Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Y Cynllun Corfforaethol 2024 i 2027

​​​​​Etholwyd gweinyddiaeth Lafur gan bobl Caerdydd ym mis Mai 2022 i gyflawni ymrwymiadau ein maniffesto a rhoi eu ffydd ynom i wneud Caerdydd yn ddinas Gryfach, Tecach a Gwyrddach.

Mae'r Cynllun Corfforaethol hwn yn ddogfen bwysig i'm gweinyddiaeth gan ei fod yn gwireddu ein hymrwymiadau polisi Cryfach, Tecach, Gwyrddach yn amcanion sefydliadol y gellir eu cyflawni. Mewn gwirionedd, mae'n amlinellu'r camau ymarferol y byddwn yn eu cymryd i wireddu ein huchelgeisiau.

Dinas gryfach, decach a gwyrddach - dyma'r themâu sydd wedi diffinio gwaith y Cyngor dros y degawd diwethaf, a byddant wrth wraidd popeth a wnawn dros y 5 mlynedd nesaf.

A byddwn yn adeiladu ar y cynnydd ardderchog yr ydym wedi'i wneud dr​os y 10 mlynedd diwethaf.

Rydym eisoes wedi cyflawni gwelliant parhaus yn ansawdd ac effeithiolrwydd system addysg Caerdydd ac wedi buddsoddi miliynau i ddarparu amgylchedd dysgu o ansawdd uchel.

Rydym wedi trawsnewid y dull o fynd i'r afael â digartrefedd yn y ddinas, gan ostwng nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd yn aruthrol, ac wedi cyflwyno un o'r rhaglenni adeiladu tai cyngor mwyaf yn y wlad.

Rydym wedi helpu i sefydlu Caerdydd fel dinas Cyflog Byw gwirioneddol, gan roi mwy o arian ym mhocedi pobl sy'n gweithio'n galed, ac wedi sefydlu ardal fusnes ganolog gyntaf Caerdydd yng nghanol y ddinas.

Cyflawnwyd y llwyddiannau hyn – a llawer mwy – drwy uchelgais, egwyddor a gwaith caled ac ymroddiad llawer iawn o bobl.

Fodd bynnag, mae'r byd wedi newid yn sylweddol dros y ddwy flynedd ddiwethaf, gydag etifeddiaeth pandemig Covid-19 yn dyfnhau'r anghydraddoldebau presennol ac yn creu heriau newydd. Mae rhai gwasanaethau yn profi colled incwm barhaus tra bod eraill yn wynebu heriau mwy a phroblemau mwy cymhleth wrth iddyn nhw gefnogi adferiad. Mae effaith barhaol y pandemig hefyd yn parhau i gael ei deimlo'n frwd mewn ysgolion, gyda chyfraddau presenoldeb yn gostwng i nifer o ddysgwyr a chynnydd eglur yn nifer y bobl ifanc sy'n dioddef o iechyd meddwl gwael. Mae’r rhain yn heriau y mae’n rhaid i ni ymateb iddynt.

Mae'r argyfwng costau byw hefyd yn rhoi pwysau gwirioneddol ar aelwydydd ar draws y ddinas, gan daro unigolion a theuluoedd bregus yn arbennig. Bydd y rhai mwyaf anghenus yn edrych i’r Cyngor am gefnogaeth, ac ni fyddwn yn eu siomi.

Ac ar draws y wlad, mae awdurdodau lleol yn wynebu heriau cyflawni sylweddol. Gyda chwyddiant uchel a phrisiau ynni wedi codi’n aruthrol, mae costau darparu gwasanaethau cyhoeddus a buddsoddi yn ein hadeiladau a'n seilwaith i gyd yn cynyddu.

Fodd bynnag, rydym wedi wynebu heriau yn y gorffennol ac wedi mynd i’r afael â nhw gydag uchelgais o'r newydd ac ymrwymiad di-flino i gyflawni. Fe wnawn ni hynny eto.

Mae'r Cynllun hwn yn nodi'r camau y byddwn yn eu cymryd i gyflwyno'n hagenda ar gyfer y ddinas, ymateb i heriau sy'n dod i'r amlwg a sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel yn cael eu cyflawni’n barhaus.

