Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Cryfach Tecach Gwyrddach

​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​ Cryfach Tecach Gwyrddach  
 
Cryfach Tecach Gwyrddach yw’r themâu sydd wedi diffinio gwaith y Cyngor dros y degawd diwethaf, a byddant wrth wraidd popeth a wnawn dros y 5 mlynedd nesaf.

  • Dinas gryfach, gydag economi sy’n creu ac yn cynnal swyddi sy’n talu’n dda, gyda system addysg sy’n helpu ein pobl ifanc i gyrraedd eu potensial, gyda thai da, fforddiadwy mewn cymunedau diogel, hyderus a grymus, i gyd yn cael eu cefnogi gan wasanaethau cyhoeddus effeithlon sydd ag adnoddau da.

  • Dinas decach, lle gall pawb fwynhau’r cyfleoedd o fyw yng Nghaerdydd, beth bynnag fo’u cefndir, lle mae’r rhai sy’n dioddef effeithiau tlodi yn cael eu diogelu a’u cefnogi, lle mae diwrnod teg o waith yn golygu diwrnod teg o gyflog, a lle mae pob dinesydd yn cael ei werthfawrogi ac yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi.

  • Dinas werddach, a fydd drwy ein rhaglen Caerdydd Un Blaned yn arwain ar ymateb i’r argyfwng hinsawdd, dinas sy’n dathlu ac yn meithrin bioamrywiaeth, gyda mannau agored o ansawdd uchel o fewn cyrraedd hawdd i orffwys a chwarae, dinas gysylltiedig â dewisiadau trafnidiaeth gynaliadwy cyfleus, hygyrch a diogel.


Yn yr adroddiad hwn, rydym yn nodi’r camau ymarferol y byddwn yn eu cymryd dros y 5 mlynedd nesaf i wireddu’r uchelgais hon.



Ym mhob portffolio, fe welwch ein hymrwymiadau i bobl ifanc ein dinas. Mae ein hymrwymiadau’n seiliedig ar ddarparu cymorth cynnar a chymorth i deuluoedd i bawb sydd ei angen, ar fynd â buddsoddi mewn ysgolion a gwella addysg i lefelau newydd a chefnogi’r pontio i fyd gwaith ac addysg bellach. Mae’r ymrwymiad wedi ei seilio ar ofalu am ein pobl ifanc fwyaf agored i niwed a sicrhau bod Caerdydd yn lle gwych i gael eich magu ar gyfer pob person ifanc. Mae’n seiliedig ar gael parciau, mannau gwyrdd a mannau chwarae gwych i’n pobl ifanc, mynediad i asedau chwaraeon a diwylliannol ein prifddinas, a sicrhau bod llais pobl ifanc yn cael ei glywed yn ein penderfyniadau. Yn fyr, rydym yn rhoi ein plant a’n pobl ifanc wrth wraidd ein huchelgeisiau ar gyfer y ddinas.

Yn yr un modd, mae ein rhaglen yn cynnwys ymrwymiadau i gau’r bwlch rhwng y cyfoethog a’r tlawd yn ein dinas a mynd i’r afael â’r argyfwng costau byw ar frys. Rydym wedi bod yn glir mai addysg yw’r llwybr mwyaf sicr allan o dlodi, ac mae angen i hyn gael ei ategu gan raglen a fydd yn sicrhau bod swyddi da yn parhau i fod ar gael yng Nghaerdydd - swyddi da, sy’n talu cyflog teg, gyda sicrwydd a’r cynnig o ddilyniant gyrfa - tra’n sicrhau’r cymorth sydd ei angen i gael gafael arnynt.

Byddwn yn mynd i’r afael ag argyfwng tai’r ddinas. Nid yn unig yr ydym wedi adeiladu’r cartrefi Cyngor cyntaf yng Nghaerdydd mewn cenhedlaeth, ond maent wedi bod yn gartrefi arobryn sydd wedi’u darparu fel rhan o un o raglenni adeiladu tai Cyngor mwyaf y DU. Ond rydym yn gwybod bod angen i ni fynd ymhellach a gweithredu’n gyflymach os ydym am ymateb i faint yr her sy’n wynebu’r ddinas o ran tai. Dyna pam yr ydym yn codi ein huchelgeisiau hyd yn oed yn uwch ac yn addo darparu 4,000 o gartrefi newydd erbyn 2030.

