Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Twyll

​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​Mae'r Tîm Ymchwilio i Dwyll Corfforaethol yn cynnwys ymchwilwyr sydd wedi'u hyfforddi'n broffesiynol sy'n cynnal ymchwiliadau sifil a throseddol sy'n ymwneud ag atal a chanfod troseddau, dal ac erlyn troseddwyr, ac adennill enillion troseddau. 

Atal a chanfod twyll

​​Mae'n ofynnol i Gyngor Caerdydd yn ôl y gyfraith amddiffyn yr arian cyhoeddus y mae'n ei weinyddu. Mae ein henw da wedi'i seilio ar ymddygiad moesegol, cywirdeb ariannol a gonestrwydd. Gallai unrhyw achosion o dwyll, llwgrwobrwyo, llygredd neu anonestrwydd arall effeithio'n andwyol ar enw da'r Cyngor, a rhoi ei allu i gyflawni ei bolisïau a'i amcanion mewn perygl. 

Gyda throseddwyr yn ceisio manteisio fwyfwy ar unrhyw wendid ar draws y sector cyhoeddus, yn enwedig ar adegau o adfyd, ein ffocws yw parhau'n wyliadwrus o risgiau o dwyll ac yn ymatebol iddynt. 

Paru Data

Mae nifer o weithgareddau i ganfod y risg o dwyll trwy ddadansoddi data a pharu data. Gallwn rannu gwybodaeth a roddwyd i ni â chyrff cyfrifol eraill at ddibenion archwilio neu i weinyddu arian cyhoeddus, er mwyn atal a chanfod twyll.

Mae'r Archwilydd Cyffredinol yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor gymryd rhan yn ymarfer paru data'r Fenter Twyll Genedlaethol (MTG). Gan fod yr Archwilydd Cyffredinol, wrth gynnal ymarfer paru data, yn defnyddio data ag awdurdod statudol (Rhan 3A Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004), nid oes angen caniatâd yr unigolion dan sylw dan Ddeddf Diogelu Data 1998.

​Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau. Ers ei sefydlu ym 1996, mae ymarferion y MTG wedi arwain at ganfod ac atal dros £35.4 miliwn o dwyll a gordaliadau yng Nghymru, ac £1.69 biliwn ledled y DU.

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Archwilio Cymru

Hysbysiad Preifatrwydd   ​​

I gael mwy o wybodaeth am bwerau cyfreithiol yr Archwilydd Cyffredinol, ewch i Hysbysiad Preifatrwydd Archwilio Cymru neu cysylltwch:

Swyddog Diogelu Data
Tîm Llywodraethu Gwybodaeth
Neuadd y Sir
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW

E-bost: diogeludata@caerdydd.gov.uk

​Ewch i Hysbysiad Preifatrwydd Cyngor Caerdydd

Troseddau Corfforaethol (TC)

Cyflwynodd Cyllid a Thollau ei Fawrhydi (CThEF) gyfres o fesurau fel rhan o Ddeddf Cyllid Troseddol 2017 i fynd i'r afael â throseddau ariannol. Mae TC yn ddarn o ddeddfwriaeth a gyflwynwyd drwy'r Ddeddf gyda'r nod o ddal pobl sy'n osgoi trethi, galluogwyr a'r rhai sy'n methu ag atal hwyluso achosion o osgoi treth.

​Dylid cyfeirio pryderon sy'n ymwneud â methiant o fewn Cyngor Caerdydd i atal hwyluso achosion o osgoi treth at: 

Y Swyddog Adrodd am Wyngalchu Arian
Cyngor Caerdydd
Neuadd y Sir
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW​​

E-bost: twyll@caerdydd.gov.uk 

Gwyngalchu Arian

Gwyngalchu Arian yw'r broses pan gaiff enillion troseddol eu glanhau i guddio'u tarddiad anghyfreithlon. Mae'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn adrodd bod gwyngalchu arian yn costio mwy na £100 biliwn y flwyddyn i'r DU. Bydd troseddwyr yn ceisio ymbellhau o'u troseddau drwy ddod o hyd i lochesau diogel ar gyfer eu henillion, lle gallant osgoi gorchmynion atafaelu, a lle y gellir sicrhau bod yr enillion hynny'n ymddangos yn gyfreithlon.

Mae Cyngor Caerdydd wedi sefydlu mesurau diogelu a threfniadau adrodd priodol a chymesur ar gyfer atal gwyngalchu arian.

