Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Cyllideb y Cyngor

Daeth yr ymgynghoriad ar Gyllideb 2024 i 2025 i ben ddydd Sul 4 Chwefror 2024.​


Nid oes amheuaeth bod cynghorau ledled Cymru a'r DU bellach yn wynebu heriau ariannol yn wahanol i unrhyw beth a brofwyd o'r blaen.


Mae'r heriau hyn wedi bod ar y gweill ers cryn amser.

Maent yn ganlyniad i ddegawd o gyni, Covid-19, yr argyfwng costau byw a nawr dychwelyd i gyni unwaith eto.

Er gwaethaf hyn, rydym wedi ymrwymo i wneud Caerdydd yn ddinas gryfach, decach a gwyrddach ac rydym yn cymryd camau breision yn hyn o beth.

Mae canlyniadau addysg bellach ymhlith yr uchaf yng Nghymru.

Rydym yn adeiladu mwy o dai Cyngor newydd nag erioed o'r blaen.

Mae mwy o bobl yn derbyn y cyflog byw gwirioneddol yng Nghaerdydd ac mae'r nifer uchaf erioed o bobl yn cael cymorth i mewn i waith ac i gael budd-daliadau.

Fodd bynnag, fel awdurdodau lleol ledled y wlad, bu'n rhaid i ni ddarparu gwasanaethau ar ôl mwy na degawd o gyni. Mae hyn wedi golygu bod Cyngor Caerdydd wedi gorfod gwneud arbedion o fwy na £230m ers 2012.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf rydym hefyd wedi gorfod ymateb i bandemig Covid-19, argyfwng costau byw ac ynni, a chostau a chwyddiant cynyddol, sydd wedi bod yn ergyd drom i’n cymunedau, ein pobl a'n teuluoedd mwyaf agored i niwed, a'n gwasanaethau cyhoeddus.
 
Fwy a mwy, mae dinasyddion Caerdydd yn troi at y Cyngor a’n partneriaid gwasanaeth cyhoeddus am gymorth, boed hynny ar gyfer tai, ar gyfer cyflogaeth, am ofal ar gyfer perthnasau hŷn neu am gefnogaeth deuluol. Ac eto oherwydd yr amodau economaidd a phenderfyniadau gwariant llywodraeth y DU nid oes gennym yr arian sydd ei angen arnom i ymateb.

Rydym yn amcangyfrif, oherwydd cyfuniad o gostau cynyddol a'r galw cynyddol ar wasanaethau, y bydd cynnal y gwasanaethau y mae'r ddinas yn elwa ohonynt ar hyn o bryd yn costio £56m yn ychwanegol y flwyddyn nesaf.

Mae Llywodraeth Cymru yn wynebu ei phwysau cyllidebol ei hun, ac felly, er ei bod wedi darparu £25m yn ychwanegol i Gyngor Caerdydd, mae hyn yn bell iawn o'r hyn sydd ei angen i dalu'r costau ychwanegol y mae'r Cyngor yn eu hwynebu nawr. Ac felly, er gwaethaf cynnydd mewn cyllid gan Lywodraeth Cymru, mae hynny'n dal i'n gadael ni gyda bwlch o £30.5m y mae’n rhaid i ni ei gau drwy arbedion effeithlonrwydd, cynyddu’r Dreth Gyngor neu daliadau am wasanaethau, neu, mewn rhai achosion, drwy gwtogi neu dorri gwasanaethau’n gyfan gwbl.

Mae'r ymgynghoriad cyllideb hwn yn nodi'r newidiadau i'n gwasanaethau yr ydym yn gorfod eu hystyried er mwyn mantoli'r gyllideb yn 2024 i 2025.

Rydym yn awyddus i gael eich barn ar y cynigion hyn. Felly cymerwch ran, ac ymatebwch i'r cwestiynau sydd yn yr ymgynghoriad hwn erbyn canol nos ar 4 Chwefror 2024. Mae eich barn chi’n bwysig. Gyda'n gilydd gallwn helpu i lunio cyllideb sy'n amddiffyn y rhai sydd fwyaf agored i niwed wrth ymdrechu i adeiladu dyfodol gwell a Chaerdydd well i bawb sy'n byw yma.

Y Cynghorydd Huw Thomas
Arweinydd, Cyngor Caerdydd
Mae gan y Cyngor gyllideb gyffredinol o £804m y mae'n ei defnyddio i ariannu gwasanaethau lleol.

Wrth bennu’r gyllideb ar gyfer 2024/25, mae'r Cyngor yn ymdrin ag un o'r heriau mwyaf y mae wedi'i hwynebu erioed o ran y gyllideb. Rydym yn amcangyfrif bod y gost o ddarparu'r un gwasanaethau y flwyddyn nesaf wedi cynyddu tua £56m.

  • Y galw am ofal cymdeithasol a’r gost o’i ddarparu yw sbardun mwyaf y bwlch yn y gyllideb yr ydym yn ei wynebu. Roedd gwasanaethau sy'n cefnogi'r bobl fwyaf agored i niwed - fel plant sydd angen eu hamddiffyn neu bobl hŷn sydd angen gofal - eisoes yn wynebu pwysau enfawr. Mae'r pwysau hyn wedi parhau i gynyddu ac mae cost y ddarpariaeth wedi codi'n sydyn ar draws y wlad. Mae hyn ar adeg pan fo'r galw yn cynyddu ac mae lefel y cymorth sydd ei angen yn dod yn fwy cymhleth.

