Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Projectau Adfywio Cymdogaethau

​​Rydym yn gweithio i greu gwell lleoedd i bobl fyw, gweithio a chwarae ynddynt yng Nghaerdydd. Gwnawn hyn drwy gyflawni projectau a chefnogi gwaith sy’n helpu i wella cymdogaethau ledled y ddinas. 

 


Rydym yn ariannu projectau drwy’r rhaglen Cynlluniau Adnewyddu Cymdogaethau, a rhaid i bob project fod o fudd i bobl leol drwy wneud Caerdydd yn lle gwell i fyw a gweithio ynddo.

 


Gwahoddir Cynghorwyr Lleol i gynnig syniadau ar gyfer yr hyn yr hoffent ei wella yn eu cymuned. Yna bydd y Cyngor llawn yn ystyried y syniadau hyn.

 

Cynnig awgrym

 

Os oes unrhyw syniadau gennych, cysylltwch â’ch Cynghorydd lleol​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd ynghylch y pethau yr hoffech iddynt gael eu gwella yn eich cymdogaeth.

 

Projectau a gwblhawyd yn ddiweddar

 

Mae 57 o brojectau wedi’u cwblhau yng Nghaerdydd ers 2000/2001, gan gynnwys y canlynol:

 

Gorllewin Adamsdown

 

Yn sgîl y gwaith i Adnewyddu’r Ardal, mae dros 250 o dai wedi’u gwella drwy waith atgyweirio allanol a gwaith ar waliau ffiniol. Mae’r gwelliannau eraill yn cynnwys y canlynol:

  • Palmentydd, dodrefn stryd a phlannu coed stryd newydd
  • Gwella cyffyrdd a threfn ffyrdd
  • Creu parciau newydd ym Mharc y Fynwent a Chaeau Anderson drwy ymgynghori â thrigolion lleol a grwpiau ieuenctid
  • Gwelliannau i ardal chwarae Gerddi Howard
  • Gwella’r man agored ar System Street, gan gynnwys llwybrau newydd i gerddwyr / beicwyr, trefniadau arafu traffig a goleuadau

 

Gogledd Grangetown

 

Mae dros 400 o dai wedi’u gwella drwy waith atgyweirio allanol a gwaith ar waliau ffiniol. Mae’r gwelliannau eraill i’r ardal yn cynnwys y canlynol:

  • Gweithio gyda thrigolion lleol i greu Gerddi Courtmead, sef gardd gymunedol sy’n cynnwys gwaith celf a ddyluniwyd gan breswylwyr a phlant lleol
  • Palmentydd newydd, gan gynnwys palmentydd ‘ymwthiol’ i wella diogelwch cerddwyr
  • Plannu coed stryd a gosod arwynebau ffordd newydd (gan gynnwys cyffyrdd dyrchafedig i atal pobl rhag gyrru’n rhy gyflym)
  • Gwelliannau i Somerset Street drwy’r rhaglen DIY Stryd mewn partneriaeth â Sustrans Datblygwyd y cynllun gyda thrigolion lleol i greu amgylchedd diogelach, mwy deniadol.  

Cysylltu â ni

I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o’r projectau a restrir yma, cysylltwch â ni.


Cysylltu â ni

 

029 2087 3260

 

© 2022 Cyngor Caerdydd