Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

CEU Cwestiynau Cyffredin

Beth yw cofrestru etholiadol unigol?

 

Yn flaenorol, 'pennaeth yr aelwyd' oedd yn gyfrifol am gofrestru pawb a oedd yn byw yn y cyfeiriad, ond bellach mae pob unigolyn yn gyfrifol am gofrestru ei hun i bleidleisio. Yr enw ar hyn yw Cofrestru Etholiadol Unigol. Mae'r system newydd hefyd yn golygu bod pobl bellach yn gallu cofrestru ar-lein. Bydd angen i unrhyw un sy'n cofrestru o'r newydd dan y system newydd gofrestru'n unigol drwy lenwi ffurflen bapur neu ar-lein.

 

 

Oes rhaid i mi wneud unrhyw beth/oes rhaid i mi ailgofrestru (yn ystod y cyfnod trosglwyddo)?

 

Caiff y rhan fwyaf o bobl sydd eisoes wedi cofrestru i bleidleisio eu cofrestru'n awtomatig dan y system newydd. Nid oes rhaid iddynt wneud unrhyw beth a byddant wedi'u cofrestru i bleidleisio yn ôl yr arfer. Byddwn yn anfon llythyr ym mis Gorffennaf/mis Awst 2014 i roi gwybod i'r bobl hyn eu bod wedi cofrestru dan y system newydd.

 

Ceir lleiafrif ar y gofrestr etholiadol nad ydynt wedi'u cofrestru'n awtomatig dan y system newydd. Mae'n syml i'r bobl hyn ailgofrestru. Rydym yn ysgrifennu at bobl nad ydynt wedi'u cofrestru'n awtomatig i roi gwybod iddynt bod angen iddynt gofrestru dan y system newydd. Rhoesom ffurflen gofrestru gyda'r llythyr neu gallant gofrestru ar-lein yn www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.

 

Os nad ydych wedi cofrestru i bleidleisio, gallwch gofrestru yn www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.

 

 

Pam fod y system wedi newid?

 

Mae cofrestru etholiadol unigol yn rhoi'r hawl a'r cyfrifoldeb i chi gofrestru eich hun, yn lle rhoi'r cyfrifoldeb ar 'bennaeth yr aelwyd'. Felly, mae'n annog pobl i gymryd cyfrifoldeb unigol dros eu pleidlais eu hunain. Mae'r newid hefyd yn caniatáu dulliau mwy cyfleus o gofrestru, er enghraifft, dros y rhyngrwyd (neu dros y ffôn neu'n bersonol os yw eich awdurdod lleol yn cynnig hynny). Oherwydd bod y system newydd yn gofyn i chi am fwy o fanylion cyn eich ychwanegu at y gofrestr - eich rhif yswiriant gwladol a'ch dyddiad geni - bydd y gofrestr etholiadol yn fwy diogel ac yn fwy cadarn i atal twyll etholiadol.

 

 

Pwy sy'n gyfrifol am newid y system?

 

Cyflwynwyd y system gan lywodraeth y DU drwy Ddeddf Cofrestru a Gweinyddu Etholiadol 2013 a ddaeth i rym yn gyfreithiol ar 31 Ionawr 2013. Swyddogion Cofrestru Etholiadol sy'n rhoi'r newidiadau ar waith.

 

 

A yw'r newidiadau'n effeithio ar sut y byddaf yn pleidleisio?

 

Nid yw'r prosesau pleidleisio wedi newid. Fodd bynnag, os ydych am bleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy, bydd angen i chi sicrhau eich bod wedi cofrestru dan y system newydd. Os ydych am bleidleisio drwy'r post ac nid ydych eisoes wedi cyflwyno cais, bydd angen gwneud hyn erbyn 5pm, 11 o ddiwrnodau cyn etholiad i bleidleisio drwy'r post yn yr etholiad hwnnw.

 

Os nad ydych eisoes wedi cyflwyno cais i bleidleisio drwy ddirprwy, fel arfer y dyddiad cau yw chwe diwrnod gwaith cyn etholiad, heblaw os bydd argyfwng meddygol neu os byddwch yn cael eich galw ymaith yn ddirybudd am resymau gwaith, pan fyddwch yn gallu cyflwyno cais hyd at 5pm ar y diwrnod pleidleisio.

 

 

Sut ydw i'n ymuno â neu'n gadael y gofrestr agored (olygedig)?

 

Gan ddefnyddio gwybodaeth a dderbynnir gan y cyhoedd, mae swyddogion cofrestru'n cadw dwy gofrestr - y gofrestr etholiadol a'r gofrestr agored (a elwir hefyd y gofrestr olygedig).

