Gall dinesydd tramor cymwys sy'n byw yng Nghymru ac sy'n 16 oed neu'n hŷn bleidleisio yn:
- Etholiadau Senedd Cymru (y Senedd)
- Etholiadau Llywodraeth Leol yng Nghymru
Ni chaiff dinasyddion tramor cymwys bleidleisio yn Etholiadau Llywodraeth y DU ar hyn o bryd.
Pwy sy'n cael eu hystyried yn ddinesydd tramor cymwys?
Rydych yn cael eich ystyried fel dinesydd tramor cymwys os oes gennych, neu os ydych yn cael eich trin fel rhywun sydd â chaniatâd, i ddod i mewn ac i aros yn y DU, ac nad ydych yn:
- yn ddinesydd y Gymanwlad, neu
- yn ddinesydd Gweriniaeth Iwerddon