  • Wrth i'r argyfwng costau byw waethygu, mae mwy a mwy o bobl yn troi at y Cyngor am gymorth. Mae'r pwysau ehangach hwn yn y galw y mae holl wasanaethau'r Cyngor yn ei wynebu, yn cael effaith.
    - Mae nifer y bobl sy'n defnyddio gwasanaethau cynghori'r Cyngor wedi dyblu ers cyn y pandemig.
    - Mae rhestrau aros am lety dros dro ar lefelau hanesyddol o uchel, ar ôl cynyddu 150% dros y ddwy flynedd diwethaf.
    - Mae nifer y bobl sy'n cysgu allan wedi mwy na threblu ers 2022 i 2023.
    - Mae'r gwaith a wnaed gan dîm cyngor i mewn i waith y Cyngor wedi cynyddu 75% rhwng yr un cyfnod yn 2019 i 2020.
    - ​Bu cynnydd sylweddol yn nifer y bobl sy'n ceisio cymorth i gael Credyd Cynhwysol.

Gyda mwy o bobl yn ceisio cael mynediad i wasanaethau'r Cyngor, mae’r gost o ddarparu’r gwasanaethau’n codi.

  • ​Pwysau Chwyddiant: Mae chwyddiant uchel wedi golygu bod costau'r holl nwyddau a gwasanaethau’n ddrutach, sy'n golygu bod popeth sydd angen i ni ei brynu i ddarparu ein gwasanaethau yn costio mwy inni.



Mae Llywodraeth Cymru’n wynebu ei phwysau cyllidebol ei hun, ac felly, er ei bod wedi darparu £25m yn ychwanegol i Gyngor Caerdydd, mae hyn yn bell iawn o'r hyn sydd ei angen i dalu'r costau ychwanegol y mae'r Cyngor yn eu hwynebu nawr. Mae rhwymedigaeth gyfreithiol ar y Cyngor i gau'r bwlch yn y gyllideb er mwyn pennu cyllideb gytbwys. Y bwlch yn y gyllideb yw’r bwlch rhwng cost darparu gwasanaethau a faint o arian sydd ar gael. Ar gyfer y flwyddyn nesaf mae'r Cyngor yn wynebu 'bwlch yn y gyllideb' o £30.5m, ac mae'n rhaid i ni ei gau.


Bydd angen cau'r bwlch yn y gyllideb trwy gyfuniad o:

Arbedion Effeithlonrwydd


Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu gwasanaethau rheng flaen ac felly'n ceisio cynhyrchu cymaint o arbedion â phosibl trwy effeithlonrwydd cefn swyddfa. Mae hyn yn golygu lleihau costau rhedeg ein hadeiladau, lleihau faint o le swyddfa sydd ei angen arnom, a defnyddio technoleg newydd lle gall arbed arian i ni. Bydd cau'r bwlch yn y gyllideb hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor edrych ar ostwng nifer y staff a gyflogir mewn modd sy’n cael ei reoli, drwy ddiswyddo gwirfoddol. Gall hyn gynhyrchu arbedion a chadw nifer y diswyddiadau gorfodol mor isel â phosibl.

Treth Gyngor


Mae’r Dreth Gyngor ond yn cyfrif am 26% o gyllideb y Cyngor, ac mae’r gweddill yn dod gan Lywodraeth Cymru. Mae pob cynnydd o 1% yn y dreth gyngor ond yn cynhyrchu tua £1.7m, felly ni fydd unrhyw gynnydd yn y Dreth Gyngor yn ddigon i gau'r bwlch yn y gyllideb.

Defnyddio Cronfeydd Wrth Gefn


Rhaid i'r Cyngor fod yn ofalus iawn wrth ddefnyddio'i gronfeydd ariannol; dim ond swm cyfyngedig sydd ar gael ac unwaith maen nhw wedi mynd, maen nhw wedi mynd. Mae’r rhan fwyaf o gronfeydd wrth gefn y Cyngor wedi'u clustnodi at ddibenion penodol ac felly maent eisoes wedi ymrwymo i gefnogi darparu gwasanaethau, er enghraifft ariannu mentrau cymunedol untro a chefnogi Gwasanaethau Atal Digartrefedd. Mae'r Cyngor yn cynnal lefel o Falans Cyffredinol gwerth £14.2m i dalu am gostau annisgwyl ac mae hyn yn cyfateb i lai na 2% o gyllideb net gyffredinol y Cyngor.

Newid neu Gwtogi ar Wasanaethau


Gyda'i gilydd, ein harbedion effeithlonrwydd fydd cydran fwyaf ein cynilion. Yn anffodus, ni fyddant yn ddigon i fantoli’r cyfrifon, ac efallai y bydd angen newid neu gwtogi ar wasanaethau rhywfaint, ochr yn ochr â thaliadau cynyddol. Dyna pam rydyn ni eisiau gwybod beth mae pobl Caerdydd yn ei feddwl am rai o'r newidiadau posibl y gallen ni eu gwneud i arbed arian.​​

Archif y Gyllideb

​​









© 2022 Cyngor Caerdydd