 

Mae'r gofrestr etholiadol yn rhestru enwau a chyfeiriadau pawb sydd wedi cofrestru i bleidleisio mewn etholiadau cyhoeddus. Defnyddir y gofrestr at ddibenion etholiadol megis sicrhau mai dim ond pobl sy'n gymwys i bleidleisio sy'n gwneud hynny. Fe'i defnyddir at ddibenion cyfyngedig eraill a nodir yn y gyfraith hefyd, megis canfod troseddau (e.e. twyll), cysylltu â phobl i drefnu gwasanaeth rheithgor a cheisiadau gwirio credyd.

 

Mae'r gofrestr agored yn ddetholiad o'r gofrestr etholiadol, ond ni chaiff ei defnyddio mewn etholiadau. Gall unrhyw berson, cwmni neu sefydliad ei phrynu. Er enghraifft, fe'i defnyddir gan fusnesau ac elusennau i gadarnhau manylion enw a chyfeiriad.

 

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad ar y gofrestr agored oni bai eich bod yn gofyn iddynt gael eu tynnu oddi arni. Nid yw tynnu eich manylion oddi ar y gofrestr agored yn effeithio ar eich hawl i bleidleisio. Gallwch hefyd newid eich opsiynau eithrio unrhyw bryd drwy wneud cais i staff cofrestru etholiadol lleol gyda'ch enw llawn a’ch cyfeiriad gan nodi a hoffech gael eich cynnwys ar y gofrestr olygedig ai peidio. Gallwch wneud hyn yn ysgrifenedig neu drwy ffonio 02920 872034. Byddwn hefyd yn ysgrifennu atoch i gadarnhau unrhyw newid.

 

 

Beth yw'r gofrestr agored (olygedig)?

 

Gan ddefnyddio gwybodaeth a dderbynnir gan y cyhoedd, mae swyddogion cofrestru'n cadw dwy gofrestr - y gofrestr etholiadol a'r gofrestr agored (a elwir hefyd y gofrestr olygedig).

 

Mae'r gofrestr etholiadol yn rhestru enwau a chyfeiriadau pawb sydd wedi'u cofrestru i bleidleisio mewn etholiadau cyhoeddus. Defnyddir y gofrestr at ddibenion etholiadol megis sicrhau mai dim ond pobl sy'n gymwys i bleidleisio sy'n gwneud hynny. Fe'i defnyddir at ddibenion cyfyngedig eraill a nodir yn y gyfraith hefyd, megis canfod troseddau (e.e. twyll), cysylltu â phobl i drefnu gwasanaeth rheithgor a cheisiadau gwirio credyd.

 

Mae'r gofrestr agored yn ddetholiad o'r gofrestr etholiadol, ond ni chaiff ei defnyddio mewn etholiadau. Gall unrhyw berson, cwmni neu sefydliad ei phrynu. Er enghraifft, fe'i defnyddir gan fusnesau ac elusennau i gadarnhau manylion enw a chyfeiriad.

 

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad ar y gofrestr agored oni bai y byddwch yn gofyn iddynt gael eu tynnu oddi arni. Nid yw tynnu eich manylion o'r gofrestr agored yn effeithio ar eich hawl i bleidleisio.

 

 

Sut ydw i'n dod o hyd i'm rhif Yswiriant Gwladol?

 

Cyfeirnod a ddefnyddir gan y llywodraeth yw rhif Yswiriant Gwladol. Y lle hawsaf i ddod o hyd i'ch rhif Yswiriant Gwladol yw ar waith papur swyddogol, megis eich cerdyn Yswiriant Gwladol, slipiau talu neu lythyrau gan yr Adran Gwaith a Phensiynau neu Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi. Efallai y gall myfyrwyr ddod o hyd iddo yn eu manylion cofrestru prifysgol neu yn eu cais am fenthyciad myfyrwyr. Os na allwch ddod o hyd iddo o hyd, gallwch ddefnyddio gwasanaeth ymholiadau Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn www.gov.uk/lost-national-insurance-number.

 

Os nad oes gennych fynediad i'r rhyngrwyd, gallwch ffonio llinell gymorth Cofrestriadau Yswiriant Gwladol ar 0300 200 3502.

 

Am ymholiadau Cymraeg, rhif ffôn y llinell gymorth Cofrestriadau Yswiriant Gwladol yw 0300 200 1900.

 

Ni fydd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi'n dweud eich rhif Yswiriant Gwladol wrthych dros y ffôn, byddant yn ei bostio atoch.
Fel arall gallwch ysgrifennu at:
HM Revenue & Customs
National Insurance Contributions & Employer Office National Insurance Registrations Benton Park View
Newcastle upon Tyne
NE98 1ZZ

 

Mae gan y rhan fwyaf o bobl yn y DU rif Yswiriant Gwladol. Os nad oes un gennych, gofynnir pam na allwch ei ddarparu. Gall staff cofrestru etholiadol lleol gysylltu â chi i ofyn am brawf adnabod.

© 2022 Cyngor Caerdydd