Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Welsh Language

Fel rhan o weledigaeth Caerdydd Ddwyieithog​ Cyngor Caerdydd, rydym yn annog ac yn argymell yn gryf bod ymgeiswyr yn defnyddio arwyddion, rhybuddion ac arddangosfeydd Cymraeg a Saesneg lle bynnag y bo’n bosibl. Trwy ein gweledigaeth yw i ddatblygu prifddinas wirioneddol ddwyieithog.​​​​​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd

Mae achos busnes cryf i gwmnïau ddefnyddio’r iaith ac mae mwy o gefnogaeth nac erioed o’r blaen i helpu busnesau, mawr a bach, i wneud hynny’n rhwydd. Mae gan Lywodraeth Cymru gynllun ‘Byd Busnes’ sy’n cynnig cefnogaeth, adnoddau a chyngor i fusnesau gan gynnwys gwasanaeth cyfieithu am ddim. Am fwy o wybodaeth, ewch i GOV.UK​​​​​​​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd
 
Wrth ddylunio ac arddangos gwybodaeth ddwyieithog, sicrhewch nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg, gan ystyried:

  • cyflwyniad gweledol deunyddiau (er enghraifft o ran lliw neu ffont unrhyw destun)
  • maint y deunydd
  • Safle ac amlygrwydd y deunydd mewn unrhyw fan cyhoeddus
  • pryd a sut y cyhoeddir, y darperir neu yr arddangosir y deunydd
  • fformat cyhoeddi’r deunydd.


I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â  CaerdyddDdwyieithog@caerdydd.gov.uk

© 2022 Cyngor Caerdydd