Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Canllaw Dylunio i Fyw

Mae’r Canllaw Dylunio i Fyw (13mb PDF)​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd​​​ yn egluro sut bydd datblygiadau newydd yn helpu Caerdydd i fod y brifddinas orau i fyw ynddi yn Ewrop.

Mae’n egluro uchelgais y Cyngor ar gyfer dylunio trefol a phensaernïaeth sy’n creu ymdeimlad o le ac a fydd yn cael ei ddefnyddio gyda datblygiadau strategol ledled y ddinas. 

Mae’r canllaw yn cynnwys deg ‘egwyddor cynllunio allweddol’ fydd â’r nod o greu cymdogaethau da i fyw ynddyn nhw, drwy gynllunio a dylunio da.

Uchelgais y Cyngor yw bod datblygiadau newydd ymhlith y gorau yn y DU ac Ewrop o ran dangosyddion ffordd dda o fyw, megis:

  • ​ansawdd bywyd, 
  • mannau gwyrdd a chyhoeddus, 
  • trafnidiaeth a chynaliadwyedd. ​


Mae Archwiliad Trefol y Comisiwn Ewropeaidd yn cefnogi'r uchelgais. Barnodd yn ddiweddar fod Caerdydd yn cymharu’n dda iawn â dinasoedd tebyg yn Ewrop. 

Bwriedir y canllaw hwn ar gyfer datblygiadau mawr, pan fo cymunedau newydd yn cael eu creu ac a fydd yn effeithio ar Gaerdydd a’r Dinas-Ranbarth.  

Gall datblygwyr ddefnyddio’r canllaw hwn fel man cychwyn i lywio cynigion wrth drafod gyda’r Cyngor, wrth i ni weithio gyda’n gilydd i wireddu’r weledigaeth o Gaerdydd fel y ddinas orau i fyw ynddi yn Ewrop.
© 2022 Cyngor Caerdydd