Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

National Driver Refusal and Revocation Register

Rydym yn gyfrifol am ychwanegu manylion sylfaenol am yrwyr pan fyddwn yn gwrthod cais neu’n diddymu trwydded.

Pan fyddwn yn derbyn cais am drwydded, byddwn yn gwirio manylion yr ymgeisydd ar y gofrestr i gadarnhau nad oes unrhyw gofnod ei fod wedi'i ddiddymu neu ei wrthod yn rhywle arall.

Mae'r manylion a geir ar y gofrestr wedi'u cyfyngu i wybodaeth a fydd yn helpu i adnabod unigolyn i ryw raddau o gywirdeb. Ni fyddant yn rhoi rhesymau dros weithredu – rhaid i ni gymryd camau dilynol yn sgil unrhyw chwiliadau sy’n dod yn ôl gyda chyfatebiad.

Mae'r Gofrestr Genedlaethol o Wrthod a Diddymu (NR3)​​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd wedi’i datblygu i wella diogelwch y cyhoedd a’u ffydd mewn cerbydau hacni a llogi preifat.

Mae nifer o achosion proffil uchel wedi bod lle mae gyrwyr y gwrthodwyd neu ddiddymwyd eu trwydded mewn un ardal wedi mynd i ardal arall a chael trwydded drwy fethu â datgelu eu hanes.

Mae hyn yn tanseilio diogelwch y cyhoedd os oedd rhesymau dilys dros wrthod neu ddiddymu trwydded, ac yn effeithio ar hyder yn y drefn a’r fasnach cerbydau hacni a llogi preifat. 

Dyma pam mae’r fenter yn cael ei chefnogi’n eang gan yrwyr a chwmnïau dibynadwy, oherwydd bydd yn fecanwaith ar gyfer sicrhau bod gwybodaeth am wrthod a diddymu yn gallu cael ei rhannu rhwng pob awdurdod trwyddedu mewn modd diogel, gan ddileu’r ddihangfa bosibl hon. 

Bydd data’n cael ei gadw ar y gofrestr i helpu awdurdodau trwyddedu i gyflawni eu dyletswydd statudol i fod yn fodlon bod person yn addas a phriodol i feddu ar drwydded cerbyd hacni neu logi preifat.

Yn unol â’r diben hwn, bydd data’n parhau ar NR3 am 25 mlynedd.

Ni fydd trwyddedau sydd wedi’u gwahardd yn cael eu cofnodi ar NR3.

Pan fydd awdurdod yn diddymu trwydded, neu’n gwrthod cais am un, bydd yn cofnodi hyn ar NR3. Bydd y wybodaeth a nodir yn gyfyngedig i:

  • enw
  • dyddiad geni
  • cyfeiriad a manylion cyswllt
  • rhif yswiriant gwladol
  • rhif trwydded yrru
  • penderfyniad a wnaed
  • dyddiad y penderfyniad​
  • dyddiad y daeth y penderfyniad i rym​

Bydd awdurdodau trwyddedu wedyn yn chwilio’r gofrestru pan fyddant yn prosesu ceisiadau newydd neu adnewyddiadau. Pan fydd awdurdod yn ffeindio cyfatebiad ar gyfer cais ar NR3, bydd yn cysylltu â’r awdurdod trwyddedu a wnaeth y cofnod i gael rhagor o wybodaeth. Os caiff ei rhannu, bydd y wybodaeth yn cael ei defnyddio i helpu i ddod i benderfyniad ar yr ymgeisydd.

Bydd unigolion sy’n cael eu hychwanegu at NR3 yn cael gwybod pan benderfynir gwrthod neu ddiddymu eu trwydded. 

Y tu allan i’r cyfnod hwn, gall unigolyn wneud Cais Gwrthrych am Wybodaeth (CGW) am unrhyw ddata personol a gedwir ar NR3. 

Y ‘rheolwr data’ ar gyfer y data hwn yw’r awdurdod trwyddedu. Dylid cyflwyno CGW iddo ef yn y lle cyntaf. 

Y Rhwydwaith Gwrth-Dwyll Genedlaethol yw’r ‘prosesydd data’, hynny yw y sefydliad sy’n storio’r data. Yn yr un modd, dylai unrhyw hawliau eraill sy’n cael eu harfer dan ddeddfwriaeth diogelu data gael eu gwneud i’r awdurdod hwn yn y lle cyntaf.

Mae’n ofynnol dan y gyfraith i awdurdodau trwyddedu ystyried pob cais am drwydded ar ei rinwedd ei hun, ac ni all wrthod cais gan fod ymgeisydd wedi’i gofnodi ar NR3 yn unig.

Diben NR3 yw sicrhau bod gan awdurdodau yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt i’w helpu i benderfynu a yw unigolyn yn addas a phriodol.

Os yw’r amgylchiadau wedi newid ers y penderfyniad a gofnodwyd ar NR3, gallai fod yn briodol i awdurdod arall ddyfarnu trwydded.

​​​


© 2022 Cyngor Caerdydd