Dylid cyfeirio pryderon sy'n ymwneud â Gwyngalchu Arian at:

Y Swyddog Adrodd am Wyngalchu Arian
Cyngor Caerdydd
Neuadd y Sir
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW​

E-bost: twyll@caerdydd.gov.uk 

Sgamiau a Seiberdroseddau 

Action Fraud yw canolfan adrodd genedlaethol y DU ar gyfer twyll a seiberdroseddau.

Mae seiberdroseddwyr yn defnyddio negeseuon ffug i'ch denu i glicio ar y dolenni yn eu neges e-bost neu neges destun dwyllodrus, neu i roi gwybodaeth sensitif iddynt (fel manylion banc). Efallai bod y negeseuon hyn yn edrych yn ddilys ond maen nhw'n faleisus. Ar ôl clicio arnynt, efallai y cewch eich anfon i wefan anniogel a allai lawrlwytho firysau ar eich cyfrifiadur, neu ddwyn eich cyfrineiriau. 

Os ydych yn credu eich bod wedi dioddef twyll neu seiberdrosedd ac wedi colli arian, neu os ydych wedi eich hacio o ganlyniad i ymateb i neges we-rwydo, dylech adrodd hyn i Action Fraud. 

Mae'r Tîm Sgamiau Safonau Masnach Cenedlaethol yn helpu i fynd i'r afael â sgamiau marchnata eang ac yn tarfu ar weithrediadau drwgweithredwyr sydd y tu cefn i sgamiau e-bost. Mae'n gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau trwy'r wlad i nodi a chefnogi'r rhai sydd wedi dioddef twyll marchnata eang.  

Dysgwch fwy am sgamiau.


Bathodyn Glas

Camddefnyddio trwydded ddilys, neu ddefnyddio trwydded ffug er mwyn parcio mewn man rheoledig neu osgoi talu costau parcio. Ystyrir bod bathodyn a roddwyd i berson sydd wedi marw yn un twyllodrus, hyd yn oed os nad yw'n cael ei ddefnyddio at ddibenion twyllodrus.

Llwgrwobrwyo neu Lygredd

Derbyn arian neu roddion, ffafrio contractwyr neu osod prisiau. Staff neu gynghorwyr y Cyngor yn manteisio ar eu safle.

Ardrethi Busnes

Gall ardrethi annomestig gynnwys ceisiadau twyllodrus am eithriadau a rhyddhadau ac eiddo heb eu rhestru sy'n cael eu defnyddio at ddibenion busnes.

Atebolrwydd neu Gymorth Treth Gyngor

Pan fo'r talwr treth gyngor yn methu â datgan ei amgylchiadau'n gywir. Er enghraifft, mae person yn honni mai ef yw'r unig oedolyn sy'n byw yn yr eiddo i fod yn gymwys i gael gostyngiad pan fo oedolion eraill yn byw yn yr eiddo mewn gwirionedd. Hawliadau gan dalwyr treth gyngor am eithriadau nad oes hawl ganddynt i'w cael.

Gweithiwr

Pan fo gweithiwr yn cam-fanteisio ar ei safle (triniaeth ffafriol lygredig, taliadau anghyfreithlon am ffafr, penodi cydnabod i swydd annheg, dwyn neu embeslu) neu'n cyflwyno hawliadau ffug neu wedi'u gorliwio.

Grantiau

Ceisiadau ffug neu dalu grantiau neu roi cymorth ariannol ar gam i unrhyw berson ac unrhyw fath o asiantaeth, sefydliad neu elusen.

Tai

Rhoi gwybodaeth ffug ar gais tenantiaeth, aseiniad tenantiaeth neu hawliad olyniaeth tenantiaeth. Is-osod eiddo'r Cyngor. Pan nad yw tenant yn byw yn eiddo'r Cyngor fel ei brif gartref mwyach.

Budd-dal Tai

Pan fo hawliwr yn methu â datgan ei amgylchiadau'n gywir.

Yswiriant

Hawliad yswiriant y profir ei fod yn anghywir, a wneir yn erbyn y sefydliad neu yswiriwr y sefydliad.

Mandad

Mae Action Fraud yn diffinio twyll mandad fel “pan fo rhywun yn eich ysgogi i newid debyd uniongyrchol, archeb sefydlog neu fandad trosglwyddiad banc, drwy ffugio bod yn sefydliad rydych yn gwneud taliadau rheolaidd iddo, er enghraifft sefydliad rydych wedi tanysgrifio iddo neu'n aelod ohono neu eich cyflenwr busnes."

