Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Panel Dinasyddion Caerdydd

​Mae’r Panel Dinasyddion yn cynnwys preswylwyr lleol o ardaloedd ledled Caerdydd sydd wedi cytuno i roi eu barn ar nifer o bynciau ymgynghori drwy gydol y flwyddyn. Bydd aelodau’r panel yn rhannu eu barn trwy lenwi arolygon ac, o bryd i’w gilydd, trwy gymryd rhan mewn gweithgarwch arall megis grwpiau ffocws, gweithdai neu fforymau. 

Pam mae angen panel ar Gaerdydd?


Gall y Panel Dinasyddion fod yn ffordd ddibynadwy a chost-effeithiol o gael gwybod beth yw barn pobl Caerdydd am y gwasanaethau  sydd ar gael iddynt. Trwy wrando ar farn yr aelodau gall y Cyngor:

  • ​ddysgu rhagor am brofiadau grwpiau neu gymunedau penodol, 
  • helpu i sicrhau safonau uchel o ran darparu gwasanaethau, ac  
  • llywio proses gwneud penderfyniadau y Cyngor mewn ffordd ddibynadwy.

Sut mae ymuno?


Mae aelodaeth o’r panel yn agored i bawb, fodd bynnag byddwn yn arbennig o awyddus i glywed gennych os ydych o dan 30 oed. 

Os hoffech chi ofyn am becyn cais, cysylltwch â ni, neu:


Panel Dinasyddion Ifanc Caerdydd

Os ydych yn berson ifanc rhwng 11 a 25 oed sy'n byw yng Nghaerdydd, gallwch ymuno â'r Panel Dinasyddion Plant a Phobl Ifanc a rhoi eich barn i ni ar wahanol bynciau drwy gydol y flwyddyn.

Byddwch yn rhannu eich barn drwy arolygon, ac weithiau grwpiau ffocws, gweithdai neu fforymau.




Beth am gyfrinachedd? 

Mae’r Cyngor yn prosesu data personol yn ddyddiol. Rydym yn cadw rhywfaint o wybodaeth amdanoch chi ("data personol"). Felly rydym wedi cofrestru gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. Mae’n rhaid i unrhyw wybodaeth sydd gennym gael ei phrosesu yn unol â'r egwyddorion a restrir gan Reoliadau’r Comisiynydd Gwybodaeth, ac mae’n rhaid i ni gydymffurfio â nhw. 


Am ba mor hir y byddwn yn Aelod o Banel y Dinasyddion? 

Gofynnwn i chi ymuno â’r Panel am dair blynedd, ar ôl hynny byddwn yn rhoi cyfle i bobl eraill ymuno ag ef i fynegi eu barn. 

Beth os byddaf yn newid fy meddwl ar ôl ymuno â’r Panel? 

Os byddwch yn penderfynu rhoi’r gorau i fod ar y Panel yr unig beth sydd angen i chi ei wneud yw rhoi gwybod i ni!

​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd