofol y caffis palmant ar y stryd yn y Stryd Fawr yn cael eu hestyn i gyd-fynd â'u trwydded safle, neu tan 1am (pa un bynnag yw'r cynharaf gan ddibynnu ar eu trwydded safle).   

Bydd yr arbrawf yn para am dri mis gan ddechrau ym mis Mehefin 2022.   

Bydd y Cyngor yn monitro effaith yr arbrawf drwy nodi unrhyw gwynion.   
Byddai unrhyw dordyletswydd (megis sŵn annerbyniol) yn cael ei drafod â'r busnes dan sylw, a allai arwain at ddirymu'r oriau gweithredu arbrofol o'r busnes hwnnw. 

Yr holiadur hwn yw eich cyfle i gofnodi unrhyw sylwadau, neu roi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau (megis sŵn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac ati) yn uniongyrchol i'r cyngor.  Gallwch ymateb cynifer o weithiau ag sy'n ofynnol. 

Dwued eich dweud ar yr estyniad arbrofol​​​​​​​​​​Link opens in a new window.​


​​

© 2022 Cyngor Caerdydd