Dim Hawl i Gael Arian Cyhoeddus

Os nad oes gan berson hawl i gael arian cyhoeddus, mae'n golygu ei fod wedi'i gyfyngu rhag cael gafael ar arian cyhoeddus penodol a thai cymdeithasol. Mae person sy'n hawlio arian cyhoeddus er gwaethaf amod fel hwn yn troseddu.

Troseddau Cyfundrefnol

Wedi'u cynllunio, eu cydlynu a'u cyflawni gan bobl sy'n gweithio gyda'i gilydd yn barhaus. Eu cymhelliant fel arfer yw budd ariannol. Mae Troseddau Cyfundrefnol yn cael effaith ddifäol ar ein gwasanaethau cyhoeddus, yn effeithio ar fwy o ddinasyddion nag unrhyw fygythiad diogelwch cenedlaethol arall, ac yn dod yn fwy cyffredin a chymhleth.

Y Gyflogres a Threuliau

Yn cwmpasu ystod eang o feysydd fel gweithwyr ffug ar y gyflogres, dargyfeirio taliadau i gyfrifon twyllodrus, gweithwyr yn derbyn cyflogau uwch nag y mae ganddynt hawl iddynt naill ai o ran gradd neu oriau sy'n cael eu gweithio, neu oramser neu hawliadau treuliau wedi'u gorliwio neu ffug .

Caffael

Mae caffael nwyddau a gwasanaethau yn aml yn rhan sylweddol o wariant sefydliad ac mae'n agored i ystod eang o risgiau posibl o dwyll.

Mae hyn yn cynnwys unrhyw dwyll sy'n gysylltiedig â chaffael nwyddau a gwasanaethau yn dwyllodrus ar gyfer sefydliad gan berson(au) mewnol neu allanol neu sefydliad(au) yn y weithdrefn 'prynu i dalu' neu'r weithdrefn ôl-gontract, gan gynnwys monitro contractau.

Recriwtio

Pan fo ymgeiswyr yn cyflwyno CV, hanes swyddi, cymwysterau, geirdaon, statws mewnfudo (h.y. yr hawl i weithio yn y DU) ffug neu'n defnyddio hunaniaeth ffug i guddio euogfarnau troseddol neu statws mewnfudo.

Gofal Cymdeithasol

Pan nad yw taliadau yn cael eu defnyddio i dalu am ofal y person agored i niwed. Pan fo gweithwyr gofal yn hawlio arian am amser pan na fuont yn gweithio neu'n gwario'r gyllideb a ddyrannwyd yn amhriodol. Pan nad yw cynilion neu asedau cyfalaf yn cael eu datgan. Pan fo cymorth ariannol yn parhau ar ôl i'r person agored i niwed farw neu pan fo y tu allan i'r DU.

Taliadau Disgresiwn a Chymorth Lles

Mae gan Gyngor Caerdydd swm cyfyngedig o arian ar gael ar gyfer hawliadau cymorth lles. Rhoddir arian yn ôl disgresiwn a gellir ei dalu fel taliad mewn argyfwng neu ar ffurf tâl cymorth.

Mae'r wybodaeth ganlynol yn ganllaw sylfaenol ac nid yw'n disodli cyngor cyfreithiol. Lle bo'n briodol, dylech ofyn am eich cyngor cyfreithiol annibynnol eich hun os cewch eich gwahodd i gyfweliad dan rybudd.

Cyfweliad dan rybudd

Nid oes gofyniad cyfreithiol penodol bod yn rhaid i berson yr amheuir ei fod wedi cyflawni trosedd gael cyfweliad dan rybudd cyn gwneud unrhyw benderfyniad ynghylch p'un ai ei erlyn ai peidio. Fodd bynnag, mae dyletswydd arnom i roi cyfle i rywun dan amheuaeth ateb yr honiadau yn ei erbyn a rhoi ei gyfrif ei hun cyn gwneud penderfyniad i erlyn. 

Pam ydw i wedi cael cais i fynychu cyfweliad dan rybudd?

Os ydych wedi cael cais i fynychu cyfweliad dan rybudd, bydd hyn  oherwydd ein bod yn credu bod rheswm i amau eich bod wedi cyflawni trosedd. Nid yw hyn yn golygu ein bod yn credu eich bod yn euog ac y byddwn yn eich erlyn yn awtomatig. Mae'n golygu bod y dystiolaeth yr ydym wedi'i chael hyd yma yn dangos y gallech fod wedi cyflawni trosedd.

