Y Cynghorydd Rod McKerlich
Y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd
Blwyddyn Drefol 2020- 21
Manylion Personol
Cafodd Rod ei eni yn Perth, Yr Alban a symudodd i Gaerdydd ym 1974. Mae’n briod â Sue ac mae ganddynt dri o blant a saith o wyrion.
Gyrfa
Symudodd Rod i Radur ym 1974 i weithio yn y diwydiant papur a phecynnu. Bu’n gweithio tan iddo ymddeol fel Cyfarwyddwr yng ngofal grŵp o gwmnïau sydd erbyn hyn yn gwmni cydwladol mawr.
Mae Rod yn Llywodraethwr yn Ysgol Gyfun Radur ac Ysgol Gynradd Radur. Am nifer o flynyddoedd, bu Rod yn Gadeirydd y Llywodraethwyr yn Ysgol Gynradd Radur a chynorthwyodd gyda’i dwf o 1.5 dosbarth mynediad i 2 ddosbarth mynediad yn ogystal ag uned feithrin.
Gwleidyddol
Mae Rod yn Gynghorydd Cymuned ar gyfer Ward Radur a Phentre-Poeth. Cafodd ei ethol i Gyngor Caerdydd yn 2008, gan ennill y sedd o’r Blaid Lafur ac mae’n Chwip ar y grŵp ers 2009. Yn ystod y cyfnod hwn bu Rod yn aelod o amrywiaeth eang o bwyllgorau gwahanol a bu'n ymwneud yn benodol ag Economi a Diwylliant, Amgylchedd, ac Adolygu Polisi a Pherfformiad.
Hefyd bu Rod yn aelod o’r Awdurdod Tân a bu’n gweithredu fel Cadeirydd y Pwyllgor Cysylltiadau Dynol a oedd yn golygu cadeirio nifer o apeliadau pensiwn, gwrandawiadau disgyblu a chyfarfodydd pwyllgor.
Diddordebau
Mae Rod a Sue yn mynychu digwyddiadau yn rheolaidd yng Ngholeg Brenhinol Cymru, y Theatr Newydd, Neuadd Dewi Sant, a Chanolfan y Mileniwm. Bu Rod yn Gapten ac yn Gadeirydd ar Glwb Hoci Caerdydd ac yn Llywydd ar Gymdeithas Caledonaidd Cymru. Mae hefyd yn gyn-Gadeirydd ar Glwb Tennis Radur, yn gyn-Gapten ar Glwb Golff Radur ac yn Is-gadeirydd ar y Clwb Criced.
Mae Rod a Sue yn cefnogi gweithgareddau lleol yn helaeth, yn benodol Gŵyl Flynyddol Radur.
Elusen yr Arglwydd Faer
Cymdeithas Alzheimer Cymru yw’r elusen y mae’r Arglwydd Faer wedi’i henwebu i’w chefnogi yn 2020/21. Caiff yr holl arian a godir ei ddefnyddio i gefnogi pobl sy’n byw â demensia yng Nghaerdydd a ledled Cymru gan helpu i roi gwasanaethau hollbwysig fel ‘Dementia Connect’ – canolfan ffôn i sicrhau nad yw pobl sy’n byw â Demensia’n cael eu hanghofio.