O ran addysg, mae'n nodi ein hymrwymiadau parhaus i wneud pob ysgol yng Nghaerdydd yn ysgol dda, i fuddsoddi symiau sylweddol yn ein hysgolion gan gau'r bwlch cyrhaeddiad. Mae'r Cynllun yn egluro'r camau y byddwn yn eu cymryd i sicrhau'r canlyniadau gorau i rai o blant mwyaf agored i niwed y ddinas tra'n cyflawni'r diwygiadau sydd eu hangen i sicrhau bod darpariaeth gwasanaethau yn wydn, yn gynaliadwy ac yn canolbwyntio ar ataliaeth.

Yn ogystal â dod yn Ddinas sy'n Dda i Blant, byddwn yn parhau i wneud Caerdydd yn Ddinas sy'n Dda i Bobl Hŷn, gan gynnig y cymorth a’r gwasanaethau sydd ei angen ar bobl wrth iddynt dyfu'n hŷn. Does dim dwywaith, bydd hyn yn golygu mynd i'r afael â phroblemau systemau cymhleth gyda'n partneriaid i gael pobl allan o'r ysbyty mor gyflym a diogel â phosibl, tra hefyd yn gweithio i'w cadw i fyw yn annibynnol gartref am gyn hired â phosib.

Ar ôl trosglwyddo'r allweddi i bron i fil o gartrefi newydd y Cyngor, amlinellon ni gynlluniau i ddarparu 4,000 o gartrefi newydd tra'n sicrhau bod gan bawb yn y ddinas fynediad at gartref o ansawdd uchel.

O ran yr economi, rydym yn ei gwneud hi’n glir ein bod yn arwain yr adferiad economaidd yng Nghymru drwy barhau â rhaglen bwysig o adfywio a chadarnhau safle Caerdydd fel cyrchfan flaenllaw o ran chwaraeon, cerddoriaeth a diwylliant.

Bydd hyn yn cael ei gefnogi gan raglen drawsnewidiol o fuddsoddiad mewn trafnidiaeth gyhoeddus a fydd yn helpu i yrru cynhyrchiant busnes, cysylltu pobl ar draws y ddinas â chyfleoedd cyflogaeth a helpu i ostwng allyriadau carbon. Bydd hyn i gyd yn rhan o raglen ehangach o ddatgarboneiddio wrth i ni ymgorffori uchelgeisiau ein rhaglen Caerdydd Un Blaned ym mhopeth a wnawn. Boed hynny’n sbarduno ein cyfraddau ailgylchu, datblygu cynigion ar gyfer prosiectau cynhyrchu ynni glân, ôl-osod cartrefi neu edrych yn feirniadol ar effaith ein gwariant ar garbon - bydd cyflawni sero-net yn genhadaeth y byddwn yn glynu ato.

Fel sefydliad, byddwn ni'n parhau i weithredu'r newid i weithio hybrid a chadw at y buddion y mae ffyrdd newydd o weithio yn eu cynnig, o ran cynhyrchiant, effeithlonrwydd a lles. Bydd hyn yn cynnwys adolygiad beirniadol o'n swyddfeydd craidd, y dechnoleg rydyn ni'n ei defnyddio a'r polisïau sydd gennym ar waith i gefnogi rheolwyr a staff.

Yn ehangach, byddwn yn adeiladu ar y gwaith da yr ydym wedi ei wneud i wneud y Cyngor yn sefydliad sy'n adlewyrchu'r cymunedau y mae'n eu gwasanaethu. Trwy weithredu argymhellion y Tasglu Cydraddoldeb Hil, gan adeiladu ar ein safle fel yr awdurdod lleol uchaf ar Fynegai Cyflogwyr Stonewall a chryfhau ymgysylltiad â chymunedau na chlywir yn aml, byddwn yn y sefyllfa orau i gyflawni ar gyfer ein holl gymunedau.

Dyma gynllun ar gyfer prifddinas gryfach, tecach a gwyrddach.


Y Cyng. Huw Thomas 

Arweinydd Cyngor Caerdydd

Lawrlwythwch y Cynllun Corfforaethol llawn (5.54​mb PDF) ​ ​​​




Mae’r wybodaeth a geir yn y dogfennau hyn wedi’u dylunio i’w hargraffu. Mae’n bosib na fydd modd gweld popeth ar-lein.
​​


© 2022 Cyngor Caerdydd