Bydd y cyfweliad yn rhoi cyfle i chi roi esboniad o'r digwyddiadau.  Fodd bynnag, os byddwn yn dod o hyd i unrhyw dystiolaeth yn ystod y cyfweliad eich bod wedi cyflawni trosedd, efallai y cewch eich erlyn.

A gaf i siarad â rhywun am y llythyr yr wyf wedi'i gael gan y Cyngor?

Bydd y llythyr yr ydych wedi'i gael yn rhoi manylion cyswllt yr Ymchwilydd. Bydd swyddog yn trefnu'r cyfweliad gyda chi a bydd hefyd yn trefnu cyfieithydd ar y pryd os oes angen hyn. Gall y cyfieithydd ar y pryd esbonio'r broses a ddilynir ond ni all drafod manylion yr ymchwiliad gyda chi.

A oes rhaid i mi fynychu cyfweliad?

Nac oes, ond os na fyddwch yn bresennol, ni fydd yn ein hatal rhag cymryd camau pellach, fel eich erlyn.

Os na fyddwch yn mynychu'r cyfweliad, byddwn yn ystyried y dystiolaeth sydd gennym ac yn gwneud penderfyniad ar gamau pellach heb fudd eich cyfrif eich hun.

Pwy all ddod i'r cyfweliad gyda fi?

Cewch benodi eich cyfreithiwr neu ymgynghorydd cyfreithiol eich hun neu efallai y bydd eich Canolfan Cyngor ar Bopeth leol yn gallu eich helpu i wneud hyn.

Cewch ddod â rhywun nad yw'n gysylltiedig â'r ymchwiliad, fel ffrind, gweithiwr cymdeithasol neu berthynas.

Os nad cyfreithiwr nac ymgynghorydd cyfreithiol cymwys yw'r person sy'n mynychu'r cyfweliad gyda chi, i roi cefnogaeth foesol i chi yn unig y mae yno ac ni fydd yn cael siarad, ateb cwestiynau ar eich rhan na'ch cynghori.

Os oes gennych nam difrifol ar eich clyw neu os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf (ac rydych yn cael anhawster deall ac ateb yn Saesneg), byddwn yn trefnu i gyfieithydd ar y pryd fod yn bresennol - rhowch wybod i ni am eich gofynion.

Nid oes gennym gyfleusterau gofal plant ac ni fyddwn yn cyfweld â chi os oes gennych blentyn dibynnol gyda chi ar adeg y cyfweliad.

Pwy fydd yn cyfweld â mi?

Bydd un neu ddau swyddog yn cyfweld â chi fel arfer. Mae'r swyddogion hyn wedi'u hyfforddi i gynnal cyfweliadau dan rybudd.

Weithiau byddwn yn cynnal ymchwiliadau ar y cyd ag asiantaethau eraill, fel yr Adran Gwaith a Phensiynau. Os bu ymchwiliad ar y cyd yn eich achos chi, efallai y bydd swyddog o'r Cyngor a swyddog o'r asiantaeth arall yn cyfweld â chi.

Beth fydd yn digwydd yn y cyfweliad?

Cyn gofyn unrhyw gwestiynau, bydd y canlynol yn cael ei esbonio:

  • ​mae recordiad sain o'r cyfweliad yn cael ei greu
  • mae'r cyfweliad yn cael ei gynnal yn unol â Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 a'r Codau Ymarfer perthnasol
  • cewch edrych ar y Codau Ymarfer
  • byddwch yn cael eich rhybuddio ac yn cael gwybod am eich hawliau (nad ydych yn cael eich arestio, eich bod yn rhydd i adael y cyfweliad ar unrhyw adeg ac y gallwch ofyn am gyngor cyfreithiol ar unrhyw adeg)
  • pam y gofynnwyd i chi fynychu'r cyfweliad a manylion y drosedd sy'n destun ymchwiliad

 

Ar ddiwedd y cyfweliad, gofynnir i chi lofnodi sêl bapur ludiog a fydd yn cael ei defnyddio i selio un o'r cyfryngau recordio.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Os yw gwybodaeth newydd wedi dod i'r amlwg yn ystod y cyfweliad, efallai y bydd angen i ni wneud ymholiadau pellach. Ar ôl gwneud hyn, byddwn yn adolygu ein hymchwiliad ac efallai y bydd angen i ni gyfweld â chi eto. Os felly, byddwn yn ysgrifennu atoch i ddweud wrthych beth arall sydd angen ei wneud.