O dros 130 o bobl ar ei uchaf yn cysgu ar y stryd, a sgandal degau o bobl yn byw mewn pebyll ar ein strydoedd a’n parciau, dim ond 11 o bobl sy’n cysgu ar y stryd erbyn hyn. Mae hynny’n dal i fod yn 11 yn ormod, ond rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod yr ymagwedd radical a fabwysiadwyd gennym gyda phartneriaid yn ystod y pandemig yn ‘fusnes fel arfer’. Does dim troi’n ôl.

Mae’r weinyddiaeth hon wedi ymrwymo i arwain ymateb i’r argyfwng hinsawdd. Yr ydym eisoes yn cyflawni ein strategaeth Caerdydd Un Blaned. Mae fferm solar bellach yn darparu ynni adnewyddadwy glân i’r ddinas, y cyntaf o raglen o gynlluniau ynni sydd wrthi’n cael eu datblygu, ac mae ein cynlluniau tai yn ennill gwobrau cenedlaethol am eu gwydnwch yn wyneb her yr hinsawdd a’u hôl troed carbon isel. Ni welir y newid i sero net yn fwy amlwg yn unman arall na’n hymagwedd tuag at drafnidiaeth. Bydd dros 15 cilometr o feicffyrdd newydd yn cael eu cwblhau cyn bo hir, mae 36 o fysus trydan newydd wedi’u hychwanegu at fflyd o fysus y ddinas, ac mae cymunedau ledled y ddinas yn fwy diogel i gerddwyr a beicwyr yn sgil cyflwyno parthau 20mya. Mae hyn i gyd yn rhan o agenda drafnidiaeth drawsnewidiol a fydd yn newid sut mae pobl yn symud o amgylch y ddinas drwy ei gwneud yn haws, yn fwy diogel, yn iachach ac yn rhatach i ddefnyddio teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus.

Rydym wedi dod drwy un o’r cyfnodau mwyaf heriol o fewn cof. Fel arweinydd y ddinas hon, ni allwn fod yn falchach o’r ffordd y daethom at ein gilydd i ymateb i’r pandemig. Er gwaetha’r holl heriau a ddaeth yn sgil y pandemig, ac sy’n parhau i’n hwynebu, nid oes amheuaeth bod y pandemig wedi ennyn y gorau yn ein gwasanaethau cyhoeddus, busnesau, ein cymunedau a’n dinas. Ar ran y Cyngor a dinasyddion Caerdydd, hoffwn ddiolch yn fawr iawn i bawb a chwaraeodd eu rhan.

Dyma’r amser i edrych i’r dyfodol gydag optimistiaeth, gan gymryd y brwdfrydedd a’r ysgogiad, y gwaith partneriaeth ac arloesi, yr angerdd a’r ymrwymiad a welwyd yn ein hymateb i’r pandemig ymlaen wrth adnewyddu’r ddinas.

Fel arweinydd y Cyngor hwn, mae’n fraint i mi gael gweithio gyda phobl dalentog ac ymroddedig sydd wedi ymrwymo i lwyddiant y ddinas hon: fy nghydweithwyr yn y Cabinet a’m cyd-Gynghorwyr; ein staff gwych a phartneriaid gwasanaeth cyhoeddus; busnesau ac arweinwyr cymunedol a ffydd; fy nghydweithwyr yn yr undebau llafur; ein prifysgolion, ein harweinwyr ysgolion ac addysg bellach. Ac yn bwysicaf oll, pobl ein dinas wych.

Gyda’n gilydd, Tîm Caerdydd.

Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda chi i gyd i wneud Caerdydd yn brifddinas Gryfach, Decach a Gwyrddach.

Diolch,
Y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd​





Decorative  




© 2022 Cyngor Caerdydd