Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Cod Ymarfer Cyfryngau Cymdeithasol Sefydliadau Partner

Yng nghyfarfod llawn y Cyngor ym mis Mawrth 2021, pasiodd Cyngor Caerdydd Gynnig a oedd yn cydnabod:
  • ​Bod trafod a chraffu yn hanfodol i ddemocratiaeth ac na ddylid eu hanghefnogi, ond bod yn rhaid eu cynnal heb gamdriniaeth;
  • Bod y cyfryngau cymdeithasol yn ofod cynyddol ymosodol lle mae camdriniaeth yn gyffredin ac mae ffigyrau cyhoeddus yn aml yn dargedau ymddygiad camdriniol, sy'n anochel yn cael effaith andwyol sylweddol ar eu lles;
  • Mai gwybodaeth anghywir yn aml yw'r sbardun ar gyfer ymddygiad camdriniol o'r fath, ac 
  • Mai cyfrifon dienw heb unrhyw ôl o atebolrwydd yw'r rheiny sy’n ymddwyn yn ffordd hon yn aml,
  • A chytunodd i ddatblygu Cod Ymarfer ar gyfer grwpiau a sefydliadau sy'n gweithio gyda'r Cyngor ('Sefydliadau Partner'), i nodi disgwyliadau'r Cyngor mewn perthynas â'u defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol wrth ymgysylltu â’r Cyngor neu fusnes y Cyngor.


Cod Ymarfer


Mae Cyngor Caerdydd yn disgwyl y canlynol gan Sefydliadau Partner wrth iddynt ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i gyfathrebu â'r Cyngor, ei Aelodau neu ei swyddogion, neu ar faterion sy'n ymwneud â'r Cyngor, busnes y Cyngor, ei Aelodau neu ei swyddogion:

  1. ​Ymgysylltu parchus a phroffesiynol  - Gall beirniadaeth fod yn ddilys, ond dylai fod yn barchus, yn broffesiynol ac yn onest.
  2. Cywirdeb - dylai'r wybodaeth a gyhoeddir am y Cyngor fod yn ffeithiol gywir, a dylai sefydliadau wneud pob ymdrech resymol i gadarnhau cywirdeb ffeithiol y wybodaeth y maent yn ei phostio.
  3. Bod yn agored ac yn dryloyw – dylai unrhyw sylwadau am y Cyngor gael eu cyhoeddi'n agored, heb guddio pwy yw'r person neu'r sefydliad sy'n gyfrifol amdanynt. Ni ddylid defnyddio cyfrifon ar-lein gyda hunaniaethau ffug a grëwyd at ddibenion twyll.
  4. Atebolrwydd - mae sefydliadau'n gyfrifol am fonitro a golygu unrhyw sylwadau a wneir gan eraill ar eu tudalennau gwe eu hunain a dylent sicrhau bod ganddynt brosesau addas ar waith ar gyfer hyn.
  5. Sylwadau annerbyniol – dylai fod gan sefydliadau brosesau cwyno ar waith i geisiadau gael eu gwneud am ddileu sylwadau sarhaus, anghywir neu annerbyniol. Dylid nodi bod sylwadau sarhaus, gwahaniaethol neu ddifenwol yn annerbyniol a gallant arwain at y Cyngor yn cymryd camau yn erbyn y rhai sy'n gyfrifol.
  6. Gweithio mewn partneriaeth – dylai pob sefydliad partner geisio, lle bo hynny'n rhesymol ymarferol, rannu gyda phartneriaid perthnasol gynnwys unrhyw ddatganiadau neu gyhoeddiadau mewn datganiadau i'r wasg am brosiectau partneriaeth cyn iddynt gael eu gwneud. Yna dylai unrhyw gynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol am brosiectau partneriaeth fod yn seiliedig ar ddatganiadau a/neu gyhoeddiadau sydd wedi'u rhannu lle bo hynny'n ymarferol. 


Cydnabyddir y bydd gan lawer o sefydliadau eu canllawiau a'u polisïau eu hunain ar y cyfryngau cymdeithasol, a fydd yn berthnasol i'r sefydliadau hynny'n fwy cyffredinol.  Ni fwriedir i'r Cod Ymarfer hwn amharu ar ganllawiau neu bolisïau unrhyw sefydliad ei hun mewn unrhyw ffordd.

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo'n llwyr i gadw at yr egwyddorion uchod yn ei gyfathrebiadau ei hun ar y cyfryngau cymdeithasol am a chyda ei sefydliadau partner.


​​​

© 2022 Cyngor Caerdydd