Pryd fyddaf yn gwybod pa gamau fydd yn cael eu cymryd?

Mae hyn yn dibynnu ar natur yr achos, ond byddwn fel arfer yn ysgrifennu atoch o fewn dau fis i'r cyfweliad i ddweud ein penderfyniad wrthych. Os yw'r penderfyniad yn debygol o gymryd mwy na dau fis, byddwn yn ysgrifennu atoch i ddweud hyn a phryd mae'n debygol y bydd penderfyniad yn cael ei wneud.

Pa gamau y gall y Cyngor eu cymryd?

Os credwn nad oes tystiolaeth bod trosedd wedi'i chyflawni (neu nid ydym yn teimlo, er bod tystiolaeth, ei bod er budd y cyhoedd i gymryd camau pellach) byddwn yn ysgrifennu atoch ac yn dweud wrthych na fyddwn yn cymryd unrhyw gamau ffurfiol yn eich erbyn. Nid yw hyn yn ein hatal rhag adennill unrhyw ordaliadau a allai fod wedi'u gwneud i chi.

Os credwn fod digon o dystiolaeth i erlyn, byddwn yn ystyried (yn unol â Gweithdrefn Sancsiynau'r Cyngor) pa gamau pellach fydd yn cael eu cymryd.

Mae'r opsiynau fel a ganlyn:

Rhybudd Syml

Rhybudd ffurfiol yw hwn y gellir ei roi i bobl 18 oed neu hŷn sy'n cyfaddef eu bod wedi cyflawni trosedd. Diben hyn yw cynnig modd o ymdrin â throseddu lefel isel, tro cyntaf yn bennaf, heb erlyn.  

Yn ogystal, dim ond os ymddengys fod digon o dystiolaeth bod gobaith realistig o euogfarn os oedd y troseddwr i gael ei erlyn y gellir rhoi rhybudd syml.

Mae rhybuddion syml yn rhan o gofnod troseddol y troseddwr. Gellir cyfeirio atynt mewn achosion cyfreithiol yn y dyfodol a gellir eu datgelu fel rhan o wiriad cofnod troseddol.

Cosb Ariannol

Yn lle erlyn, efallai y byddwn yn cynnig cosb. Bydd hyn yn 50% o swm y gostyngiad gormodol o Gymorth Treth Gyngor sydd wedi'i ordalu, yn amodol ar:

  • isafswm o £100, ac
  • uchafswm o £1000.

​Os derbynnir y gosb, a bod cytundeb am ad-dalu yn cael ei wneud, ni chymerir unrhyw gamau pellach yn ymwneud â'r drosedd hon.

Mae rhybuddion syml a chosbau ariannol yn ddewisiadau amgen i erlyn. Os cynigir un o'r dewisiadau amgen hyn i chi a'ch bod yn ei wrthod, rydym yn cadw'r hawl i'ch erlyn.

Erlyn

Gellir cynnal achosion troseddol yn erbyn troseddwyr a gall yr achos fynd i'r Llys os ymddengys fod digon o dystiolaeth o drosedd a bod erlyn er budd y cyhoedd.

​ ​​
​ ​

Sut i adrodd twyll​

Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn ymchwilio i dwyll budd-dal tai. Os yw'ch adroddiad yn ymwneud â budd-dal tai neu fudd-daliadau'r wladwriaeth, dylech ei adrodd i'r Adran Gwaith a Phensiynau.

Os ydych yn amau bod rhywun yn twyllo'r Cyngor, adroddwch hyn i ni.​ ​

Rhowch gymaint o fanylion â phosibl gan gynnwys:

  • enw a chyfeiriad y person rydych yn ei amau,
  • manylion y twyll,
  • ers pryd mae hyn wedi bod yn digwydd, a
  • phwy arall a all fod yn gysylltiedig. 

 

Bydd Cyngor Caerdydd yn derbyn atgyfeiriadau dienw. Mae croeso i chi adael eich manylion cyswllt,
fodd bynnag, cofiwch y gallai'r rhain gael eu datgelu os bydd angen gwneud hynny yn ôl y gyfraith. 

​Adrodd am dwyll


© 2022 Cyngor Caerdydd